Gwobrau'r Loteri Genedlaethol
Datgelwyd enwau enillwyr Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, a’r rheiny a ddaeth yn ail, yn fyw ar BBC1 ar The National Lottery: Big 7, a gyflwynwyd gan Nick Knowles a Myleene Klass ddydd Sadwrn 5 Medi.
Cafwyd dathliad o bob un o’r 21 yn y rownd derfynol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cael cyllid gan y Loteri, yn fyw ar BBC1, a chyflwynwyd y Gwobrau i’r enillwyr gan lu o enwogion a gwesteion arbennig, gan gynnwys yr actores Fay Ripley, y pencampwr deifio dan nawdd y Loteri, Tom Daley, y model a’r gyflwynwraig Lisa Snowdon, a’r darlledwr John Sergeant.
Dyma enillwyr Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni:
- Prosiect Celf Gorau: Canolfan y Celfyddydau Perfformio ac Addysg Greadigol Sefton
- Prosiect Addysg Gorau: Prifysgol Haf Tower Hamlets
- Prosiect Amgylcheddol Gorau: RSPB Dearne Valley – Gwarchodfa Natur Old Moor
- Prosiect Iechyd Gorau, ar y cyd â FemaleFirst.co.uk: Gwasanaeth Allgymorth, Jennifer Trust for Spinal Muscular Atrophy
- Prosiect Treftadaeth Gorau: Adfer Basnau Camlas Stourport-on-Severn
- Prosiect Chwaraeon Gorau: Pafiliwn Chwaraeon y Gymuned
- Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau, ar y cyd â chylchgrawn Woman: Canolfan Ddydd Harbour Place
Derbyniodd y saith enillydd dlws Gwobr y Loteri Genedlaethol ynghyd â gwobr ariannol o £2000 i’w wario ar eu prosiect.
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, sydd bellach yn eu chweched flwyddyn, yn cydnabod y gwahaniaeth y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri, rhai mawr a rhai bach, yn ei wneud i gymunedau lleol ac maent yn dathlu llwyddiannau’r bobl sydd y tu cefn iddynt.
Diolch yn fawr i bawb a wnaeth bleidleisio dros eu hoff brosiectau!
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am bob un o’r 21 yn y rownd derfynol.


