Skip to navigation Skip to main content

Cookies



Amdani

Mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol a'r Llywodraeth i gefnogi unigolion, clybiau, ac awdurdodau lleol sy'n ymrwymedig i wella darpariaeth chwaraeon, cyfranogiad a pherfformiad yng Nghymru.

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig rhaglenni ariannu ar wahân i grwpiau cymunedol ac athletwyr elit. Gall prosiectau cymunedol helpu i brynu cyfarpar newydd, hyfforddi hyfforddwyr neu wirfoddolwyr newydd, sefydlu tîm newydd, gwella eu cyfleuster a mwy. Gall athletwyr uwch ymgeisio am gefnogaeth i'w helpu ar y llwybr at lwyddiant Olympaidd neu Baralympaidd, neu, os nad yw eu chwaraeon yn ymddangos yn y Gemau, hyfforddi i'r lefel gystadlu uchaf posibl.

Ynghyd â dyfarnu arian, mae Chwaraeon Cymru hefyd yn gweithredu Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai ar lannau'r Fenai, rhwng Bangor a Chaernarfon.

Am ragor o wybodaeth am Chwaraeon Cymru ewch i'w gwefan.

Prosiectau gan ddosbarthwr

Sports Council Wales Logo

Ymgeisio am arian

Beth am i chi wneud gwahaniaeth a helpu i weddnewid eich cymuned.