Skip to main content

Top athletes share their recipes for success ahead of Rio Games

16th May 2016

Mae athletwraig triathlon o Abertawe ac un sy'n gobeithio cipio medal yng Ngemau Olympaidd Rio, Non Stanford, yn cefnogi ymgyrch newydd, The Food Champions, sy'n rhannu arferion bwyta a chyfrinachau ail-lenwi ein hathletwyr blaenllaw gyda'r rhai sy'n frwd dros ffitrwydd a phobl sy'n ymgymryd â chwaraeon ar bob lefel.

Mae 40 o ryseitiau iach, blasus, cytbwys yn faethol a hawdd i'w paratoi wedi'u datblygu fel rhan o'r ymgyrch, The Food Champions, a ddyfeisiwyd gan y Loteri Genedlaethol a maethegwyr o Sefydliad Chwaraeon Lloegr: www.thefoodchampions.co.uk

Mae un o'r prydau wedi'i enwi ar ôl Non hyd yn oed, sy'n elwa o gyngor maeth arbenigol wedi'i ariannu gan y Loteri Genedlaethol trwy Sefydliad Chwaraeon Lloegr: Omled Eog Mwg, Asbaragws a Pherlysiau Stanford.

Mae'r ryseitiau yn canolbwyntio ar wyth camp ac wedi'u cynllunio i gyflwyno'r 'canlyniadau maethol' angenrheidiol sy'n rhaid i fwyd eu cyflenwi er mwyn helpu athletwyr i wella perfformiad yn y gamp honno.

Ar gyfer athletwyr triathlon fel Non, mae hyn yn helpu i wella dygnwch, adeiladu cryfder ymarferol, ac adfer rhwng sesiynau.

Dywed Non fod cyngor bwyta arbenigol yn gallu rhoi'r awch cystadleuol i athletwyr:

“Mae'n anrhydedd anarferol ac yn ychydig o hwyl cael rysáit wedi'i enwi ar fy ôl i! Gobeithio y bydd yn annog ffans chwaraeon i edrych ar y wefan a deall pam bod yr hyn maen nhw'n ei fwyta o bwys. Mae ariannu gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn caniatáu i arbenigwyr gyfoethogi ein perfformiad. Bellach gall pawb sydd wrth eu bodd â chwaraeon elwa o gyngor a ariennir gan y Loteri i wella eu perfformiad chwaraeon eu hunain a phara'n iach.”

Ymhlith yr athletwyr eraill o Gymru y mae athletwraig triathlon o Ben-y-bont, Helen Jenkins. Ei rysáit hi yw Salad Nicoise Tiwna Helen, a all rhoi hwb i berfformiad chwaraeon oherwydd bod tiwna yn uchel ei brotein ac olewau omega 3 i helpu'r cyhyrau i wella. Gall rysáit beiciwr gwibio o Gaerdydd, Elinor Barker, Miwsli Pŵer Pedal Elinor, gynnig tanwydd i sesiwn hyfforddi gwibio.

Dywedodd Dr Kevin Currell, Pennaeth Maeth Perfformiad yn Sefydliad Chwaraeon Lloegr:

“Mae bwyd yn rhan allweddol o raglen hyfforddi athletwyr elit ac mae ganddo'r pŵer i effeithio'n gadarnhaol ar berfformiad. Mae dietau athletwyr wedi'u cynllunio i gyd-fynd â galwadau penodol eu campau a sicrhau bod y bwyd a'r ddiod y maen nhw'n ei fwyta ac yfed yn cyfrannu at gyflwyno 'canlyniadau maethol' y mae angen arnynt eu cyflawni er mwyn cefnogi eu trefn hyfforddi.

“Gellir cymhwyso'r egwyddor hon i arferion bwyta unrhyw un sy'n ymgymryd â chwaraeon ac mae'r ryseitiau a ddatblygwyd ar gyfer yr ymgyrch hon wedi'u cynllunio i gyflwyno'r canlyniadau maethol perthnasol angenrheidiol ar gyfer pob un o'r wyth camp. Mae'n anelu at sicrhau bod yr arbenigedd gwyddonol sydd ar gael i athletwyr elit yn hygyrch i gynulleidfa llawer ehangach ac yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddysgu o arferion bwyta athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd ac integreiddio rhai o'r cynghorion hyn i'w trefnau dietegol a hyfforddi eu hunain."

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i Olygyddion

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £34 miliwn bob wythnos dros brosiectau celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymunedol. Mae ariannu chwaraeon yn darparu cyfarpar ac yn gwella cyfleusterau i filoedd o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad ar draws y wlad ac mae'n caniatáu i 1,300 o athletwyr hyfforddi'n llawn amser ac elwa o'r cyfleusterau gwych, hyfforddiant, a chyngor meddygol a gwyddonol blaenllaw trwy sefydliadau megis Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Sefydliad Chwaraeon Lloegr.

Yng Ngemau Olympaidd Atlanta yn 1996, dim ond 15 medal y gwnaeth Prydain eu hennill. Yn dilyn cyflwyno ariannu'r Loteri Genedlaethol yn 1997, mae perfformiad ym maes chwaraeon wedi esgyn. Yn Llundain 2012 fe wnaeth Prydain ennill nifer rhyfeddol o fedalau Olympaidd sef 65 a 120 o fedalau Paralympaidd.

Yn Glasgow 2014 dychwelodd Cymru gyda mwy o fedalau nag erioed o'r blaen sef 36 - gan gynnwys pum medal Aur. Daeth Frankie Jones yr athletwraig gyntaf erioed o Gymru i hawlio chwe medal mewn un Gêm Gymanwlad, gan ennill un Aur a phum Arian, a Jazz Carlin oedd y nofiwr benywaidd cyntaf o Gymru ers 40 o flynyddoedd i ennill medal Aur nofio.

Sefydliad Chwaraeon Lloegr: Yr EIS yw'r tîm y tu ôl i lawer o chwaraeon mwyaf llwyddiannus Prydain Fawr ac mae eu 300 o weithwyr yn cyflwyno dros 4,000 awr o wasanaeth yr wythnos i dros 1,700 o athletwyr. Mae'r EIS yn helpu athletwyr elit i wella perfformiad trwy gyflwyno gwyddoniaeth, gan gynnwys cyngor maethol, meddyginiaeth, technoleg a pheirianneg.

Sefydliad Chwaraeon Cymru: Mae Sefydliad Chwaraeon Cymru (wedi'i leoli yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd) yn gartref i dîm arbenigol o weithwyr proffesiynol gwyddoniaeth a meddyginiaeth chwaraeon sydd yn cynnig cefnogaeth i athletwyr trwy feddyginiaeth chwaraeon ac ymarfer a chefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon.

Mae Ardal Perfformiad Uchel y Sefydliad yn cynnwys lab perfformiad, ardal ymgynghori â meddyg, ystafell ffisio a champfa ac mae'n gartref i dîm o faethegwyr, gweithwyr proffesiynol cryfder a chyflyru, ffisiolegwyr a seicolegwyr. Mae ardal adfer y ganolfan hefyd yn cynnwys hydrobwll a baddonau iâ.