Skip to main content

UK projects hit the jackpot!

7th February 2018

Dengys ffigurau newydd fod dros £1.3 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi’i fuddsoddi ar draws y DU yn 2017.

Dyfarnwyd cyfanswm o 17,048 o grantiau’r Loteri Genedlaethol ar draws y DU y llynedd; gan roi hwb hanfodol i brosiectau celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth ochr yn ochr â grwpiau cymunedol sy’n helpu’r rhai mwyaf anghenus.

Derbyniodd amrywiaeth eang o brosiectau lleol arian y Loteri Genedlaethol y llynedd, gan gynnwys:

  • £3.5 miliwn i StreetGames UK, elusen chwaraeon sy’n helpu cymunedau difreintiedig
  • £9.4 miliwn i Oriel Bortreadau Genedlaethol ar gyfer Inspiring People Transforming Our National Portrait Gallery.
  • £4.8 miliwn i Film Nation UK ar gyfer y Rhaglen Into Film 2017-22.
  • £3.5 miliwn i Scottish Natural Heritage ar gyfer Orkney Native Wildlife Project.
  • £447,000 i Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc Abergwaun a Gwdig, Sir Benfro, i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau i bobl ifanc i wella’u cyflogadwyedd, sgiliau bywyd a synnwyr perthyn o fewn y gymuned.
  • £1.9m i Ddinas Armagh, Banbridge a Chyngor Bwrdeistref Craigavon ar gyfer y prosiect Lurgan Townscape Heritage – prosiect pum mlynedd o hyd i adfywio tref farchnad hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon.

O heddiw ymlaen, mae gan y prosiectau hyn, ac unrhyw sefydliad arall sydd erioed wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol, y cyfle i gael eu cymeradwyo yn genedlaethol trwy gystadlu yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2018 – yr ymgyrch flynyddol i ganfod hoff brosiectau’r cyhoedd a ariennir gan y Loteri.

Bydd enillwyr Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 a chydnabyddiaeth mewn seremoni fawreddog a ddarlledir ar BBC One yn ddiweddarach eleni.

Cyflwynodd enillydd Strictly Come Dancing a’r cyflwynydd teledu, Ore Oduba, sioe Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017 ar BBC One. Dywedodd: “Bob wythnos mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn dros achosion da ac mae’r arian hwnnw yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau sy’n gweddnewid bywydau ar draws y DU.

“Mae miloedd o bobl gyffredin yn gwneud pethau hynod gydag arian y Loteri Genedlaethol o fewn cymunedau ar draws Cymru. Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn gyfle gwych i daflu goleuni ar y rhai sydd wirioneddol yn ei haeddu. Felly os ydych chi’n gwybod am brosiect y Loteri sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, dyma’r amser i enwebu.”

Y llynedd, fe wnaeth rhwydwaith rhedeg ledled y DU, parkrun, ennill Prosiect Chwaraeon Gorau am ei raglen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy’n cefnogi rhedwyr â nam ar eu golwg. Dywed Chris Jones o parkrun ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar y prosiect: “Ers ennill, rydym wedi gweld cynnydd yn niferoedd y bobl sy’n byw gyda dallineb yn cyfranogi yn parkrun. Ac efallai yn bwysicach, rydym wedi gweld gweddnewidiad yn hunanhyder yr unigolion sydd wedi profi eu bod yn gallu cyflawni mwy nac yr oedden nhw yn ei feddwl a oedd yn bosibl.”

Gellir enwebu prosiectau am Wobr y Loteri Genedlaethol mewn saith categori; Celfyddydau, Addysg, Amgylcheddol, Iechyd, Treftadaeth, Chwaraeon a Gwirfoddol/Elusennol i adlewyrchu hyd a lled yr ariannu y mae’r Loteri Genedlaethol yn buddsoddi ynddynt.

I gystadlu â’ch hoff brosiect yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, gallwch drydar @LottoGoodCauses â’ch awgrymiadau neu ffoniwch 02072933599. Rhaid derbyn ceisiadau erbyn hanner nos ar 6 Ebrill 2018.

-DIWEDD-

Nodiadau i olygyddion

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Nicola Bligh yn Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol ar 02072113991 neu e-bost Nicola.Bligh@lotterygoodcauses.org.uk

  • Rhaid i brosiectau sy’n cael eu henwebu lenwi ffurflen gais Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2018
  • Bydd prosiectau ar y rhestr fer yn cystadlu mewn un cylch o bleidlais gyhoeddus yn 2018 i bennu’r enillydd. Bydd yr holl bleidleisiau yn cael eu gwirio’n annibynnol
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae chwaraewyr y Loteri wedi codi dros £37 biliwn dros brosiectau ac mae dros 525,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws y DU
  • Am ragor o wybodaeth am brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol neu Wobrau’r Loteri Genedlaethol ewch i www.achosiondayloteri.org.uk a dilynwch yr ymgyrch ar Twitter: @LottoGoodCauses #NLAwards / #GwobrauLoteri