Velodrôm Cenedlaethol Cymru

Rhowlio'r Peli

Mae'n 'rollover' ARUTHROL! Mae cannoedd o beli anferth y Loteri yn cael eu rhowlio ledled y DU, i dynnu sylw ac i ddathlu amrywiaeth eang o Achosion Da sy'n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol.

Ers 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi swm anhygoel o £22 biliwn - sef £25 miliwn yr wythnos - i Achosion Da ym meysydd y celfyddyau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau/y sector gwirfoddol, iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Bydd peli anferth y Loteri'n ymddangos mewn sawl prosiect a ariennir gan y Loteri yn y DU dros y misoedd nesaf, felly cadwch eich llygaid yn agored amdanynt! Gallwch fynd i'n horiel luniau, i weld rhai o'r peli anferth mewn lleoliadau a ariennir gan y Loteri ar hyd ac ar led y DU, gan gynnwys Castell Caerdydd, Venue Cymru a Phwll Nofio Cenedlaethol Cymru yn Abertawe.

 

Datganiad diweddaraf i'r wasg


£8.5 miliwn o arian y Loteri i brosiectau anableddau dysgu yng Nghymru
£8.5 miliwn o arian y Loteri i brosiectau anableddau dysgu yng Nghymru
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu, ers i'r Loteri ddechrau yn 1994, fod dros £8.5 miliwn o arian y Loteri wedi'i roi i brosiectau yng Nghymru sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu.


© Achosion Da y Loteri Genedlaethol 2009