£8.5 miliwn o arian y Loteri i brosiectau anableddau dysgu yng Nghymru
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu, ers i'r Loteri ddechrau yn 1994, fod dros £8.5 miliwn o arian y Loteri wedi'i roi i brosiectau yng Nghymru sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu.
Mae Caffi Park View yng Nghaerdydd yn un o'r prosiectau sydd wedi manteisio ar y 25,500 o grantiau'r Loteri sydd wedi'u dyfarnu; mae'n helpu pobl ag anableddau dysgu i feithrin sgiliau galwedigaethol ym maes arlwyo a gwasanaethau cwsmeriaid Mae'r hyfforddiant hwn yn magu'r hyder sydd ei angen arnynt i symud ymlaen i waith â thâl neu waith gwirfoddol. O gofio bod 90% o bobl ag anabledd dysgu yn ddi-waith, dyma'r grwp sydd wedi'i allgáu fwyaf o ran recriwtio.
Serch hynny, dengys ymchwil fod o leiaf 65% o bobl o oedran gweithio ag anabledd dysgu am weithio, a'u bod yn gyflogeion awyddus, dibynadwy ac effeithiol pan gânt y cyfle i'w profi eu hunain. Roedd gwirfoddolwyr o Gaffi Park View yng Nghaerdydd am ddiolch i'r rhai sy'n chwarae'r Loteri am y £25 miliwn yr wythnos y maent yn ei godi i brosiectau Achosion Da. Er mwyn amlygu'r gwahaniaeth y mae'r £226,277 y maent wedi'i gael wedi'i wneud, byddant yn gorffen y gwaith o wneud cacen ar ffurf 'pêl Loteri' 1.5 metr2 enfawr, a fydd wedyn yn cael ei rhannu â'r rhai sy'n mynd i'r caffi yn rheolaidd a'r gymuned leol.
"Roeddem am ddiolch i'r rhai sy'n chwarae'r Loteri am yr arian sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ni yma ac i bawb ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru a ledled y DU," meddai Rosie Cribb, Rheolwr Codi Arian a Datblygu. "Yma gall pobl fanteisio ar yr hyfforddiant a gaiff ei gynnig yn y caffi, sy'n rhoi'r sgiliau, yr hunan-dyb a'r hyder iddynt sy'n eu helpu yn y byd ehangach."
Mae gan Mandy, 34 oed, o Gaerdydd, anabledd dysgu a phroblemau iechyd meddwl, ac mae wedi bod yn hyfforddi yn y caffi ers bron ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi magu llawer o hyder, mae wedi gwneud ffrindiau gwych ac mae ei bywyd yn fwy sefydlog. Dywed Mandy, "Rwyf wrth fy modd yn dod i'r caffi. Rwyf bob amser yn dysgu pethau newydd o sut i weithio mewn tîm i sut i goginio bwyd iach mewn ffordd ddiogel."
Cafodd Aerwyn, sy'n dod o Gaerdydd hefyd, hyfforddiant yng Nghaffi Park View ac mae bellach yn un o'r gwirfoddolwyr rheolaidd ac yn hyfforddwr tîm. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaffi Park View, mae wedi ennill tystysgrif Rhwydwaith y Coleg Agored mewn arlwyo ac mae'n rhannu ei sgiliau a'i ryseitiau â gweddill y tîm. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae dros £96 miliwn o arian y Loteri wedi'i fuddsoddi yn y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, prosiectau elusennol a phrosiectau gwirfoddol ledled Cymru.
Mae'r gacen enfawr hon yn rhan o sioe deithiol y DU gyfan, sydd â'r nod o roi sylw i'r amrywiaeth eang o bobl a phrosiectau sy'n cael arian y Loteri. Bydd peli enfawr y Loteri yn ymddangos mewn lleoliadau gwahanol ledled Cymru yr wythnos hon, fel y gall pobl weld mwy o enghreifftiau o'r ffordd o mae arian y Loteri o fudd i'w hardal.
Gallwch eu gweld ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru Abertawe, Castell Caerdydd, Venue Cymru yn Llandudno a Glan yr Afon yng Nghasnewydd.
Mae Jackie Aplin o'r Loteri Genedlaethol yn egluro: "Credwn ei bod yn bwysig bod y rhai sy'n chwarae'r Loteri yn gwybod am yr holl brosiectau gwych, yn eu hardal a ledled Cymru, sy'n bosibl o ganlyniad i'r arian y maent yn helpu i'w godi bob wythnos. Gobeithiwn y bydd profiadau Mandy ac Aerwyn yng Nghaffi Park View a pheli gwynt y Loteri mewn prosiectau ledled y wlad yn helpu i wneud pobl yn fwy ymwybodol o'r ffordd y mae arian y Loteri wedi bod o fudd i'w cymuned leol."
-Diwedd –
Ffeithiau nad ydych o bosibl yn eu gwybod am y Loteri:
1. Bob wythnos, mae'r rhai sy'n chwarae'r Loteri yn codi £25 miliwn i Achosion Da ledled y DU
2. Y llynedd yn unig, buddsoddwyd mwy na £96 miliwn mewn prosiectau yng Nghymru
3. Mae mwy na 25,000 o grantiau wedi'u dyfarnu i brosiectau bach a mawr yng Nghymru ers i'r Loteri ddechrau
4. Mae'r Loteri yn dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed eleni! Tynnwyd rhifau cyntaf y Loteri ar 19 Tachwedd 1994
5. Ers ei lansio yn 1994 mae mwy na £22 biliwn wedi'i godi i Achosion Da
6. Mae dros 300,000 o grantiau'r Loteri wedi'u dosbarthu ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a'r amgylchedd ers 1994. Ond mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin, sef eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled y rhanbarth, gan helpu bywydau pobl leol a gwella'r lleoedd y maent yn eu mwynhau
7. Mae dros hanner pob grant y Loteri yn werth o dan £5,000, gan helpu prosiectau lleol i wneud gwahaniaeth mawr i bobl yn eu cymunedau.
8. Ers i'r Loteri ddechrau yn 1994, mae dros £1 biliwn wedi'i godi i brosiectau sy'n cefnogi iechyd a lles pobl
9. Mae cyfanswm o 436 o fedalau wedi'u hennill yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd gan athletwyr a ariannwyd gan y Loteri, ac enillodd tîm Prydain Fawr y nifer fwyaf o fedalau yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 ers 100 mlynedd
10. Mae dros £10 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i ddosbarthu i brosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc
Am wybodaeth am Achosion Da'r Loteri Genedlaethol a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, ewch i: www.lotterygoodcauses.org.uk I gael gwybodaeth am sut i wneud cais am arian y Loteri Genedlaethol, ewch i: www.lotteryfunding.org.uk neu ffoniwch 0845 275 0000.
I gael rhagor o wybodaeth/lluniau cysylltwch â: Sarah Johnston ar 0207 025 6537/07966 769770 neu anfonwch e-bost i sarah.Johnston@redconsultancy.com