Thank You Wall
Ni yw'ch athletwyr a nhw yw'ch gemau.
Mae EICH athletwyr yn dweud Diolch yn Fawr wrth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Dewiswch athletwr a Thrydar eich neges pob lwc yn ôl #thankyouday
Cefnogaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer 2012.
Mae'r Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn yr wythnos ar gyfer Achosion Da ac mae wedi codi dros £28 miliwn ers iddo ddechrau ym 1994.
Mae'r Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn yr wythnos ar gyfer Achosion Da ac mae wedi codi dros £28 miliwn ers iddo ddechrau ym 1994.
Mae £2.2 biliwn o'r ariannu hwn wedi mynd tuag at lwyfannu digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yma yn y DU wrth i Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd ddod i Lundain, ond nid dim ond y digwyddiad ei hun y mae chwaraewyr y Loteri wedi cyfrannu ato - mae'n llawer iawn yn fwy…p>
Llwyfannu'r Gemau
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn llythrennol wedi helpu i adeiladu'r Gemau Olympaidd gydag ariannu yn mynd tuag at adeiladu pump o gyfleusterau chwaraeon newydd pwysig yn y Parc Olympaidd: y Stadiwm Olympaidd, Parc Felo newydd, Canolfan Ddyfrol, Arena Pêl Law a Chanolfan Hoci. Yn ychwanegol at hyn mae arian Achosion Da'r Loteri Genedlaethol hefyd wedi helpu i greu lleoliadau tirnod a fydd yn gartref i ddigwyddiadau Olympaidd mewn mannau eraill yn Llundain, megis Wembley a'r O2.
Meithrin Perfformiad Athletwyr
Diolch i gyfraniad unigryw chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mae ein hathletwyr yn derbyn cefnogaeth o safon fyd-eang wrth iddynt baratoi at Lundain 2012 a'r tu hwnt. Mae cyfran o arian Achosion Da a godir gan y Loteri Genedlaethol wedi'i dargedu at dros 1,200 o'n athletwyr mwyaf talentog ac mae wedi helpu i sicrhau 438 o fedalau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ers i arian y loteri ddechrau. Mae'r gefnogaeth hon yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth mewn cystadlaethau i athletwyr, gwasanaethau meddygol a gwyddonol, a mynediad at y cyfleusterau gorau y mae gan y DU (ac yn aml y byd) i'w cynnig. Ymhellach mae llwyddo o fewn chwaraeon elit yn gofyn am ymrwymiad llawn amser gan ein hathletwyr, felly mae arian y loteri yn cyfrannu at gostau byw hefyd.
Dod â 2012 i'r Gymuned
Mae cefnogaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer 2012 yn ymwneud â mwy na pherfformiad elit - mae hefyd yn ymwneud â chreu cyfleoedd i bawb gael eu hysbrydoli gan ysbryd y Gemau. Dyma pam ein bod wedi ariannu'r Olympiad Diwylliannol a phrosiectau chwaraeon ar lawr gwlad ar draws y wlad.
2012-09-12 07:34:07
Thank you @lottogoodcauses & @TNLUK players. Your support made the difference. See our thanks to U at http://t.co/NUBk8VNN #yourathletes
2012-09-10 12:17:08
Thank You @lottogoodcauses and @TNLUK players. Your support makes a difference. See our thanks to YOU at http://t.co/0HyfesS1 #yourathletes
