Y Gronfa Loteri Fawr
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i wella cymunedau a bywydau'r bobl fwyaf anghenus gydag arian a godir gan y Loteri Genedlaethol...
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i wella cymunedau a bywydau'r bobl fwyaf anghenus gydag arian a godir gan y Loteri Genedlaethol...
Y Gronfa Loteri Fawr yw'r mwyaf o blith dosbarthwyr arian y Loteri ac mae'n gyfrifol am ddosbarthu 40 y cant o arian achosion da'r Loteri. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cefnogi prosiectau sy'n gweithio o fewn ardaloedd iechyd, addysg a'r amgylchedd lleol, ac at ddibenion elusennol.
Ers iddi gael ei sefydlu ym mis Mehefin 2004, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £6 biliwn i brosiectau ar draws y DU. Mae rhwng 80 a 90 y cant o grantiau yn cael eu dosbarthu i sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol, ac maen nhw'n amrywio yn eu maint o rai cannoedd o bunnau i filiynau o bunnau!
Er bod y Gronfa Loteri Fawr yn cefnogi mentrau ar draws y DU, mae'r rhan fwyaf o'u hariannu yn cael ei wneud trwy raglenni sydd wedi'u teilwra'n benodol i anghenion cymunedau yng Nghymru, Yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Am ragor o wybodaeth am y Gronfa Loteri Fawr ewch i'w gwefan.
Ymgeisio am arian
Beth am i chi wneud gwahaniaeth a helpu i weddnewid eich cymuned.