Skip to main content

Canllaw Arbenigwyr i Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol – Fel y Gwelir ar Sgrîn

O Downton Abbey i Bridgerton i James Bond, mae’r DU yn gartref i rai o ffilmiau a sioeau teledu mwyaf eiconig y byd. Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn gyfle perffaith i ymweld â lleoliadau ffilmio enwog, lle y gallwch gamu i mewn i fyd eich hoff ffilm neu gyfres a chanfod storïau rhyfeddol y tu ôl i’r sgrîn. Gwiriwch y lleoliadau ac atyniadau isod am ychydig o ysbrydoliaeth … a pheidiwch ag anghofio eich tocyn neu gerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol (digidol neu ffisegol) y gellir ei ddefnyddio i ddatgloi cynigion arbennig yn ystod yr Wythnos Agored.

1. Lleoliad: Palas Cwrt Hampton

Lleoliad:
Llundain

Cynnig:
Dyddiau agored yr ardd 19 a 20 Mawrth, a 10% oddi ar adwerthu ac arlwyo 19, 20, 24-27 Mawrth.

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Mae cyn gartref Brenin Harri VIII, Palas Cwrt Hampton, yn ymddangos yn ddeuol fel cartref moethus y Frenhines Charlotte yn nrama cyfnod poblogaidd Netflix sef Bridgerton. Gellir gweld golygfeydd ysblennydd o’r cwrt allanol yn y golygfeydd agoriadol pan mae’r cerbydau yn cyrraedd ar gyfer dawns y Frenhines Charlotte. Mae Downton Abbey, The Young Victoria, The Favourite, Pirates of the Caribbean: On Stranger Tides a llawer iawn mwy wedi cael eu ffilmio hefyd ym Mhalas Cwrt Hampton.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Ewch ar daith yn ôl mewn amser ac ymweld â rhai o leoliadau’r ffilm The Favourite a enillodd Oscar. Peidiwch â cholli Ceginau Harri VIII, yr Oriel Gartwnau a Chwrt y Ffynnon, sydd oll yn rhan o’r ffilm.

2. Lleoliad: Amgueddfa Bywyd yr Ardal Ddu

Lleoliad: Location: Dudley, Gorllewin Canolbarth Lloegr

Cynnig:
Mynediad am ddim 20 a 25 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Mae Amgueddfa Bywyd yr Ardal Ddu wedi bod yn lleoliad cefndirol lle ffilmiwyd rhai o’r momentau mwyaf cofiadwy yng nghyfres ddrama’r BBC sef Peaky Blinders. O olygfeydd agoriadol eiconig y sioe lle roeddem yn cwrdd â Tommy Shelby yn cyrraedd ar gefn ceffyl, hyd at Fuarth Charlie lle cynhaliwyd yr olygfa ‘Parti Te’. Ynghyd â’r ddrama giangstars sydd wedi ennill gwobrau, mae’r amgueddfa wedi bod yn lleoliad ar gyfer golygfeydd cefndirol i ffilmiau poblogaidd yn cynnwys The Colour Room a Stan & Ollie hefyd.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Ewch am dro dros bont godi’r gamlas a mynd i fyny’r rhiw i gael yr olygfa orau o Amgueddfa Bywyd yr Ardal Ddu – y cefndir i’r momentau cofiadwy yn Peaky Blinders.

3. Lleoliad: The Eden Project

Lleoliad: Bodelva, Cernyw

Cynnig: Mynediad Am Ddim – 19 – 27 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr: Defnyddiwyd The Eden Project, atyniad eco i ymwelwyr, i ffilmio rhan fewnol palas iâ Gustav Graves yn ffilm James Bond 2022, sef Die Another Day. Dringodd actor styntiau Halle Berry i lawr y biomau trofannol go iawn ar gyfer y ffilm. Mae Eden wedi’i gynnwys mewn nifer o gyfresi teledu hefyd, gan gynnwys Gardeners’ World ar y BBC, Landscape Artist of the Year ar SKY, and George Clarke’s Amazing Spaces ar Sianel 4.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Ewch i edrych ar yr ardd Chile Gwyllt – gardd lai adnabyddus ar Stad Allanol Eden, fe fyddai’n werth chweil edrych ar yr ardd hon – os gallwch ei chanfod! Mae’n gartref i lu o goed Pinwydd Chile a’r Great Hive Mind: gosodiad trawiadol a wnaed o bolion sgaffaldiau wedi’u hadfer sy’n cynnig cartref i rhwng 25,000 – 50,000 o wenyn.

4. Lleoliad: Abaty Fountains

Lleoliad:
Ripon, Gogledd Swydd Efrog

Cynnig: Mynediad am ddim 19 – 27 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr: Roedd Abaty Fountains yn gartref i’r fynedfa gudd i The Secret Garden, sef addasiad ffilm 1993 o’r nofel eiconig gan Frances Hodgson Burnett. Ffilmiwyd ail gyfres y ddrama Netflix The Witcher hefyd yn yr Abaty, ynghyd â sioe Anne Boleyn ar Sianel 4 a’r ddrama Gunpowder ar y BBC.

Awgrym gan yr arbenigwyr: Wedi edmygu Abaty Fountains, ewch ar ymweliad ag un o erddi dŵr Sioraidd mwyaf godidog Lloegr ym Mharc Brenhinol Studley sydd gerllaw. Yn rhyfeddol, mae’r ardd a welwch heddiw heb newid llawer o’r un a fyddai wedi denu edmygedd ymwelwyr 200 mlynedd yn ôl.

Explore the full list National Lottery Open Week offers at www.NationalLotteryOpenWeek.com.

All Good Causes