Skip to main content

Canllaw Arbenigwyr i Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol – Dyddiau Allan Cŵn Campus

Fe’i gelwir hwy yn ffrind gorau dyn am reswm ac i nifer, mae mynd â chi ar ddiwrnod allan yn hanfodol. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi creu casgliadau o’r lleoedd gorau i ymweld â hwy gyda’ch ffrind pedair coes yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol, gyda llawer o opsiynau i weld yr awyr agored gwych a hyd yn oed fwynhau hufen iâ i gŵn.

1. Lleoliad: Seaton Delaval (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Lleoliad: Seaton Delaval, Northymbria

Cynnig yr Wythnos Agored: Mynediad am ddim 19 – 20 a 23 – 27 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr: Dyluniwyd Seaton Delaval gan y pensaer Saesneg adnabyddus, John Vanbrugh ar gyfer y teulu Delaval, a adwaenwyd, fel arall, fel y ‘Gay Delavals’. Roedd y teulu yn adnabyddus am eu hoffter o jôcs a chwarae castiau, a gallai gwesteion oedd yn aros yn y tŷ, ddeffro i weld y dodrefn wedi’u gludo i’r nenfwd!

Awgrym gan yr arbenigwyr: Mwynhewch ddiwrnod allan gyda’ch ci gan fod ffrindiau pedwar coes yn cael caniatâd i fynd ar y tiroedd (ar dennyn). Tra eich bod yn ymweld, peidiwch â cholli allan ar rai o’r gosodiadau celf newydd y gellir eu canfod ar draws y safle.

2. Lleoliad: Amgueddfa Dyfrffyrdd Cenedlaethol

Lleoliad: Caerloyw, Sir Gaerloyw

Cynnig yr Wythnos Agored:
Mynediad am ddim ac anrheg am ddim – 22 hyd at 26 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Nid yw bod yn adnabyddus ac yn llygad y cyhoedd yn rhywbeth anghyfarwydd i ddociau Caerloyw. Roeddynt wedi bod yn lleoliad cefndirol ar gyfer golygfeydd o’r ffilm Disney poblogaidd iawn ‘Alice Through The Looking Glass’. Hefyd, os byddwch yn crwydro (neu’n padlo!) ar hyd dyfrffordd hyfryd Camlas Caerloyw & Sharpness, efallai y byddwch yn ei adnabod fel y lleoliad ar gyfer llawer o gyfres gyntaf y ddrama deledu ffantasi, His Dark Materials.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Oeddech chi’n gwybod fod yr holl amgueddfa yn lle cyfeillgar i gŵn? Mae hyd yn oed hufen iâ i gŵn ar werth er mwyn i ffrind pennaf dyn ei fwynhau.

3. Lleoliad: Castell y Waun (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Lleoliad:
Y Waun, Sir Wrecsam

Cynnig yr Wythnos Agored: Mynediad am ddim 19 – 27 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr: Mae hanes Castell y Waun yn cwmpasu dros 700 mlynedd, ac yn yr amser hwnnw, mae pump o’i berchnogion wedi cael eu dienyddio am deyrnfradwriaeth. Wedi’i adeiladu yn y canol oesoedd, mae’n un yn unig o gaerau Edward I yn y gororau sydd dal yn breswylfa heddiw ac nid yn unig y mae’n cynnig golygfeydd godidog o’r cefn gwlad cyfagos ond cyfleoedd hefyd i weld nodweddion gwreiddiol o’r cyfnod hwnnw.

Awgrym gan yr arbenigwyr: Mae hanes cŵn ar y stad yn dyddio’r holl ffordd yn ôl i’r canol oesoedd, pan fyddai’r teulu yn rhoi bleiddgwn hela mewn cynelau o dan y bont fynedfa. Mwynhewch un o dri llwybr ar draws tiroedd y Castell gyda’ch ci.

4. Lleoliad: The Argory (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Lleoliad:
Strangford, County Down

Cynnig yr Wythnos Agored: Mynediad am ddim 19 – 27

Ffaith gan yr arbenigwyr: Yr Afon Blackwater sy’n rhedeg nesaf at The Argory yw un o’r lleoedd gorau yn y Gogledd i weld y Glas y Dorlan swil a gwibiog mewn gwirionedd. Fel arfer, mae o leiaf un par yn nythu ar lannau’r afon, ond i sylwi ar un, mae amynedd a’r gallu i aros yn dawel ac ynghudd yn ofynnol.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Croesewir cŵn ar dennyn yn Castle Ward, ond mae ardal ymarfer benodedig lle y gellir eu tynnu oddi ar eu tennyn i fwynhau rhedeg.

5. Lleoliad: Pentref Tramffordd Crich

Lleoliad:
Crich, Swydd Derby

Cynnig yr Wythnos Agored:
Dau am bris un – 21 – 23 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Mae nifer o adeiladau ar hyd y stryd yn y Pentref Tramffordd wedi cael eu hachub i bob diben o drefi a dinasoedd ar draws y DU. Mae’r rhain yn cynnwys Tafarn a Bwyty’r Llew Coch y gellid eu canfod yn wreiddiol yn Stoke-on-Trent, ac sy’n gweini detholiad o fyrbrydau, diodydd poeth, a chwrw go iawn wedi iddo gael ei ailadeiladu bric wrth fric ar y safle. Mae ffenestri’r Neuadd Arddangos hefyd sydd wedi dod o ddepo tram Doncaster a blaen Ystafelloedd Ymgynnull Derby a gyrhaeddodd yn Crich wedi tân yn y lleoliad gwreiddiol.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Peidiwch â gadael eich cŵn adref pan fyddwch yn camu yn ôl mewn amser. Maen nhw’n cael eu caniatáu ar lawer o’r safle, heblaw am yr ystafelloedd te a’r ardal chwarae i blant.

Explore the full list National Lottery Open Week offers at www.NationalLotteryOpenWeek.com.

All Good Causes