Skip to main content

Canllaw Arbenigwyr i Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol – Achub Rhywogaethau

O fflora i ffawna, mae lleoliadau ac atyniadau Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol eleni yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddychwelyd at natur a gweld bywyd gwyllt yn agos ar draws y DU. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi crynhoi ychydig o’r prif awgrymiadau a gwybodaeth arbenigol i sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o’r gwarchodfeydd, parciau a hyd oed Biomau sy’n cymryd rhan ac yn cefnogi bywyd gwyllt y DU. Peidiwch ag anghofio defnyddio eich tocyn neu gerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol (digidol neu ffisegol) ar gyfer eich cynigion arbennig yr Wythnos Agored hon.

1. Lleoliad: Saltholme, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)

Lleoliad:
Stockton-on-Tees, Middlesborough

Cynnig yr Wythnos Agored: Mynediad am ddim – 19 – 27 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Mae Saltholme yn gartref i un o gytrefi bridio mewndirol mwyaf y DU o adar môr Prydain – gwenoliaid y môr, sy’n cyrraedd pob gwanwyn i nythu ar yr ynysoedd sydd wedi’u gorchuddio â chregyn cocos yn eu pyllau agored. Mae’r ynysoedd yn cynnig safle nythu delfrydol i’r adar hyn, gan eu bod ymaith o famaliaid ysglyfaethus a phobl yn sathru arnynt yn ddamweiniol.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Yn yr haf, ewch ar ymweliad â chuddfannau Paddy's Pool a Saltholme Pools
i weld y gwyachod mawr copog ifanc streipiog a fflwfflyd sy’n mynd ar gefnau eu rhieni.

2. Lleoliad: Slimbridge (Ymddiriedolaeth Gwlybtiroedd ac Adar Dŵr)

Lleoliad:
Slimbridge, Sir Gaerloyw

Cynnig yr Wythnos Agored:
Mynediad 2 am 1 – 19 – 27 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Oeddech chi’n gwybod mai WWT Slimbridge yw’r unig le yn y DU lle gallwch weld y chwe rhywogaeth o fflamingo i gyd? Mae ganddo’r boblogaeth uchaf o amffibiaid yn Ewrop hefyd a dyma lle y sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Gwlybtiroedd ac Adar Dŵr (WWT) i bob diben gan Syr Peter Scott. Fe fyddai’n mynd ymlaen yn ddiweddarach i sefydlu’r Gronfa Fyd Eang dros Natur, gan ddylunio’r logo gwreiddiol ar ei chyfer hefyd.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Am y profiad gwylio adar gorau, ymwelwch yn y gaeaf lle y gallwch weld yr elyrch Bewick wrth iddynt ymfudo i Slimbridge o Rwsia am y tymor. Mae’r sesiynau bwydo adar gwyllt yn y gaeaf yn ffordd wych o weld yr adar hardd hyn yn agos.

3. Lleoliad: The Eden Project

Lleoliad:
Bodelva, Cernyw

Cynnig yr Wythnos Agored:
Mynediad am ddim – 19 – 27 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Cadwch lygad am y cerflun trawiadol a wnaed o fetel sgrap, gan yr artist, James Wild. I’w ganfod yn y Bïom Coedwigoedd Glaw, mae ar ffurf Orangwtan, gan amlygu’r effaith mae dadgoedwigo i gynaeafu olew palmwydd yn ei gael ar gynefinoedd sydd mewn perygl difrifol.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Ewch syth i’r Bïom Coedwigoedd Glaw y peth cyntaf yn y bore i brofi’r lleithder anhygoel ac arogl cyfoethog, daearol y goedwig law.

4. Lleoliad: Parc Sirol Creggan

Lleoliad
: Creggan, Derry

Cynnig yr Wythnos Agored: Te, coffi a chacen am ddim – 20 a 23 – 25 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr: Oeddech chi’n gwybod fod yr Hyb Natur yn arfer bod yn faes pêl-fasged? Mae wedi cael ei drawsnewid dros y ddegawd ddiwethaf a nawr yn cynnwys drysfa gwrychoedd, ystafelloedd dosbarth yn yr awyr agored, pwll, ardal adrodd storïau, gemau a llwybr llyfr stori The Lorax.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Dringwch y grisiau i fynd at bwynt gwylio’r ardal gadwraeth a gweld golygfeydd o’r afon Foyle, llyn Foyle a mynyddoedd Binevenagh mountain yn y pellter ar ddiwrnod clir.

Explore the full list National Lottery Open Week offers at www.NationalLotteryOpenWeek.com.

All Good Causes