Skip to main content

Ash kicks off Lotto tour in Wales

27th January 2016

Fe wnaeth deiliad record y byd o Gymru arddangos ei sgiliau ym Mae Caerdydd heddiw.

Lansiodd Ash Randall, freestyler pêl-droed a aned yng Nghaerdydd, ac sy'n dal 18 record byd, Ddelwedd Ddathliadol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae'r ddelwedd yn teithio'r DU i nodi pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 21 oed.

Yn rhan o'r ddelwedd y mae Ash Randall a'r Ganolfan, a adeiladwyd 11 mlynedd yn ôl gyda chymorth grant y Loteri gwerth £42 miliwn.

Mae Ash Randall, 26 oed, yn rhan o dri phrosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.

Mae Somewhereto_ yn helpu pobl i ddatgloi eu potensial trwy ddatgloi gofod am ddim i bobl weithio ac ymarfer ynddo. Roedd Ash wedi gallu defnyddio lleoliadau gan gynnwys Castell Caerdydd a ariennir gan y Loteri i greu fideo o'i waith, gan arddangos ei ddinas enedigol.

Mae Ash yn llysgennad Street Football Wales, sy'n defnyddio pêl-droed i wella bywydau pobl sydd wedi'u hallgau yn gymdeithasol, ac mae pedair cynghrair ar draws Cymru.

Fe wnaeth Fixers helpu Ash i greu ffilm fer i annog pobl ifanc i wireddu eu talentau. Mae Fixers yn helpu pobl ifanc ar draws y DU i ymgyrchu ar faterion o bwys iddynt hwy, gan ddefnyddio'u gorffennol i drwsio'r dyfodol. Roedd Ash eisiau dangos i bobl ifanc y gallant gyflawni beth bynnag y maen nhw'n anelu ato, cyhyd â bod ganddynt yr angerdd a'r anogaeth i wneud hynny.

Dywed Ash Randall:

“Hoffwn ddiolch yn fawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am godi arian i'r holl brosiectau gwych hyn, ac am sicrhau bod yr holl bethau hyn yn bosibl."

Yn fachgen, roedd ffilmiau o driciau pêl-droed wedi creu argraff ar Ash, a newidiodd hynny ei fywyd. Aeth ati i ymarfer, dysgu sgiliau newydd a'u perfformio, gan sicrhau diddordeb cynyddol yn ei waith. Bellach mae Ash yn un o beldroedwyr freestyle proffesiynol mwyaf blaenllaw'r byd, ac mae'n teithio'r byd yn perfformio i wahanol gynulleidfaoedd.

Y llynedd fe gipiodd record y byd am yr amser hwyaf yn jyglo ar do cerbyd sy'n symud, gan berfformio ar lain ym Maes Awyr Caerdydd.

Delwedd Ddathliadol y Loteri Genedlaethol

Mae Delwedd Ddathliadol y Loteri Genedlaethol ar daith o amgylchedd orielau'r DU. Mae'n cyflwyno stori 21 mlynedd o ariannu'r Loteri trwy nifer helaeth o straeon llai. Mae'r darn celf yn dathlu'r pethau anhygoel y mae pobl wedi'i gyflawni gydag arian y Loteri, o ennill medalau Olympaidd i helpu cyn-filwyr rhyfel i wella o anhwylder straen wedi trawma.

Mae'r Ddelwedd Ddathliadol yn cynnig cipolwg di-oed i ystod ac amrywiaeth y prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Mae'r darn yn dwyn ynghyd mwy na 150 o bobl y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi cyffwrdd â hwy o fewn un ddelwedd.

Mae'r ddelwedd orffenedig yn cynnwys dros 50 o brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i gyd ar yr un raddfa, ble y mae pob unigolyn yn gysylltiedig â gweithgaredd y maen nhw'n ei ystyried yn gynrychiolaeth o'u gwaith.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi mwy na £34 biliwn dros brosiectau celfyddydau, addysg, amgylcheddol, iechyd, treftadaeth, chwaraeon a gwirfoddol ar draws y DU er 1994. Mae'r Ddelwedd Ddathliadol yn dathlu ehangder ac amrywiaeth gwych yr ariannu hwn sydd ar gael i bobl yn y DU.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Nicola Bligh ar 020 7211 3991