Skip to main content

MINING MEMORIES SAVED THANKS TO NATIONAL LOTTERY SURPRISE

24th January 2017

Cafodd cyn-löwr ei synnu ar ôl ymweliad gan chwaraewr cudd y Loteri Genedlaethol a ddatgelodd fod cais ariannu wedi bod yn llwyddiannus.

Cyflwynwyd siec i John Wiltshire o £40,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i helpu i ddiogelu gwaddol y lofa ddofn ddiwethaf yng Ngogledd Cymru.

Roedd hyn yn rhan o ymgyrch 'Diolch Cymru' y Loteri Genedlaethol, sy'n caniatáu i chwaraewyr ddysgu mwy am y prosiectau sy'n elwa pan fydd chwaraewr yn prynu tocyn y loteri.

Bu Vicky Peterson, 46 o Gaerdydd, yn actio fel gwirfoddolwr i ddysgu mwy am y prosiect.

Arweinir prosiect Y Parlwr Du: Ddoe a Heddiw gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint a bydd yn dod â threftadaeth y lofa yn fyw trwy Lwybr y Glowyr a thaith gron yn defnyddio Llwybr Arfordir Cymru rhwng Ffynnongroyw a Thalacre.

Dywedodd John, sy'n gadeirydd ar Dreftadaeth Gymunedol y Parlwr Du (POACH): “Mae'r arian hwn gan y Loteri Genedlaethol yn werthfawr iawn i mi a'r glowyr eraill. Ers i'r Parlwr Du gau a'i wastadu ym 1996 bellach does fawr ddim tystiolaeth o'i fodolaeth.

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael dod â'r pwll yn ôl yn fyw, ac i addysgu pobl leol ac ymwelwyr am bwysigrwydd y pwll, nid dim ond yn lleol, ond hefyd i dreftadaeth Cymru gyfan.

“Pan ddatgelodd Vicky nad oedd hi gyda ni i wirfoddoli, a chyflwyno siec i mi, roeddwn ar ben fy nigon. Rydym oll wedi breuddwydio am dderbyn yr arian hwn gan y Loteri Genedlaethol ers i ni gyflwyno'r cais, a bydd yn mynd ymhell i wireddu ein gweledigaeth.”

Dywedodd Vicky Peterson, sy'n gweithio fel rheolwr prosiect ar gyfer Lloyds Bank ac sydd wedi bod yn chwarae'r Loteri Genedlaethol o'r dechrau: “Nid bob dydd y mae rhywun yn cael cyfle i drosglwyddo siec i sefydliad gan wybod bod yr arian yn mynd i helpu i wneud gwahaniaeth i gymuned gyfan.

“Mae John yn teimlo mor angerddol dros y prosiect, roedd hynny'n amlwg wrth siarad ag ef. Bydd yr arian yn cynnig adnodd addysgol pwysig i ysgolion, ymwelwyr a phobl leol, yn esbonio treftadaeth yr ardal. Fe wnes i wirioneddol fwynhau'r diwrnod ac roedd yn brofiad gwych cael bod yn rhan ohono.

“Pan fyddwch chi'n prynu tocyn y Loteri Genedlaethol rydych chi fel arfer yn meddwl am yr arian sydd ar gael, ond heb feddwl gormod am y ffaith bod peth o arian y tocyn yn mynd ar fentrau cymunedol lleol haeddiannol iawn megis Y Parlwr Du Ddoe a Heddiw.”

Dywedodd Jackie O’Sullivan, Cyfarwyddwr Achosion Da'r Loteri Genedlaethol:

“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi swm anferth o £1.6 biliwn dros brosiectau ar draws Cymru gyfan. Mae'r ymgyrch 'Diolch Cymru' yn diolch i chwaraewyr y loteri oherwydd hebddynt hwy ni fyddai hyn yn bosibl. Rydym eisiau hysbysu chwaraewyr y Loteri Genedlaethol o'r miloedd o brosiectau gwych ar draws Cymru sy'n llwyddiannus, diolch i'w hariannu."

Cyfarfu Vicky hefyd â Mike Taylor, o Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint. Mae'r prosiect yn gydweithrediad rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, POACH, Shropshire Miners Trust ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth gan ENI, Dangerpoint, RSPB, ac arian cyfatebol gan Gronfa Cymunedau'r Arfordir.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Gynllunio a'r Amgylchedd, Y Cynghorydd Bernie Attridge: “Rydym wrth ein bodd yn Sir y Fflint o gael chwarae rhan mewn prosiect mor deilwng ac mae'r canlyniadau wedi cael croeso cynnes. Mae'r grant gan y Loteri Genedlaethol wedi mynd ymhell at adfer y tirnod hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Gwyliwch fideo o Vicky yn rhoi'r syrpreis i John yma- XXXXXX neu ar Facebook

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion:

Ynglŷn ag Achosion Da y Loteri Genedlaethol

  • Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae chwaraewyr wedi codi dros £1.6 biliwn i dros 46,000 o brosiectau yng Nghymru, sy'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru
  • Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi tua £30 miliwn yr wythnos dros brosiectau ar draws y DU
  • Dyfernir yr arian gan sefydliadau sydd â gwybodaeth arbenigol o'u sectorau.
  • Loteri Genedlaethol y DU sy'n rhoi un o'r canrannau uchaf o refeniw'r loteri yn ôl i gymdeithas yn y byd
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri ddyfarnodd grant o £40,500 i'r Parlwr Du Ddoe a Heddiw, tra bod y Gronfa Loteri Fawr, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwarae Cymru hefyd yn dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, ac mae The British Film Institute (BFI) yn cefnogi ffilm yng Nghymru ac UK Sports yn cefnogi athletwyr elit o Gymru
  • Am ragor o wybodaeth, ewch i http://www.lotterygoodcauses.org.uk/

Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri

  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw cyllidwr pwrpasol mwyaf ar dreftadaeth yn y DU
  • Mae £7.1 biliwn wedi'i ddyfarnu i dros 40,000 o brosiectau treftadaeth er 1994
  • Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn buddsoddi arian i helpu pobl ar draws y DU i archwilio, mwynhau a diogelu'r dreftadaeth y maen nhw'n pryderu amdani
  • Mae'r rhain yn amrywio o'r archaeoleg o dan ein traed i'r parciau a'r adeiladau hanesyddol yr ydym yn eu caru, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin
  • I gael gwybod mwy, ewch i https://cymraeg.hlf.org.uk/

Y Parlwr Du:

  • Bydd prosiect Y Parlwr Du Ddoe a Heddiw yn cynnwys taith sain gyda lleisiau glowyr go iawn, cerflun o ferlen y pwll, paneli dehongli, a llyfryn atgofion glowyr.
  • Bydd hen olwyn y lofa yn cael ei hadnewyddu a'i chludo yn ôl i'r safle i fan amlwg wrth Lwybr yr Arfordir.
  • Bydd ysgolion yn dysgu am y lofa ac ecoleg y foryd gyda chymorth gan RSPB a gweithwyr Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint.
  • Byddant yn gweithio gydag ysgolion lleol ac artistiaid i gynhyrchu'r gwaith celf ar gyfer y paneli.
  • Bydd cyn-lowyr yn cael eu cyfweld i gael eu straeon ar gof a chadw, a bydd band pres a chôr y lofa yn cael eu recordio ar gyfer y daith sain.
  • Caeodd Glofa'r Parlwr Du, ger Prestatyn ym 1996 ar ôl mwy na 100 mlynedd o gloddio, ac oedd y lofa ddofn olaf a fu'n gweithio yng Ngogledd Cymru
  • Gweithiwyd ar y gwythiennau glo o dan aber Afon Dyfrdwy ac er gwaethaf y ffaith bod digon o lo ar ôl, fe gaeodd y pwll o ganlyniad i'r gostyngiad yn y galw am lo oherwydd defnydd ar nwy wrth gynhyrchu trydan.
  • Am ragor o wybodaeth am Dreftadaeth Y Parlwr Du, ewch i https://poachblog.wordpress.com/