Skip to main content

WELSH WILDLIFE CHARITY WINS NATIONAL LOTTERY AWARD

13th August 2015

Michaela Strachan “Wrth ei bodd” gyda phrosiect adar prin y buddugwyr

Heddiw (Dydd Iau 13 Awst 2015) rhoddodd y cyflwynydd teledu Michaela Strachan syndod i staff a gwirfoddolwyr yng ngwarchodfa bywyd gwyllt y Tŵr Gwylio 360 pan gyflwynodd hi Wobr y Loteri Genedlaethol iddyn nhw.

Cafodd y prosiect 10,246 o bleidleisiau gan ennill y prosiect amgylcheddol gorau yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni - yr ymgais flynyddol i ddod o hyd i hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri.

Yr arsyllfa oedd yr unig brosiect o Gymru oedd yn cystadlu yn erbyn chwech o brosiectau eraill i ennill y wobr hon. Bydd y prosiect yn ennill gwobr ariannol o £2,000 a thlws eiconig Gwobrau'r Loteri Genedlaethol a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo llawn sêr, The National Lottery Stars, gaiff ei ddarlledu ar BBC One ar 21 Medi.

Mae'r prosiect wedi'i leoli yng nghanol gwlyptir anghysbell yng Nghymru, ar warchodfa natur Cors Dyfi ger Machynlleth, ac mae'n rhoi cyfle i bobl gael golwg unigryw ar gymysgedd gwych o fywyd gwyllt - yn arbennig y gweilch prin sy'n nythu llai na 200m i ffwrdd.

Meddai Michaela Strachan:

"Mae hwn yn brosiect sydd wedi bod yn agos at fy nghalon i erioed. Mae wedi cysylltu cymaint o bobl gyda gweilch ac wedi bod yn llwyddiant enfawr. Angerdd ac ymrwymiad y bobl fan hyn sydd wedi golygu bod gweilch wedi magu'n llwyddiannus yma yng Nghymru. Mae'n stori o lwyddiant cadwraethol o gofio bod parau magu yn ddiflanedig yn y DU erbyn 1916, a dim ond dros y blynyddoedd diwethaf y daeth yr adar yn ôl i Sir Drefaldwyn.”
“I mi, mae'r prosiect yn enillydd teilwng iawn ac mi rydw i wrth fy modd yn cyflwyno eu gwobr iddyn nhw."
Meddai Emyr Evans, Rheolwr y prosiect:

"Roedd hi'n anrhydedd bod dros 10,000 o bobl wedi pleidleisio drosom ni fel y prosiect amgylcheddol gorau, ac mi rydw i'n falch ein bod wedi cael y gydnabyddiaeth genedlaethol hon. Mae ein staff, ein gwirfoddolwyr a'n llu cefnogwyr wedi gweithio'n galed er mwyn i ni ennill y wobr glodfawr hon.

"Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi caniatáu i ni ddylunio ac adeiladu arsyllfa i bawb, lle gall teuluoedd ddod a gofyn cwestiynau, lle gall athrawon a disgyblion ddysgu am yr amgylchedd, lle gall pobl hŷn fwynhau natur, a lle gall y gymuned wirfoddoli a chroesawu ymwelwyr - does na ddim adeilad arall drwy Brydain gyfan sy'n debyg iddo fo."

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i Olygyddion:

Mwy am y Gwobrau
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £34 miliwn yr wythnos ac mae'r arian hwnnw'n mynd i gefnogi pobl a phrosiectau ar draws y DU. Mae'r Gwobrau'n ffordd wych i ddangos i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol lle mae eu harian wedi mynd a'r gwahaniaeth y mae chwarae'r Loteri bob wythnos yn ei wneud i fywydau mewn cymunedau ar draws y DU.

Mae'r Gwobrau'n cynnwys saith categori, yn adlewyrchu prif feysydd ariannu'r Loteri: y celfyddydau, addysg, yr amgylchedd, iechyd, treftadaeth, chwaraeon a gwirfoddol/elusennol.


Mwy am y prosiect:
Mae'r Tŵr Gwylio 360 yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, ac mae wedi'i leoli ynghanol ardal o wlyptir, gan ganiatáu i bobl gael golwg unigryw o gymysgedd gwych o fywyd gwyllt - yn enwedig y gweilch, rhywogaeth wedi'i gwarchod, sy'n nythu llai na 200m i ffwrdd.

Defnyddiodd y prosiect grant o £1.4 miliwn a gafodd o Gronfa Treftadaeth y Loteri yn 2012 i ddylunio ac adeiladu tŵr gwylio tri llawr unigryw yn edrych allan ar gynefin nifer o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin. Tu fewn i'r arsyllfa mae offer technoleg uwch i wneud y gorau o'r olygfa 360 gradd, gyda llwybr estyllod o’r radd flaenaf yn galluogi mynediad i bawb i'r safle, yn cynnwys pobl ag anableddau.

Adar ysglyfaethus mawr yw gweilch, yn bwyta pysgod, a chafodd y rhywogaeth ei gyrru i ddifodiant yn y rhan fwyaf o'r DU ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ganddynt bellach warchodaeth gyfreithiol lawn, gyda gwarchodfeydd megis hwn ar gael i helpu eu hail-sefydlu.

Pan agorodd yr arsyllfa yn 2014, daeth dros 31,000 o bobl i ymweld er mwyn cael golwg lefel llygaid ar adar, pryfed, ymlusgiaid a mamaliaid, yn cynnwys byfflos dŵr sy'n pori ger y llyn.

Mae plant ysgol lleol yn mwynhau dysgu am ecoleg ac mae nifer o ysgolion wedi ei ymgorffori'n rhan o'u cwricwlwm hyd yn oed. Mae disgyblion wedi helpu gyda chynlluniau cadwraeth ar gyfer y warchodfa ac wedi cymryd rhan mewn gweithdai ar bynciau yn cynnwys synau adar, daeareg, adnabod infertebratau, digwyddiadau dyfrgwn a throellwyr mawr, dyddiau gwas y neidr a ffotograffiaeth bywyd gwyllt.

Mae'r prosiect yn hyrwyddo bioamrywiaeth a chadwraeth, a chofnodwyd dros 500 rhywogaeth o wyfynod, 17 rhywogaeth o weision y neidr, tair rhywogaeth o fadfallod dŵr, 102 rhywogaeth o blanhigion ac amffibiaid gan dynnu llun pob un ohonynt. Mae dros 100 o wirfoddolwyr yn gweithio ar y safle, gan wirfoddoli dros 8,000 o oriau y llynedd. Mae hyn wedi rhoi hwb i dwristiaeth ac i'r economi leol, ac mae hefyd wedi bod o fudd i'r gwirfoddolwyr. Roedd rhai o'r gwirfoddolwyr hŷn yn ynysig cyn cymryd rhan yn y prosiect, felly mae helpu eraill yn yr arsyllfa yn rhoi hyder, pwrpas a chysylltiad iddynt.

Am ragor o wybodaeth a delweddau, cysylltwch â:
Jackie Aplin, Swyddfa Gwobrau'r Loteri Genedlaethol ar 07917 791873, jackie.aplin@lotterygoodcauses.org.uk, neu gyda'i chyd-weithwyr ar 020 721 13991.