Skip to main content

Sporty Students Meet Olympic Star, Jade

28th May 2014

Cymerodd yr Enillydd Medal Aur Olympaidd, Jade Jones, amser o'i hyfforddiant heddiw i gwrdd â phobl ifanc sydd wedi cael eu hysbrydoli i ymgymryd â chwaraeon yn ei choleg lleol.

Ymwelodd y seren Taekwondo sy'n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol â Choleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy a bu'n cymryd rhan mewn dosbarth Zumba cyn arwain arddangosiad yn ei champ ei hun.

Roedd Jade yn ymweld â'r coleg i ddathlu llwyddiant ei raglen Chwaraeon Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i gael mwy o fyfyrwyr yn heini. Lansiwyd y rhaglen ar ddechrau'r flwyddyn gyda grant y Loteri Genedlaethol o £45,000, ac mae cannoedd o'r rhai yn eu harddegau nad oeddynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon cyn hynny bellach yn mynychu sesiynau Zumba, pêl-rwyd, rownderi, troelli a'r gampfa yn rheolaidd.

Yn ystod yr ymweliad, dywedodd Jade: “Fe wnes i wirioneddol fwynhau'r dosbarth Zumba heddiw a gobeithio y bydd rhai o'r grŵp yn rhoi cynnig ar Taekwondo hefyd. Mae'n dda bod y coleg yn gallu cynnig llawer o wahanol gyfleoedd i'w fyfyrwyr i roi cynnig ar wahanol gampau a chanfod rhywbeth y maen nhw'n mwynhau ei wneud.

“Mae fy ngyrfa fy hun wedi'i helpu gan arian y Loteri Genedlaethol ac mae'n wych gweld sut y mae'n helpu pobl eraill yn agos at ble cefais fy magu. Dylai pawb sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol fod yn falch o'r gwahaniaeth y mae'r arian yn ei wneud i'ch ardal."

Ar ôl y sesiwn chwaraeon arhosodd Jade i rannu ei stori Olympaidd a chael lluniau wedi'u tynnu gyda'i medal Aur Olympaidd Llundain 2012.

Byddai Jade wedi mynychu ei choleg lleol, Coleg Cambria, pe bai wedi parhau â'i haddysg ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd y Fflint. Yn lle hynny, fe dderbyniodd arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer athletwyr elit ac fe symudodd i Fanceinion i hyfforddi'n llawn amser yng nghanolfan Taekwondo Prydain Fawr.

Dywedodd David Jones, Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yng Ngholeg Cambria: “Mae Jade yn ffigwr ysbrydoledig iawn yn yr ardal leol ac roedd hi'n anrhydedd ei chael hi yma yn y coleg heddiw. Rydym yn falch iawn gyda phoblogrwydd ein sesiynau chwaraeon newydd ac rydym wrth ein bodd bod Jade wedi gallu cymryd rhan a gobeithio ysbrydoli hyd yn oed yn fwy o bobl i roi cynnig arni.

“Mae Coleg Cambria yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd chwaraeon i'n holl fyfyrwyr, boed hynny yn gystadleuol neu fel ffordd o gadw'n heini ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr arian gan y Loteri Genedlaethol sydd yn ein helpu i wneud hynny.”

Mae Coleg Cambria wedi derbyn mwy na £2 miliwn mewn grantiau'r Loteri Genedlaethol, a ddyfarnwyd trwy Chwaraeon Cymru, i dalu am sesiynau hyfforddi a chyfleusterau ariannu megis y stadiwm athletau, y caeau â llif oleuadau a'r neuadd chwaraeon.

Mae Jade yn un o dros 1,300 o athletwyr elit sy'n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol. Mae'r ariannu yn caniatáu iddi gystadlu a hyfforddi'n llawn amser i'r safonau rhyngwladol uchaf.

Nodiadau i olygyddion

-Diwedd-
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Jackie Aplin ar jackie.aplin@achosiondayloteri.org.uk 029 20678278/ 07917 791873

Nodiadau i Olygyddion:
• Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £33 miliwn yr wythnos - mwy na £31 biliwn ers i'r Loteri ddechrau ym 1994 - dros brosiectau chwaraeon, celfyddydol, treftadaeth, elusennol a chymunedol.
• Dyfernir yr arian trwy 12 o gyrff ariannu sy'n arbenigwyr yn eu meysydd: UK Sport, Chwaraeon Cymru, Sport England, Sport Scotland, Sport NI, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Loteri Fawr, Arts Council England, Cyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council NI a Creative Scotland