Skip to main content

Social Running

15th December 2020

Chris Davies, Chair and Coach of Lliswerry Runners and Lead Ambassador for parkrun in Wales

Chris Davies

2020 oedd y flwyddyn pan ddathlodd Clwb Rhedwyr Lliswerry yng Nghasnewydd, De Cymru ei ben-blwydd yn 35 oed. Dyma’r flwyddyn hefyd pan drodd bywyd ben i waered.

Wedi ei sylfaenu yn 1985 – yn dilyn ymchwydd mewn rhedeg cymdeithasol a ddechreuwyd gan Farathon gyntaf Llundain – bu penderfyniad y clwb i ddechrau gweithgareddau parkrun yng Nghasnewydd nôl yn 2011 yn rhan o lwyddiant y clwb o Gymru, nododd Chris Davies, y Cadeirydd a’r Hyfforddwr. Trwy gynnwys y gymuned leol ac annog eu dealltwriaeth o fanteision rhedeg, cynyddodd eu haelodaeth yn gyflym o 80 i 600.

Mae gwirfoddoli, ychwanegodd Chris – a ymunodd â’r clwb yn ei ail flwyddyn – wedi bod yn rhan annatod o’r twf cyflym: “Ni fyddem wedi gallu gwneud yr hyn a wnaethom heb yr ymdrech wirfoddoli. Un o’r rolau allweddol o ran gwirfoddoli yw’r tîm hyfforddi. Rydym yn cael arian pob blwyddyn, a byddwn yn rhoi 100% o’r arian grant bob tro tuag at gymhwyso hyfforddwyr newydd. Mae’n golygu buddsoddi mewn gweithgaredd llawr gwlad sy’n fuddiol yn gorfforol ac yn feddyliol. Ni fyddech yn gallu gwneud hynny oni bai fod gennych bobl sy’n barod i gymhwyso ac arwain.”

Fel miloedd o glybiau ar hyd ac ar led y DU, cafodd Rhedwyr Lliswerry eu gorfodi i gamu’n ôl a meddwl am sut y byddai’n cynnal ei weithgareddau dan gysgod coronafeirws. Gweithiodd Sarah ac Emma, yr hyfforddwyr arweiniol ar gyfer rhedwyr hŷn ac iau, ar y cyd â’r tîm hyfforddi i alluogi addasu’r sesiynau clwb yn gyflym ac yn ddiogel.

Roedd un o’r digwyddiadau cyntaf a drefnwyd yn cynnwys ras gyfnewid enfawr lle nad oedd unrhyw un yn gweld rhywun arall, oedd yn cynnwys “llwybr troellog” heibio cartrefi aelodau – o Gaerdydd yn y Gorllewin hyd at Bont Hafren yn y Dwyrain. Dros gwrs yr wythnos, roedd cyfanswm y milltiroedd yn fwy na 500 milltir, ac yn ôl Chris, dyma’r “glud a ddaeth â’r clwb ynghyd unwaith eto. Mae’r tonig hwnnw a gewch o redeg a’r endorffinau a gewch ar ei ôl, yn golygu y caiff eich ysbryd ei drawsnewid.”

Pan ddaeth yr amser i ailddechrau sesiynau wyneb yn wyneb, treuliodd arweinwyr y clwb lawer o amser yn meddwl am sut i ailsefydlu pethau, gyda deuddeg o athletwyr fesul hyfforddwr a phellter o ddau fedr yn cael ei weithredu ar bob adeg. “Roedd cynhwysiant yn cael ei ystyried gyda phopeth yr ydym wedi’i gyflawni,” dywedodd Chris, sydd yn Llysgennad Arweiniol ar gyfer parkrun yng Nghymru. “Rydym yn gwerthfawrogi’r amseroedd rhedeg gorau ar y brig, ond mae ein ffocws ar yr amseroedd rhedeg personol yr holl ffordd trwy’r clwb. Y mis diwethaf, roeddem wedi gallu cyrraedd yr uchelfannau o ran cyfanswm y cynnydd a gyflawnwyd gan ein rhedwyr. Roeddwn yn meddwl y gallem ei wneud mewn pedair wythnos – llwyddon ni i wneud hyn mewn un wythnos. Bu’n rhaid cael pandemig er mwyn i ni wneud gwelliannau, ac wrth ddod allan o hyn, fe fyddwn yn glwb gwell am gymryd y mesurau hyn.”

Mae Rhedwyr Lliswerry yn un o nifer o sefydliadau ysbrydoledig yn unig ar lawr gwlad sy’n derbyn cefnogaeth oddi wrth y £30m a godir tuag at achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol pob wythnos, ac mae’r arian hwn wedi caniatáu i’r clwb fuddsoddi mewn un o’i gryfderau craidd – datblygu pobl.

"Mae’r ariannu hwnnw yn anodd iawn oni bai fod gennych arian grant,” nododd Chris, “a dyna un maes lle mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwneud gwahaniaeth i ni. Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb yr arian, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol trwy Chwaraeon Cymru. Nid yw pobl yn sylweddoli faint o effaith mae hyn yn ei gael, ond mae’n ffrwd refeniw hanfodol ac yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl.”

I anrhydeddu effaith y clwb ar y gymuned leol, bydd Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a ariennir gan y Loteri Genedlaethol – ac a enwyd ar ôl cyn enillydd Tour De France – yn dod yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Chris Davies am y dydd.

Mae Chris, fodd bynnag, yn awyddus i bwysleisio fod y clwb yn ymdrech tîm, a gynhelir gan ymddiriedaeth ac ymroddiad “rhwydwaith o wirfoddolwyr, sydd oll yn cyflawni hyn am yr un rheswm. Mae eraill y tu hwnt i mi sy’n ymwneud â hyn i gyd. Mae’r holl bobl hyn yn cyflwyno llawer iawn i’r clwb, yr uno sydd rhwng yr holl bobl hynny sy’n gwneud y gwahaniaeth.