Skip to main content

Lotto Young Heroes Changing Lives

24th April 2014

Buddsoddi yn nyfodol pobl ifanc yng Nghymru


Mae diweithdra, digartrefedd, gordewdra a cholli golwg ymhlith yr heriau y mae pobl ifanc ysbrydoledig o bob cwr o Gymru wedi'u goroesi er mwyn helpu eraill.


Mae pobl ifanc yn addysgu, yn gwirfoddoli, ac yn gwneud gwahaniaeth i brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ar draws Cymru, ac mae rhai o'u straeon yn cael eu hadrodd mewn ffilm newydd.


Gwnaed y ffilm fer gan y Media Trust, sydd ei hun wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol, a gellir ei gweld yn www.achosiondayloteri.org.uk.


Naw mlynedd yn ôl fel plentyn derbyniodd Mared ddiagnosis cyflwr prin ar ei golwg sy'n effeithio ar ei golwg canol. Yn ffodus, fe ymunodd ag UCAN, prosiect perfformio sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, a helpodd hi i feithrin ei hyder, ei chyfeillgarwch a'i sgiliau perfformio. Yn awr yn 19 oed, mae Mared yn gweithio i UCAN fel arweinydd gweithdy, yn cefnogi aelodau iau.


Pan oedd Byron yn 11 oed roedd yn pwyso 105kg ac roedd yn rhy fyr ei wynt i chwarae pêl-droed. Roedd yn ordew ac yn boenus o hunanymwybodol. Yna fe wnaeth Clwb Codi Pwysau Caergybi ac Ynys Môn ei helpu i newid ei fywyd. Chwe blynedd yn ddiweddarach ac mae wedi ennill pencampwriaethau, ac yn treulio ei amser yn astudio lefelau A ac yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd hyfforddedig yn y clwb, yn annog pobl ifanc i fwynhau wrth gadw'n heini.


10 mis yn ôl roedd Luke yn ddi-waith, yn profi anhawster wrth ganfod cyfle fel llawer o bobl ifanc eraill yng Nghymoedd Gwent. Yna fe ymunodd â phrosiect hyfforddi camlas Gwaith Dŵr, a dechreuodd weithio ar adfer camlas segur yn Nhŷ Coch ger Cwmbrân. Mae Luke wedi gweithio mewn tywydd erchyll i adfer y gamlas i'w chyflwr blaenorol, a bellach mae ganddo'r sgiliau a'r hyder i annog eraill ac ymgeisio am swyddi eraill.


Roedd Ellie mewn hostel i'r digartref yng ngogledd-ddwyrain Cymru pan wnaeth prosiect Include Us, Save the Family ei helpu i drawsnewid ei bywyd. Bellach mae'n gwirfoddoli i'r elusen, ac yn helpu ac yn mentora eraill sydd hefyd wedi colli'u ffordd.


Dywedodd Jackie O’Sullivan, Cyfarwyddwr Achosion Da'r Loteri Genedlaethol:


“Dim ond ychydig enghreifftiau o'r arwyr dyddiol niferus yw'r bobl ifanc hyn sy'n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i newid bywydau ar draws Cymru. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi swm rhyfeddol o £33 miliwn bob wythnos dros achosion da. Gallant deimlo'n falch o'r buddsoddiad y maen nhw'n ei wneud yn nyfodol ein pobl ifanc."


I wylio'r ffilm, ewch i www.achosiandayloteri.org.uk

Nodiadau i olygyddion

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Jackie Aplin ar jackie.aplin@achosiondayloteri.org.uk, 029 20678278 neu 07917 791873

Nodiadau i Olygyddion
• Derbyniodd UCAN Productions, sydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, grantiau trwy'r Gronfa Loteri Fawr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru
• Mae Clwb Codi Pwysau Caergybi ac Ynys Môn wedi derbyn arian trwy Chwaraeon Cymru
• Derbyniodd prosiect adfer camlas Gwaith Dŵr, Cwmbrân grantiau trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri
• Mae prosiectau yn Save the Family yn Sir y Fflint wedi derbyn grantiau trwy'r Gronfa Loteri Fawr (Include Us/ Include Us Too ) a Chronfa Dreftadaeth y Loteri (Gateways)
Buddsoddiad y Loteri Genedlaethol yn Nyfodol Pobl Ifanc yng Nghymru
• Mae dros £71m o arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu dros 5,000 o brosiectau i weithio gyda phobl ifanc yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn unig .
• Mae UCAN yn un o dros 8,000 o brosiectau Celfyddydau yng Nghymru sydd wedi derbyn arian y Loteri
• Mae dros £282 miliwn wedi helpu i ddiogelu treftadaeth Cymru, trwy dros 2,000 o brosiectau
• Mae dros £182 miliwn o arian y Loteri wedi mynd at brosiectau chwaraeon yng Nghymru
• Mae'r Loteri Genedlaethol yn codi £33 miliwn bob wythnos dros ystod eang o brosiectau chwaraeon, celfyddydau, treftadaeth, elusennol a chymunedol ar draws y DU
• Mae dros £31biliwn wedi'i ddyfarnu i brosiectau achosion da ar draws y DU ers lansio'r Loteri Genedlaethol yn ôl ym 1994.
• Dyfernir yr arian trwy 12 o gyrff dosbarthu: Y Gronfa Loteri Fawr, UK Sport, Chwaraeon Cymru, Sport England, Sport NI, Sport Scotland, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymru, Arts Council England, Arts Council NI, Creative Scotland a British Film Institute