Skip to main content

NATIONAL LOTTERY STARS CELEBRATED ON TELEVISION

13th September 2016

Bydd enillwyr Gwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni yn serennu ar BBC One Ddydd Llun 12 Medi ar ôl mynychu seremoni yn llawn sêr i gasglu eu tlysau.

Bydd The National Lottery Stars 2016, am 10.45pm, yn talu teyrnged i'r gwaith sy'n gweddnewid bywydau gan hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri ar ôl pleidlais gyhoeddus.

O blith y dros 600 a ymgeisiodd, cafodd 49 eu dethol i'r rownd derfynol mewn saith categori sy'n adlewyrchu gwahanol feysydd ariannu'r Loteri Genedlaethol.

Cyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Arbennig hefyd i anrhydeddu tîm o ŵr a gwraig ymroddedig sy'n hyfforddi gymnasteg, Len ac Yvonne Arnold, sydd wedi aberthu cymaint, gan gynnwys gwerthu eu cartref, i achub canolfan chwaraeon sydd bellach yn ffynnu gyda chymorth ariannu'r Loteri Genedlaethol.

Bydd y sioe, a gyflwynir gan John Barrowman, gyda chymorth llu o gyflwynwyr gwadd enwog, yn cynnwys perfformiad cerddorol arbennig gan y cantor/cyfansoddwr Nathan Sykes, o'r The Wanted gynt.

Saith enillydd y bleidlais gyhoeddus yw:

Prosiect Celfyddydau Gorau, a gyflwynir gan yr actor Ralf Little: Cultural Hubs, rhaglen sy'n denu pobl o bob oed trwy ddrysau llyfrgelloedd yn St Helens gyda gweithdai celf a pherfformiadau drama.

Prosiect Addysg Gorau, a gyflwynir gan y bersonoliaeth deledu a chyn Pussycat Doll, Kimberly Wyatt: Key to the Door TOYS Project, sy'n helpu rhieni ifanc yng ngogledd-orllewin Lloegr i rannu profiadau, goresgyn materion personol a dysgu sgiliau newydd.

Prosiect Amgylcheddol Gorau, a gyflwynir gan y cyflwynydd teledu a'r newyddiadurwr Anita Rani: Tyfu'n Wyllt y DU, ymgyrch blodau gwyllt mwyaf erioed y wlad sy'n dwyn pobl ynghyd i weddnewid mannau lleol gyda blodau a phlanhigion brodorol, sy'n gyfeillgar i bryfed peillio.

Prosiect Iechyd Gorau, a gyflwynir gan gyn gyflwynwydd Crimewatch, Rav Wilding: North-West Blood Blood Bikes Lancs & Lakes, gwasanaeth gwirfoddol sy'n cynnig gwasanaethau trafnidiaeth y tu hwnt i oriau i ysbytai GIG gan gludo gwaed a chyflenwadau meddygol brys ac mewn argyfwng yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Prosiect Treftadaeth Gorau, a gyflwynir gan y cogydd enwog Ainsley Harriott: Lion Salt Works, amgueddfa a safle creu halen padell agored hanesyddol sydd wedi'i hadfer yn Swydd Gaer.

Prosiect Chwaraeon Gorau, a gyflwynir gan y cyflwynwyr cerddoriaeth a theledu Sam a Mark: The Deaf-Friendly Swimming Project, rhaglen sy'n anelu at oresgyn rhwystrau sy'n atal pobl ifanc fyddar rhag ymgymryd â nofio.

Prosiect Gwirfoddol/Elusennol Gorau, a gyflwynir gan y darlledwr newyddion a'r cyflwynydd teledu Katie Derham: London Taxi Benevolent Association for War Disabled, a elwir hefyd yn Taxi Charity, mae'r sefydliad hwn, a redir mwy neu lai yn llwyr gan yrwyr tacsi Llundain neu rhai sydd wedi ymddeol, yn cynnig gwibdeithiau a digwyddiadau i arwyr rhyfel.

A bydd y Wobr Cyfraniad Arbennig, a gyflwynir gan y gymnastwr a gipiodd fedalau Aur Olympaidd, Max Whitlock, yn mynd i Len ac Yvonne Arnold, a werthodd eu cartref i ariannu campfa a ddefnyddiwyd ar ôl hynny fel canolfan hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Dywedodd John Barrowman MBE: “Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn dathlu hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri yn dilyn pleidlais gyhoeddus. Maen nhw'n cydnabod yr arwyr sy'n gefn i'r sefydliadau rhyfeddol hyn - pobl gyffredin sy'n gwneud pethau rhyfeddol gydag ariannu'r Loteri Genedlaethol.

“Rydym wedi cael haf euraidd yn 2016 gyda llwyddiant Tîm Prydain Fawr. Mae'n addas felly ein bod yn parhau â'r dathliadau trwy anrhydeddu pobl a phrosiectau eraill sy'n gweddnewid bywydau gydag ariannu'r Loteri Genedlaethol ar draws y DU.

“Mae'r enillwyr eleni wedi codi'r safon, unwaith eto, a gall chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn falch iawn eu bod wedi cyfrannu at eu gwaith rhyfeddol.”

Mae saith categori yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol, gyda phob un yn adlewyrchu prif feysydd ariannu'r Loteri: y celfyddydau, addysg, yr amgylchedd, iechyd, treftadaeth, chwaraeon, a gwirfoddol/elusennol.

Mae enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £3,000, ynghyd â thlws Gwobrau'r Loteri Genedlaethol.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi bod yn gweddnewid bywydau ers 21 o flynyddoedd - ar hyn o bryd maen nhw'n codi dros £36 miliwn bob wythnos dros brosiectau ar draws y DU. Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cydnabod ac yn dathlu'r gwahaniaeth y mae sefydliadau a ariennir gan y Loteri, boed fawr neu'n fach, yn ei wneud i gymunedau lleol ar hyd a lled y DU.