Skip to main content

Not a lotto time left to enter the National Lottery Awards

21st June 2012

Mae'r amser yn prinhau i bobl enwebu eu hoff elusennau ac Achosion Da lleol yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni.

Mae'r Gwobrau yn tynnu sylw at fudiadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy'n newid cymunedau ac yn gweddnewid bywydau. Mae dros 370,000 o grantiau'r Loteri Genedlaethol wedi'u dyfarnu er 1994. Yn llythrennol mae miloedd o brosiectau a ariennir gan y Loteri ar draws y DU yn haeddu cydnabyddiaeth.

Bydd prosiectau sy'n cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau yn cael eu cydnabod mewn digwyddiad yn llawn enwogion a ddarlledir ar BBC One yn yr hydref. Fe wnaeth 3 miliwn o bobl wylio’r sioe llynedd. Bydd ganddynt gyfle hefyd i ennill gwobr ariannol o £2,000.

Y dyddiad cau yw Dydd Llun 12 Mawrth. Felly rydym eisiau clywed ar frys gan unrhyw un sy'n gwybod am brosiect lleol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy'n haeddu cydnabyddiaeth.

Mae cyflwynwraig sioe nos Sadwrn y Loteri Genedlaethol, a'r fam newydd, Jenni Falconer, yn galw ar bobl Cymru i enwebu Achosion Da lleol ar gyfer Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2012 - yr ymgyrch flynyddol i ganfod hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri.

Dywed Jenni: "Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn rhyfeddol bob wythnos dros Achosion Da. Mae amrywiaeth o brosiectau a ariennir gan y Loteri wedi cyffwrdd â bywydau llawer yng Nghymru. Er enghraifft, mae arian y Loteri yn cefnogi pobl hyn, yn helpu plant bregus ac yn gweddnewid parciau a chyfleusterau chwaraeon yn lleol.

"Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cydnabod yr arwyr tawel, y gwirfoddolwyr anhunanol a'r gweithwyr ymrwymedig sy'n gwella bywydau gydag arian y Loteri. Yn llythrennol mae miloedd o brosiectau a ariennir gan y Loteri ar draws y DU yn haeddu cydnabyddiaeth. Felly os ydych chi'n gwybod am brosiect sy'n cael effaith neilltuol ar eich cymuned, hoffem glywed gennych chi."

Mae saith categori i Wobrau'r Loteri Genedlaethol - gyda phob un yn adlewyrchu agwedd ar ariannu'r Loteri: Celfyddydau, Addysg, Amgylcheddol, Iechyd, Treftadaeth, Chwaraeon a Gwirfoddol/Elusennol.

Os dymunwch weld prosiect yn cael ei ddathlu yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni, neu os ydych chi'n gysylltiedig â phrosiect a ariennir gan y Loteri ac eisiau ei enwebu, ewch i www.nationallotteryawards.org.uk i ganfod mwy neu ffoniwch 0207 293 2128. Rhaid derbyn y ceisiadau erbyn Dydd Llun 12 Mawrth 2012.