Skip to main content

Olympic Silver Medallist Fred Evans Inspires Next Generation

12th October 2012

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi dathlu ei buddsoddiad mewn chwaraeon heddiw trwy gyflwyno pencampwr Paffio Tîm Prydain Fawr, Fred Evans, i bobl ifainc sydd yn awyddus i gerdded yn ei ôl troed yn ei glwb yng Nghasnewydd.

Ymunodd yr enillydd medal arian Olympaidd Gemau Llundain 2012 ag aelodau ifainc Clwb Paffio St. Joseff lle yr arweiniodd ddosbarth meistr yn y gamp gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athletwyr.

Meddai Evans, “Rwy yma heddiw er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a rhoi rhywbeth yn ôl i’r clwb sydd wedi fy helpu gymaint o ran hogi fy sgiliau paffio.

“Rwy bob amser wrth fy modd yn cael y cyfle i siarad â phobl ifainc am fy nghamp a’u cael nhw i fod wrth eu bodd â phaffio cymaint â fy mod i. Roedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd mor ysbrydoledig ar gyfer y wlad gyfan ac rwy’n cefnogi rhoi cyfle i blant ddod yn rhan o chwaraeon ac wedi’u greddfu ganddo.”

Evans yw un o 1,200 o athletwyr blaengar a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sydd yn ei alluogi i gystadlu a hyfforddi i’r safonau rhyngwladol uchaf.

“Heb arian y Loteri Genedlaethol ni fyddai modd imi gystadlu ar y lefel yr wyf yn cystadlu arni,” meddai ef.

Mae Clwb Paffio St. Joseff hefyd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol gan Gronfa Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru gan gynnig cyfleoedd i fwy o bobl ddod yn rhan o’r gamp a’i mwynhau.

Y gronfa Cist Gymunedol yw grant blynyddol sydd yn annog mwy o bobl i ddod yn fwy gweithredol yn fwy aml a’r nod yw codi safon gweithgareddau presennol gan helpu i barhau gwaddol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Meddai Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister: “Diolch i arian y Loteri rydym wedi gallu buddsoddi mewn clybiau chwaraeon cymunedol fel St. Joseff. Rydym am barhau i gynnig cymorth a buddsoddiad er mwyn galluogi clybiau lefel sylfaenol i dyfu. Trwy ddatblygu mwy o gyfleoedd er mwyn i gymunedau gymryd rhan mewn chwaraeon byddwn yn creu gwaddol parhaol ar gyfer Gemau’r haf hwn”

Meddai’r hyfforddwr paffio preswyl yng Nghlwb St. Joseff, Tony Borg: “Mae arian y Loteri wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad ein camp ar bob lefel drwyddi draw. Yn ein clwb yn enwedig rydym wedi elwa gan dderbyn nifer o grantiau dros y blynyddoedd sydd wedi ein helpu ni i wella cyfleusterau a chael mwy o bobl i gymryd rhan.

“Dangosodd yr haf hwn pa mor bwysig yw chwaraeon i’r wlad ac rydym yn awyddus i roi cyfle i’r bobl ifainc hynny y cawsant eu hysbrydoli gan y Gemau ddod yn rhan o baffio boed yn hobi neu’n natur cystadlu, rydym bob amser yn edrych i wella cyfleusterau a chael mwy o bobl ifainc i gymryd rhan a, thrwy gymorth arian y Loteri, y mae modd i ni gyflawni hyn.”

Diwedd

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Jackie Aplin, Achosion Da y Loteri Jackie.aplin@achosiondayloteri.org.uk / 07917 791873

amelie.hawkins@fasttrackagency.com / 07768293480

Am wybodaeth bellach ar grantiau Chwaraeon Cymru ewch i: www.chwaraeoncymru.org.uk

Nodiadau i olygyddion

  • Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi dros £28 biliwn ar gyfer Achosion Da ers i’r Loteri gychwyn yn 1994. Mae dros £6 biliwn o hyn wedi’i fuddsoddi mewn chwaraeon.
  • Mae hyd at £2.2 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi’i fuddsoddi mewn lleoliadau a seilwaith Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 – gan helpu i wneud y Gemau yn bosib.
  • Mae arian y Loteri Genedlaethol yn galluogi 1,200 o athletwyr blaengar y DU i elwa gan hyfforddiant, cyfleusterau a chymorth meddygol o’r safon uchaf.
  • Mae arian y Loteri Genedlaethol hefyd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol trwy uwchraddio clybiau a chyfleusterau chwaraeon lleol a chynnig cyfleoedd i filoedd mwy o bobl fwynhau chwaraeon.
  • Chwaraeon Cymru: Mae Chwaraeon Cymru yn canolbwyntio ar gyflenwi gwaddol parhaol ar gyfer chwaraeon cymunedol y tu hwnt i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012.