Skip to main content

Wales’ golden girl Lauren Price crowned Olympian of the Year

27th October 2021

Mae Lauren Price, y bencampwraig bocsio sydd wedi ennill medal aur Olympaidd, wedi ychwanegu acolâd arall unwaith eto at ei henw wedi iddi gael ei henwi’n Olympiad y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2021.

Lauren Price

Yn dilyn ei champau yn Tokyo, dychwelodd Lauren Price, 27 i Glwb Bocsio Amaturaidd Pont-y-pŵl heddiw (Dydd Mawrth 26 Hydref) lle dechreuodd y daith anhygoel tuag at ei henwogrwydd Olympaidd. Cyflwynwyd Gwobr ddechreuol y Loteri Genedlaethol ar gyfer Olympiad y Flwyddyn i Lauren gan ei mam-gu, Linda Price – y mae Lauren yn ei nodi a’i chydnabod (ynghyd â’i chyn tad-cu, Derek Price) fel un o’i dylanwadau a’r ysbrydoliaeth fwyaf iddi, ac fel cefnogwyr yn ei gyrfa lwyddiannus yn y byd chwaraeon.

Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a’r sefydliadau ysbrydoledig led led y DU sydd wedi gwneud pethau anhygoel gydag arian y Loteri Genedlaethol. Yn dilyn gemau Tokyo eleni, penderfynwyd cyflwyno Gwobr Olympiad y Flwyddyn i’r athletwr/athletwraig sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw yn eu maes ac sydd wedi elwa’n uniongyrchol o arian y Loteri Genedlaethol. Pleidleisiodd y cyhoedd dros Lauren fel eu Olympiad Loteri Genedlaethol y Flwyddyn o’r rhestr fer o athletwyr o bob cwr o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Roedd Lauren, o Ystrad Mynach, ger Caerffili ymysg mwy na 1,000 o athletwyr elit a ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Raglen Safon Byd Eang Chwaraeon y DU. Mae’r rhaglen yn caniatáu i athletwyr megis Lauren i hyfforddi’n llawn amser, i gael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac i elwa o gefnogaeth dechnolegol, wyddonol a meddygol arloesol.

Ychydig iawn o athletwyr Tîm Prydain Fawr fyddai’n fwy amlddoniog ar draws campau gwahanol na Lauren, y bencampwraig Olympaidd – ac mae ei thaith at fawredd wedi bod yn amrywiol iawn i ddweud y lleiaf.

Dangosodd ddiddordeb brwd mewn nifer o chwaraeon o oedran ifanc, yn fwyaf nodedig pêl-droed, pêl-rwyd, taekwondo a chicfocsio – gan ennill gwobrau ac anrhydeddau Ewropeaidd a Phrydeinig mewn cicfocsio. Cafodd ei sgowtio a bu’n chwarae pêl-droed wedi hynny i Ddinas Caerdydd am sawl tymor, gan ennill Uwch Gynghrair Merched Cymru yn ei thymor cyntaf. Roedd Price wedi bod yn gapten dros ei gwlad ar y lefel dan 19 oed, cyn derbyn capiau ar lefel hŷn ym mis Mehefin 2012.

Ond roedd gorchest y bocsiwr, Nicola Adams (athletwraig arall a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol) yn ennill y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 wedi ei hysbrydoli i ddilyn bocsio fel gyrfa, ac yn 2014, fe adawodd pêl-droed i ganolbwyntio’n bennaf ar y cylch bocsio.

Wedi ennill medalau aur yn y dosbarth pwysau canolig yng Ngemau’r Gymanwlad 2018, y Gemau Ewropeaidd 2019 a Phencampwriaethau’r Byd 2019, roedd ei phenderfyniad i newid camp wedi talu ar ei ganfed gyda lle ar gyfer Tokoyo 2021. Nid oedd ei hymgyrch am aur drosodd eto, wrth iddi ddod yn bencampwraig Olympaidd wedi gorchfygu Qian Li o Tsieina yn rownd derfynol bocsio i ferched pwysau canolig yn ystod ei gemau Olympaidd cyntaf erioed.

Cafodd Lauren, a ddaeth yn focsiwr benywaidd cyntaf erioed o Gymru i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, ei magu gan ei mam-gu a thad-cu, Derek a Linda a dderbyniodd hi i’w gofal yn dri diwrnod oed. Roedden nhw wedi darparu’r cariad a’r sylfaeni a ganiataodd iddi ffynnu – roeddent wedi annog ei chariad tuag at chwaraeon a hebddynt, nid yw Price yn credu y byddai wedi cyrraedd lle y mae hi heddiw. Llynedd bu farw ei thad-cu, Derek, yn anffodus o Ddementia cyn iddo allu ei gweld yn ennill ei medal Aur Olympaidd.

Gan fod wrth ei bodd i dderbyn y wobr oddi wrth ei Mam-gu, cyflwynodd Lauren ei hacolâd diweddaraf i’w mam-gu a’i thad-cu gan ddatgan mai y nhw oedd ei chefnogwyr mwyaf ar hyd ei thaith i gyrraedd enwogrwydd Olympaidd. Mynegodd ddiolch hefyd i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ei chefnogi hi fel athletwraig.

“Dydw i ddim yn gwybod lle y byddwn wedi bod heb gefnogaeth fy mam-gu a thad-cu, dywedodd Lauren.

“Rwy’n cyflwyno popeth a gyflawnais iddynt hwy am yr holl gefnogaeth a dderbyniais oddi wrthynt ac rwyf wrth fy modd fod fy Mam-gu yma i gyflwyno’r wobr hon i mi heddiw.”

“Mae’n anrhydedd llwyr ac mae cael fy nghyhoeddi fel enillydd cyntaf erioed gwobr Olympiad y Flwyddyn yn rhoi pleser enfawr i mi. Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r cyhoedd a bleidleisiodd drosof. Mae llawer o’r hyn a gyflawnais diolch i’r Loteri Genedlaethol a’m cefnogodd fel athletwraig. Mae’r arian wedi caniatáu i mi ganolbwyntio ar yr hyn rwyf yn caru ei wneud ac i gyrraedd fy mhotensial llawn. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi miloedd o athletwyr fel fi trwy gydol ein gyrfaoedd ac mae’r arian yn caniatáu i ni gystadlu a hyfforddi’n llawn amser gyda mynediad at gyfleusterau a rhaglenni hyfforddi o ansawdd byd eang.”

Gan gyflwyno ei Gwobr i Lauren, dywedodd ei mam-gu, Linda: “Rwyf wrth fy modd drosti. Mae hi wedi gweithio mor galed dros yr holl flynyddoedd hyn ac yn haeddu’r holl gydnabyddiaeth a ddaw i’w rhan. Rwy’n teimlo anrhydedd a balchder i gael cyflwyno’r wobr hon iddi. Rwyf wastad wedi dweud wrthi i weithio’n galed a chredu yn ei hunan. ‘Ceisia estyn at y lleuad ac os na fyddi’n llwyddo, byddi’n glanio ar y sêr’, yw’r hyn a ddywedais iddi bob tro. Mae wedi bod yn freuddwyd ganddi ers ei bod yn ferch ifanc i ennill yn y Gemau Olympaidd, ac wedi’r holl flynyddoedd o waith diwyd, mae hi wedi’i gyflawni o’r diwedd. Fe fyddai ei thad-cu yn hynod falch ohoni. Roedd yn rhan mor fawr o’i bywyd ac yn ei chefnogi ym mhopeth roedd hi’n ei wneud. Roedden ni wastad yn gwybod y byddai hi’n llwyddo, beth bynnag y byddai hi’n ymrwymo ei hunan iddo ac yn rhoi ei bryd arno.”

Ers dechrau ariannu gan y Loteri Genedlaethol yn 1997, mae athletwyr Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon wedi ennill 929 o fedalau Olympaidd a Phara Olympaidd.