RSPB Llyn Efyrnwy - Teithiau Tywys - 22 & 29 Mawrth 2025
22 Mawrth, 29 Mawrth

Mae un tocyn/cerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol yn rhoi hawl i’r deiliad gael dewis o ddwy daith dywys am ddim. Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle, anfonwch e-bost at vibrantvyrnway@rspb.org.uk.
Teithiau Tywys Mawndiroedd (dydd Sadwrn 29 Mawrth 10.30am – 13.30pm)
Bydd y digwyddiad hwn nawr yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth 10.30-13.30pm (mae'r amser gorffen wedi'i ymestyn)
Taith gerdded gyda thywyswyr profiadol yr RSPB i ddarganfod cynefin mawndiroedd godidog Llyn Efyrnwy. Dysgwch am bwysigrwydd y cynefin hwn sy’n cael ei anghofio’n aml a’r gwaith a wneir i amddiffyn, datblygu, a thyfu’r dirwedd hollbwysig hon ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.
Man cyfarfod: Swyddfa’r RSPB (ar draws yr argae).
Taith Hanes Lleol (Dydd Sadwrn 22 Mawrth 10.30am -12.20pm)
Ymunwch â’r hanesydd a’r storïwr lleol, Carol Pearce, am daith dywys ddifyr i’r gorffennol. Dewch i fwynhau hanes cyfoethog Llanwddyn wrth i Carol adrodd hanes y gymuned fywiog hon, drwy gyfrwng ei phobl, bywyd y pentref a’i thirwedd. Cewch flas ar y straeon llên gwerin sy’n amgylchynu’r ardal hon, gan ychwanegu cysylltiad dyfnach â’r dyffryn cudd hardd hwn.
Man cyfarfod: Swyddfa’r RSPB (ar draws yr argae).
Saif Llyn Efyrnwy yng nghesail llethrau Mynyddoedd y Berwyn, wedi’i amgylchynu gan goed, ac er mor gadarn yw byd natur yma, cronfa ddŵr wedi’i chreu gan ddyn yw hon. Mae'r ystâd o’i hamgylch, gyda’i rhostir, ei choetir a’i dolydd, yn hafan i fywyd gwyllt. Gwrandewch ar alwad telor y coed a thitw'r helyg yn y coed, edrychwch am fronwen y dŵr wrth ymyl y nentydd creigiog a’r hwyaden ddanheddog yn nofio’n hamddenol ar y dŵr. Edrychwch i fyny fry ac efallai y gwelwch chi hebog tramor yn hela uwchben.
Bydd RSPB yn cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol gyda chynnig arbennig, fel y manylir arno uchod, i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n cyflwyno prawf o fod wedi prynu tocyn.
Bydd y cynnig hwn yn rhedeg ar 22 Mawrth, 29 Mawrth.
Mae’r teithiau’n dechrau am 10.30am a byddant yn para tua 2 awr.
Nid oes angen cadw lle/archebu o flaen llaw.
Gellir prynu'r cynnig trwy: Ceir dewis o ddwy daith dywys ddydd Sadwrn 29 Mawrth 10.30-13.30pm a dydd Sul 22 Mawrth 10.30-12.30pm. Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle, anfonwch e-bost at vibrantvyrnway@rspb.org.uk.
Telerau ac Amodau RSPB – Llyn Efyrnwy
• Mae un tocyn/cerdyn crafu Loteri Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddeilydd y tocyn gael dewis o ddwy daith dywys am ddim ddydd dydd Sadwrn 29 Mawrth 10.30am – 13.30pm a dydd Sul 22 Mawrth 10.30am-12.30pm.
• Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle (anfonwch e-bost at vibrantvyrnwy@rspb.org.uk)
• Ewch i wefan yr RSPB: https://www.rspb.org.uk/days-out/reserves/lake-vyrnwy i weld amseroedd agor y safle a rhagor o wybodaeth.
• Mae holl gemau’r Loteri Genedlaethol, gan gynnwys gemau tynnu rhifau, Gemau Instant Win, a chardiau crafu’r Loteri Genedlaethol, a brynwyd mewn siop ac ar-lein / drwy ap, yn gymwys i fanteisio ar y cynnig hwn.
• Gall prawf o brynu gêm Loteri Genedlaethol fod naill ai’n docyn wedi’i argraffu neu’n gopi digidol.
• Nid yw dyddiad tynnu’r rhifau / dyddiad prynu yn berthnasol.
• Nid oes modd defnyddio'r cynnig hwn gydag unrhyw gynnig arall ac ni roddir arian yn gyfnewid am y gost.
• Nid yw’r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer unrhyw ddigwyddiad arbennig yn y warchodfa lle mae’n rhaid talu ffi ychwanegol i fynychu.
• Mae gan yr RSPB hawl gwrthod mynediad i’r warchodfa os digwydd i’r lleoliad fod yn llawn, yn ogystal ag o ganlyniad i unrhyw amgylchiadau annisgwyl, am resymau y tu allan i reolaeth yr RSPB, neu ar ddisgresiwn RSPB am unrhyw reswm arall.
• Gellir defnyddio tocyn y Loteri Genedlaethol unwaith fesul safle yn ystod y cyfnod dan sylw.
• Rhaid i bob plentyn o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.
• Gofynnir i bawb gydymffurfio â chanllawiau, codau a pholisïau’r RSPB pan fyddant yn ymweld â safle.
• Nid yw’r RSPB yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golledion a wynebir o ganlyniad i gymryd rhan yn y cynnig neu’n ymwneud â gwrthod mynediad ar yr amod na fydd unrhyw beth yn eithrio neu’n cyfyngu atebolrwydd yr RSPB am dwyll, marwolaeth neu anaf personol yn deillio o esgeulustod yr RSPB, neu unrhyw atebolrwydd arall i’r graddau nad yw’r atebolrwydd hwnnw’n cael ei eithrio neu ei gyfyngu gan y gyfraith.
Hyrwyddwr: Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 207076) a’r Alban (rhif SC037654).
Mae holl gemau'r Loteri Genedlaethol (gan gynnwys gemau tynnu'r Loteri Genedlaethol a chardiau crafu'r Loteri Genedlaethol) a brynir mewn siop/ar-lein/trwy app yn gymwys i ddefnyddio'r cynnig hwn.
Gall prawf o brynu gêm y Loteri Genedlaethol fod ar ffurf tocyn copi papur neu ddigidol.
Nid yw dyddiad tynnu/prynu'r tocyn yn berthnasol.
Mae'r holl gynigion yn destun i argaeledd. Mae gan RSPB yr hawl i wrthod mynediad petai'r lleoliad/cynnig yn cyrraedd capasiti, ynghyd ag amgylchiadau na ellir eu rhagweld.
Petai ymholiadau ar y dydd, mae penderfyniad y sefydliad yn derfynol.
Gwiriwch gyda'r lleoliad am fanylion megis oriau agor, lleoliad, telerau ac amodau penodol a gwybodaeth berthnasol arall cyn ymweld.
Ni ellir cyfnewid y cynnig hwn.
Lleoliad
Social Media
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan RSPB Llyn Efyrnwy - Teithiau Tywys - 22 & 29 Mawrth 2025? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community
Other offers you might like
-
Ynys-hir yr RSPB - Mynediad am ddim - 15-16 Mawrth a 19-23 Mawrth 2025
15–16 Mawrth 2025, 19–23 Mawrth 2025
-
Gwarchodfa Natur Conwy yr RSPB - Mynediad am ddim - 15-23 Mawrth 2025
15–23 Mawrth 2025