Skip to main content

Ynys Lawd yr RSPB - Teithiau tywys am ddim - 20 Mawrth 2025

20 Mawrth

Awyr Agored a Natur Taith

RSPB_South Stack Reserve

Mae un tocyn Loteri Genedlaethol yn rhoi hawl i’r deiliad gael taith dywys am ddim ddydd Iau 20 Mawrth 2025 am 10:30 - 12.30pm. Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle gan fod llefydd yn brin.

Yng Nghreigiau Ynys Lawd, mae’r rhostir a’r tir amaethyddol eang yn cwrdd â chlogwyni caregog y môr. Mae’r clogwyni, sy’n wynebu Ynys Lawd a Môr Iwerddon oddi draw, yn ardal fagu hanfodol i’r wylog, gwalch y penwaig a’r pâl yn y gwanwyn. Mae'r brain coesgoch prin i’w gweld yn hedfan gyda’r clogwyni gydol y flwyddyn. Cewch fwynhau golygfeydd godidog o’r môr o Dŵr Elin, sy’n adeilad Fictoraidd gwyn llachar ar ffurf castell a gaed ei ddefnyddio’n wreiddiol fel tŷ haf yn y 19eg ganrif. Ar ôl mwynhau’r golygfeydd trawiadol, cewch ymlacio yn y caffi a chael blas ar Ynys Môn.

Bydd RSPB yn cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol gyda chynnig arbennig, fel y manylir arno uchod, i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n cyflwyno prawf o fod wedi prynu tocyn.

Bydd y cynnig hwn yn rhedeg ar 20 Mawrth.

Mae'r daith dywys yn dechrau am 10.30am a disgwylir iddi bara tua 2 awr.

Nid oes angen cadw lle/archebu o flaen llaw.

Gellir prynu'r cynnig trwy: Taith dywys am ddim i un oedolyn ddydd Iau 20 Mawrth 2025 am 10:30 - 12.30pm.

Telerau ac Amodau RSPB – Ynys Lawd

• Mae un tocyn Loteri Genedlaethol yn rhoi hawl i’r deiliad gael taith dywys am ddim ddydd Iau 20 Mawrth 2025 am 10:30 - 12.30pm.

• Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle gan fod llefydd yn brin.
Ewch i wefan yr RSPB: https://www.rspb.org.uk/days-out/reserves/south-stack-cliffs i weld amseroedd agor y safle a rhagor o wybodaeth.

• Mae holl gemau’r Loteri Genedlaethol, gan gynnwys gemau tynnu rhifau, Gemau Instant Win, a chardiau crafu’r Loteri Genedlaethol, a brynwyd mewn siop ac ar-lein / drwy ap, yn gymwys i fanteisio ar y cynnig hwn.

• Gall prawf o brynu gêm Loteri Genedlaethol fod naill ai’n docyn wedi’i argraffu neu’n gopi digidol.
• Nid yw dyddiad tynnu’r rhifau / dyddiad prynu yn berthnasol.

• Nid oes modd defnyddio'r cynnig hwn gydag unrhyw gynnig arall ac ni roddir arian yn gyfnewid am y gost.

• Nid yw’r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer unrhyw ddigwyddiad arbennig yn y warchodfa lle mae’n rhaid talu ffi ychwanegol i fynychu.

• Mae gan yr RSPB hawl gwrthod mynediad i’r warchodfa os digwydd i’r lleoliad fod yn llawn, yn ogystal ag o ganlyniad i unrhyw amgylchiadau annisgwyl, am resymau y tu allan i reolaeth yr RSPB, neu ar ddisgresiwn RSPB am unrhyw reswm arall.

• Gellir defnyddio tocyn y Loteri Genedlaethol unwaith fesul safle yn ystod y cyfnod dan sylw.

• Rhaid i bob plentyn o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.

• Gofynnir i bawb gydymffurfio â chanllawiau, codau a pholisïau’r RSPB pan fyddant yn ymweld â safle.

• Nid yw’r RSPB yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golledion a wynebir o ganlyniad i gymryd rhan yn y cynnig neu’n ymwneud â gwrthod mynediad ar yr amod na fydd unrhyw beth yn eithrio neu’n cyfyngu atebolrwydd yr RSPB am dwyll, marwolaeth neu anaf personol yn deillio o esgeulustod yr RSPB, neu unrhyw atebolrwydd arall i’r graddau nad yw’r atebolrwydd hwnnw’n cael ei eithrio neu ei gyfyngu gan y gyfraith.

Hyrwyddwr: Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 207076) a’r Alban (rhif SC037654).

Mae holl gemau'r Loteri Genedlaethol (gan gynnwys gemau tynnu'r Loteri Genedlaethol a chardiau crafu'r Loteri Genedlaethol) a brynir mewn siop/ar-lein/trwy app yn gymwys i ddefnyddio'r cynnig hwn.

Gall prawf o brynu gêm y Loteri Genedlaethol fod ar ffurf tocyn copi papur neu ddigidol.

Nid yw dyddiad tynnu/prynu'r tocyn yn berthnasol.

Mae'r holl gynigion yn destun i argaeledd. Mae gan RSPB yr hawl i wrthod mynediad petai'r lleoliad/cynnig yn cyrraedd capasiti, ynghyd ag amgylchiadau na ellir eu rhagweld.

Petai ymholiadau ar y dydd, mae penderfyniad y sefydliad yn derfynol.

Gwiriwch gyda'r lleoliad am fanylion megis oriau agor, lleoliad, telerau ac amodau penodol a gwybodaeth berthnasol arall cyn ymweld.

Ni ellir cyfnewid y cynnig hwn.

Lleoliad

South Stack
Isle of Anglesey
LL65 1YH
United Kingdom
View map

Social Media

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Ynys Lawd yr RSPB - Teithiau tywys am ddim - 20 Mawrth 2025? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Other offers you might like

All offers