Skip to main content

Wales - Prosiectau

Canfod prosiectau sy’n agos atoch chi

neu

  1. River and Sea Sense

    Mae River and Sea Sense yn dysgu diogelwch yn y dŵr ac adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) i bobl ifanc ac oedolion led led Cymru er mwyn osgoi damweiniau trasig yn y dyfodol.

  2. Armistice Cantata

    Cantata'r Cadoediad, cynhyrchiant teimladwy o eiriau a cherddoriaeth. Wedi'i gyfansoddi gan blant ysgol gynradd yng Nghaerdydd, mae'n defnyddio cerddoriaeth a hanes i gysylltu ysgolion cynradd gyda phobl hŷn yn eu cymunedau.

  3. Kick Some Balls (Street Football Wales)

    Mae prosiect Kick Some Balls Pêl-droed Stryd Cymru yn gweithio gyda merched digartref ac wedi'u hymyleiddio i hybu ffitrwydd, lles a sgiliau cymdeithasol.

  4. Behind the Label

    Prosiect creadigol yw Behind the Label i bobl sydd wedi profi digartrefedd a hunanhyder isel er mwyn rhannu profiadau bywyd sy'n arwain at berfformiad theatr amgen.

  5. St Fagans National Museum of History

    Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, yw atyniad treftadaeth helaethaf a mwyaf poblogaidd Cymru ac un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop.

  6. Llanrumney Phoenix Boxing Club

    Clwb bocsio a hyb cymunedol yw Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni mewn ardal ddifreintiedig o Gaerdydd.

  7. Jade Jones

    Jade Jones oedd yr athletwraig gyntaf o Brydain i ddod yn bencampwraig taekwondo Olympaidd.

  8. Millennium Falcon Exhibition

    Sefydlwyd Arddangosfa’r Millennium Falcon yng Nghymru wledig i adrodd ‘cyfrinach oedd yn hen hysbys’ mewn pentref yn Sir Benfro – adeiladu llong ofod Star Wars o faint go iawn yn yr 1970au.

  9. The Black Swimming Association

    Y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) yw’r sefydliad cyntaf sy’n gweithio i hyrwyddo addysgu cymunedau o dreftadaeth Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd am ddiogelwch dŵr, atal boddi a buddion y byd dyfrol trwy raglenni tywys ac ymgyfarwyddo â dŵr.

  10. Forget-me-not Chorus

    Ers 2011, mae Forget-me-not Chorus – un o brif elusennau dementia Cymru – wedi bod yn trefnu sesiynau canu wythnosol i bobl sydd â dementia a’r sawl sy’n eu cefnogi.

  11. The Jac Lewis Foundation

    Mae’r elusen hon a sefydlwyd er cof am bêl-droediwr ifanc yn helpu pobl i gael mynediad cyflym at gefnogaeth iechyd meddwl, ynghyd â gwasanaeth cynghori i deuluoedd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad.

  12. Get The Boys A Lift

    Get The Boys A Lift

    Sefydliad nid-er-elw yw Get The Boys A Lift (GTBAL) a lansiwyd gan grŵp o ffrindiau sy’n darparu cefnogaeth iechyd meddwl am ddim i bobl Sir Benfro tra’n hyrwyddo trafodaethau agored am les meddyliol.