Skip to main content

GWYCH AR GYCHWYN

Mae ymgyrch Gwych ar Gychwyn y Loteri Genedlaethol yn adrodd yr hanes am sut mae’r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol bob wythnos dros achosion da wedi newid bywydau pobl gyffredin yn Wrecsam a Sir y Fflint mewn ffordd bositif.

Gwych ar Gychwyn - Wrecsam a Sir y Fflint

Pan yn blentyn yn Wrecsam, roedd cerddoriaeth, chwaraeon a’r gwaith dur i gyd yn bwysig i gyn-olygydd yr NME, Mike Williams. Dyma ei stori a chyfle i weld sut mae bron i £101m o arian yr Loteri Genedlaethol wedi newid bywydau yn yr ardal.

Oeddech chi’n gwybod?

Yn Wrecsam a Sir y Fflint yn unig, mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwobrwyo tua £101m i dros 4,600 o achosion da ers ei lansio 25 mlynedd yn ôl.

Clwb Rygbi Cadair Olwyn Dreigiau'r Wyddgrug

“Nid yn unig y mae rygbi cadair olwyn wedi rhoi camp i mi, ond grŵp o bobl hefyd sy’n deall fy anabledd.”


Gwrandewch ar Bex Laing o dîm Rygbi Cadair Olwyn 7 bob ochr Dreigiau'r Wyddgrug, sy'n esbonio sut mae’r clwb a ariennir gan y Loteri Genedlaethol wedi newid ei bywyd er gwell. Dros y ddeufis nesaf, bydd ymgyrch Gwych ar gychwyn y Loteri Genedlaethol yn rhannu mwy o straeon am bobl ryfeddol o Wrecsam a Sir y Fflint.

Stiwdio Gerdd Vic

“Mae’n lle hanfodol i’r sin gerddoriaeth ac yn cyfoethogi bywydau pobl ifanc yn Wrecsam”

Mae Mike Harmina, Rheolwr Vic Studios, yn dweud wrthym ni sut mae arian y Loteri Genedlaethol wedi eu galluogi hwy i gyrraedd mwy o bobl nag erioed o’r blaen.

Menter gymdeithasol a leolir o fewn y gymuned yn Wrecsam yw Vic Studios a’i nod yw helpu pobl ifanc i feithrin hyder, sgiliau a rhagolygon trwy gerddoriaeth.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi galluogi’r stiwdios i greu cyfleuster ymarfer a recordio fforddiadwy i fandiau a cherddorion ifanc, ac ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio ac yn agored i niwed.

Yr un Fath ond Gwahanol

Mae cymryd rhan mewn Rare Aware wedi bod yn anhygoel ac mae’n ffantastig gwybod bod rhywun allan yna’n benderfynol o godi ymwybyddiaeth am afiechydon prin.”
Clywch y stori am sut y mae prosiect a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol yn newid bywydau plant fel Poppy a Ffion.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae rhwng 6000-8000 o glefydau prin yn effeithio ar dros 3,500,000 o bobl yn y DU ac mae tua phump o glefydau prin newydd yn cael eu disgrifio mewn llenyddiaeth Feddygol bob wythnos.

Parc Gwepre

“Mae’r cyfleoedd gwych ym Mharc Gwepre wedi rhoi synnwyr o heddwch i mi.” Clywch y stori am sut y bu prosiect a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol ym Mharc Gwepra yn newid bywydau gwirfoddolwyr fel Andrew.

Celfyddydau o'r Gadair Freichiau

Mae dod i'r Celfyddydau o'r Gadair Freichiau yn golygu fy mod yn cael fy ngwraig yn ôl am o leiaf dridiau ar ôl y sesiynau." Clywch y stori am sut y mae'r prosiect hwn a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol ar y rhai sy'n byw gyda cholli cof, dementia a'u cynhalwyr

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r £26,000 a wobrwywyd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru wedi helpu prosiect Celfyddydau o'r Gadair Freichiau i gyrraedd pobl sy’n byw gyda dementia a nam gwybyddol ysgafn a’u gofalwyr yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint.

Wales Football Collection

Taking care of international caps, match-worn Welsh shirts and even a telegram sent by Juventus to release John Charles to play for Wales in the 1958 World Cup is part of Jonathon Gammond’s day to day work.

The Wales Football Collection in Wrexham is home to over 1,000 items from the past 100 years with memorabilia from Wales stars including Billy Meredith, John Toshack and Ian Rush and, according to the museum’s curator, there is no better place for it than where football in Wales was first established.

Read more about Jonathon's work with the Wales Football Collection here: "Football is a crucial part of Welsh history and identity and it all started here in Wrexham.”

Jade Jones

Flint’s golden girl, Jade Jones, became a double Olympic champion by the age of 23 when she won gold at the Rio Olympics in 2016 and she is one of hundreds of elite athletes in the UK funded by the National Lottery, allowing her to train full time to reach her full potential. She is currently training hard with the goal of winning Olympic gold once again, this time in Tokyo 2020.

Oeddech chi’n gwybod?

Since the National Lottery started funding elite athletes in 1997, Team GB and Paralympics GB have won over 870 medals

All Good Causes