Skip to main content

Gwneud i bethau anhygoel ddigwydd

Pob tro y byddwch yn chwarae'r Loteri Genedlaethol, rydych yn helpu i wneud y DU yn lle gwell i fyw ynddo.

Ers tynnu'r Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1994, mae eich cefnogaeth wedi ariannu mwy na 635,000 o brosiectau, gan godi mwy na £43 biliwn ar gyfer achosion da. Mae hynny'n anhygoel! Felly diolch i chi.

Rydym yn hoffi dathlu’r bobl ysbrydoledig a’u prosiectau dyfeisgar sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol.

O ganolfannau cymunedol bychain mewn trefi a phentrefi ar hyd ac ar led y wlad i dirnodau eiconig megis Angel y Gogledd a stadiymau o safon fyd-eang …. rydych chi wedi helpu i’w hadeiladu nhw.

O gyn-filwyr i’r bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas … rydych chi wedi helpu i’w cefnogi hwy.

Meddyliwch am eich ymweliad diwethaf â’r amgueddfa, oriel gelf, y theatr neu ganolfan chwaraeon – y tebygolrwydd yw y byddant wedi derbyn arian y Loteri.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi creu miloedd o swyddi, gan ddarparu mwy na miliwn o gyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant a helpu i feithrin diwydiannau celfyddydol a ffilm bywiog sy’n adnabyddus yn rhyngwladol gyda llwyddiannau BAFTA ac Oscar.

Yn ychwanegol at hyn, mae wedi arwain at gynnydd ein dynion a merched elit o fewn chwaraeon i gyrraedd safon sydd orau yn y byd lle y maent wedi ennill medalau aur a theitlau byd i brofi hynny.

Mae wedi cynnig hwb ariannol enfawr i gymunedau ar draws y DU i weithio a dod ynghyd – trwy erddi cymunedol, dyddiau hwyl, clybiau cinio a neuaddau pentref.

Mae’r sefydliadau sy’n gwneud gwaith mor anhygoel i gefnogi’r mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas – y digartref, y sawl sy’n dioddef o salwch, yr ifanc neu’r hen iawn, neu ddioddefwyr trais a chamdriniaeth – yn eu tro wedi’u cefnogi’n aml iawn gan y Loteri Genedlaethol.

Diolch i chi am wneud i bethau anhygoel ddigwydd. Mae’r Anhygoel yn dechrau gyda chi.

Featured projects