Cynigion arbennig Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol
- All
- Mynediad am ddim
- Tocynnau dau am un
- Gostyngiad ar docynnau
- Treftadaeth
- Amgueddfa / Oriel
- Yn addas i'r teulu
- Llyfrgell / Archifau
- Yn addas i anifail anwes
- Ffilm / Sinema
- Hygyrch i gadeiriau olwyn
- Prosiect cymunedol
- Chwaraeon
- Nid oes angen cadw lle o flaen llaw
- Cynnig / gostyngiad yn y caffi.
- Awyr Agored a Natur
- Arddangosfa
- Theatr / Perfformiad
- Anrheg am ddim
- Taith
- Iechyd a Lles
- Gweithdy / Gwers
- Cofrestrwch nawr i dderbyn y cynnig ar ddyddiad diweddarach
- Cynnig ar-lein
- Rhodd
- Gostyngiad yn y Siop
- Cystadleuaeth / Raffl i Ennill Gwobr
Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn digwydd o ddydd Sadwrn 15 Mawrth hyd at ddydd Sul 23 Mawrth 2025!
Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn ffordd i leoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ddiolch i'r chwaraewyr am y £30 miliwn a godir ar gyfer Achosion Da bob wythnos, drwy gynnig mynediad am ddim, gostyngiadau a chynigion arbennig.
Yn 2024, diolchodd dros 500 o leoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol led led y DU i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy gynnig diwrnodau allan am ddim ac am gost isel, gan gynnwys y cyfle i:
• Dreiddio i mewn i’r gorffennol mewn tai hanesyddol, cestyll ac amgueddfeydd
• Cofleidio natur yn ei holl ogoniant mewn llawer o fannau bywyd gwyllt rhyfeddol
• Ail-fyw eiliadau eiconig mewn lleoliadau chwaraeon enwog
• Mwynhau profiadau o ddiwylliant mewn orielau celf a theatrau led led y DU

Beth yw Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol?
Mae’r syniad yn syml: bydd unrhyw un sy'n ymweld â phrosiect sy’n cymryd rhan ac sy'n cael ei gefnogi gan y Loteri Genedlaethol ac yn dangos tocyn Loteri Genedlaethol, tocyn Gêm Instant Win, neu gerdyn crafu (corfforol neu ddigidol) yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol, yn gallu manteisio ar gynigion arbennig.
Mae cefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu prosiectau ac elusennau gwych i barhau i wneud gwahaniaeth i bobl a chymunedau - ac mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn ffordd berffaith i ddweud #DiolchIChi bod hyn i gyd yn bosibl!
Sut mae cynnig arbennig yn edrych?
O fynediad am ddim i rai o amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth mwyaf poblogaidd y DU, i deithiau y tu ôl i'r llenni mewn lleoliadau chwaraeon o'r radd flaenaf, anrheg am ddim neu baned o de a chacen, neu neilltuo tocynnau i berfformiad theatr sydd wedi gwerthu allan, mae cymaint o ffyrdd i bawb ddweud #DiolchIChi yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol.
Rwyf yn ddeilydd grant y Loteri Genedlaethol, sut ydw i’n cofrestru cynnig?
Gallwch gofrestru'ch cynnig ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol drwy ein dangosfwrdd drwy ddewis y botwm 'Rheoli eich cynigion'. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol mewn blynyddoedd blaenorol, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r un manylion mewngofnodi â'r hyn a ddefnyddiwyd gennych chi mewn blynyddoedd blaenorol. Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gofrestru eich cynnig, cysylltwch â ni ar thankstoyou@lotterygoodcauses.org.uk.
Os ydych yn sefydliad sydd am gymryd rhan, gallwch gofrestru nawr.
Social Media
Social Media
Say #ThanksToYou to National Lottery players for their support in making the work you do possible this National Lottery Open Week.