
Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yw'r ymgyrch flynyddol i ganfod hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri. Mae chwaraewyr y Loteri yn codi £35 miliwn yr wythnos dros brosiectau ar draws y DU ac mae'r Gwobrau yn ffordd wych o dynnu sylw at sut y mae'r arian wedi newid y DU er gwell.
Bellach yn eu degfed flwyddyn, mae'r Gwobrau yn cydnabod y gwahaniaeth anhygoel y mae prosiectau a ariennir gan y Loteri wedi'i wneud i bobl, lleoedd a chymunedau ar draws y DU. Maen nhw hefyd yn dathlu talent, gwaith caled ac ymrwymiad rhyfeddol y bobl sy'n gysylltiedig â'u rhedeg.
Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae dros 390,000 o grantiau wedi’u dosbarthu ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg ac amgylcheddol.
Cyflwynir Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2013 mewn cydweithrediad â’r Telegraph. Dyfernir y Gwobrau ar draws saith categori, gan adlewyrchu’r gwahanol fathau o brosiectau sy’n elwa o arian y Loteri. Y rhain yw: Celfyddydau, Addysg, Amgylcheddol, Iechyd, Treftadaeth, Chwaraeon ac Elusennol/Gwirfoddol.

