Skip to main content

Get The Boys A Lift

Sefydliad nid-er-elw yw Get The Boys A Lift (GTBAL) a lansiwyd gan grŵp o ffrindiau sy’n darparu cefnogaeth iechyd meddwl am ddim i bobl Sir Benfro tra’n hyrwyddo trafodaethau agored am les meddyliol. Mae’r prosiect wedi mynd o nerth i nerth ers 2016, gan gynnig cyfuniad o wasanaethau cwnsela personol ac ar-lein erbyn hyn i unrhyw un dros 17 mlwydd oed.

Sefydliad nid-er-elw yw Get The Boys A Lift (GTBAL) a lansiwyd gan grŵp o ffrindiau yn Sir Benfro a oedd yn awyddus i annog trafodaethau am iechyd meddwl. Mae’r prosiect wedi mynd o nerth i nerth ers 2016, gan gynnig cyfuniad o wasanaethau cwnsela personol ac ar-lein erbyn hyn i unrhyw un dros 17 mlwydd oed.

Mae’r tîm yn rhedeg siop ddillad a choffi yn Hwlffordd o’r enw ‘Our Place’, gan gynnig profiad caffi unigryw lle gall ymwelwyr sgwrsio gyda chwnselwyr a gwneud ffrindiau newydd. Mae ci y tîm, sef ci Doodle Dodger Euraidd, yn dod â gwen i bawb mae’n ei gyfarch. Ers agor caffi Our Place yn 2019, mae gwasanaeth galw heibio’r prosiect wedi darparu cefnogaeth hawdd ac am ddim i tua 500 o bobl, heb yr her o restrau aros helaeth. Mae gwasanaeth cwnsela ar-lein y prosiect, a lansiwyd yn ystod y pandemig, yn rhoi’r dewis i gleientiaid gael sesiynau o bell.

Get The Boys A Lift chalkboard

Gyda chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, roedd y prosiect yn gallu prynu fan coffi yn 2022, gan ganiatáu i gynrychiolwyr deithio ymhellach, nid yn unig i godi arian i gynnal gwasanaethau’r sefydliad, ond i hyrwyddo ei neges graidd am bwysigrwydd bod yn agored ynghylch iechyd meddwl.

Mae GTBAL hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar draws y rhanbarth, gan gynnwys gwaith allgymorth mewn ysgolion a gweithleoedd ynghyd â digwyddiadau cymunedol. Mae fan coffi ‘Break the Stigma’ wedi cael ei leoli yn Freshwater West yn Sir Benfro yn ystod yr haf hwn, gan roi’r cyfle i’r tîm ledaenu neges GTBAL i gynulleidfa ehangach, nid yn unig i bobl leol, ond i ymwelwyr niferus y rhanbarth hefyd. Mae elw o gyfres ddillad unigryw y prosiect, sy’n cynnwys popeth o hwdis i dywelion traeth, yn mynd yn ôl i waith hanfodol y tîm.

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Get The Boys A Lift? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect