Skip to main content

Hear We Are

Prosiect dan arweiniad pobl Fyddar a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw ‘Hear We Are' sy’n archwilio safbwyntiau pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rheini sy’n gweithio o fewn y sector creadigol neu wedi’u heithrio ohono.

Prosiect dan arweiniad pobl Fyddar a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw ‘Hear We Are' sy’n archwilio safbwyntiau pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rheini sy’n gweithio o fewn y sector creadigol neu wedi’u heithrio ohono.

Ers dechrau’r prosiect ym mis Chwefror 2021, mae’r tîm – dan arweiniad Jonny Cotsen, artist perfformio Byddar sy’n eirioli ar gyfer cynhwysiant o fewn y celfyddydau, wedi sefydlu rhwydwaith o fannau diogel ar gyfer pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ar draws Cymru i gwrdd, rhannu profiadau a phrofi syniadau creadigol.

Hear We Are

Trwy adeiladu grwpiau rhanbarthol, dan arweiniad mentoriaid creadigol Byddar, mae’r tîm wedi helpu i feithrin a datblygu doniau, gan annog sector celfyddydol sydd fwy o fewn cyrraedd i bawb. Yn ei ail gam, mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg trwy Ganolfan Gelfyddydol y Chapter, a leolir yng Nghaerdydd ac a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, wedi dod â thimau ynghyd i chwilio am atebion i faterion a godir gan gyfranogwyr.

Yn ddiweddar hefyd, mae’r tîm wedi cynnal digwyddiad tri diwrnod ‘Byddar Gyda’n Gilydd’, sef yr ŵyl gyntaf dan arweiniad pobl Fyddar yng Nghymru, i arddangos y doniau creadigol anhygoel o fewn y gymuned hon.Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r prosiect, sydd i ddod i ben y mis Medi hwn, yn dod i ddiweddglo gyda chyhoeddi maniffesto, y mae’r tîm yn gobeithio fydd yn cael ei ddefnyddio i gynghori sefydliadau, noddwyr, grwpiau cymunedol a gwneuthurwyr polisi dylanwadol am eu gwaith gydag artistiaid a chynulleidfaoedd Byddar a Thrwm eu Clyw yng Nghymru.

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Hear We Are? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect