Skip to main content

Llanrumney Phoenix Boxing Club

Clwb bocsio a hyb cymunedol yw Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni mewn ardal ddifreintiedig o Gaerdydd. Mae’r clwb wedi cynnig man diogel i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio’r gampfa, bod yn heini a gwella eu lles meddyliol, ynghyd â gwneud ffrindiau newydd.

Agorwyd Clwb Bocsio Phoenix Llanrhymni yn 2008 ac mae’r clwb eisoes wedi cael pedwar pencampwr Cymreig, gydag un o’r pencampwyr hynny yn symud ymlaen i ddod yn baffiwr proffesiynol.

Mae’r clwb wrth galon y gymuned ac mae ganddo gysylltiad cryf gyda sefydliadau lleol. Maent yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach ac yn annog pobl i gymryd rhan.

Mae’r clwb newydd ddechrau cydweithredu gyda Heddlu De Cymru i ddod â phobl ifanc oddi ar y stryd i ostwng lefelau troseddau gyda chyllyll ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o fewn eu hardal. Maent yn gweithio gyda siopau lleol ac yn helpu plant sydd mewn perygl o gael eu gwahardd i feithrin disgyblaeth a hunanhyder trwy baffio gan gefnogi’r tîm ymddygiad lleol pan fyddant yn cael trafferth gyda phlant heriol.

Ar hyn o bryd, maent yn cynnal prosiect gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Chwaraeon Caerdydd, gan weithio â chleifion sydd â dementia ac anawsterau iechyd meddwl, ar gyfer cleifion yn yr ysbyty a’r sawl sy’n byw yn y gymuned. Maent hefyd yn cynnal sesiynau a chymorthfeydd hyfforddi a chyflogi, gan fynd y tu hwnt i’w cylch gorchwyl i wasanaethu anghenion y gymuned o ddifrif.

Maent yn eiriolwyr mawr o ran merched yn cymryd rhan yn y gamp o baffio. Gyda’u hunig gangen merched sef Boxing Pretty yn annog a chefnogi nifer o ferched ifanc a gwragedd trwy baffio. Mae mamau yn cael eu hannog i ddod â’u plant gyda hwy os ydynt yn cael trafferth gyda gofal plant – nid oes unrhyw rwystrau i atal mamau rhag hyfforddi. Mae’r dosbarth hwn yn gweithio ar rymuso gwragedd a merched, a hynny trwy chwaraeon.

Lleoliad

Shaw Close,
Llanrumney
Cardiff
CF3 5NX

Map

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Llanrumney Phoenix Boxing Club? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect