Skip to main content

Olivia Breen

Rhannu

Rhannu

Y wibwraig, Olivia Breen oedd y ferch gyntaf i ennill medal aur trac a maes i Gymru mewn 32 mlynedd wedi dod yn fuddugol yn rownd derfynol y ras 100 medr T37/38 ym Mirmingham. Llwyddodd Breen i redeg ei hamser gorau i drechu Sophie Hahn, cyd-aelod o dîm Para Olympaidd Prydain Fawr.

Gyda’i hangerdd erioed am chwaraeon, dechreuodd gyrfa trac a maes rhyngwladol Livvy wedi iddi gael ei dosbarthu fel athletwraig T38 yn 2012. Gwnaeth enw i’w hunan yng ngemau Para Olympaidd Llundain 2012 lle bu’n cystadlu yn y ras wib 100m a 200m a llwyddodd i helpu’r Tîm trwy ennill medal efydd. Ers hynny, mae wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, ac wedi cystadlu yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd, Pencampwriaethau’r Byd a’r Gemau Para Olympaidd.

Roedd Olivia wedi dal salwch oedd yn debyg i Lid yr Ymennydd (Meningitis) ar adeg ei geni a arweiniodd ati yn bod yn yr Uned Gofal Babanod Arbennig yn Ysbyty Guildford am fis. Gadawodd yr ysbyty gyda Daniel, ei gefaill ond ni lwyddodd i ffynnu ac roedd hi’n hwyr yn cyrraedd ei holl gerrig milltir. Cafodd ddiagnosis o Barlys yr Ymennydd yn 2 flwydd oed. Mae ganddi nam ar ei chlyw ac ychydig o anawsterau dysgu hefyd.

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Olivia Breen? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect