Skip to main content

Wastesavers

Rhannu

Rhannu

Menter gymdeithasol ac elusen a leolir yn ne ddwyrain Cymru yw Wastesavers, gyda ffocws ar gynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Fe’i sefydlwyd fel prosiect amgylcheddol yn 1985 a heddiw mae’n rhedeg gwasanaethau ailgylchu ar gyfer 75,000 o drigolion yng Nghasnewydd ynghyd â chael nifer o brosiectau elusennol. Yn ystod y pandemig, maen nhw wedi darparu dyfeisiau TG ail-law a chyfrannu dodrefn i bobl mewn argyfwng.

Mae’r elusen yn canolbwyntio ar dri pheth – lliniaru tlodi trwy ddarparu eitemau i’r cartref, darparu eitemau trydanol ac eitemau TG sydd wedi’u hadnewyddu i’r sawl sydd mewn angen, cyflwyno addysg yn y gymuned ynglŷn â phwysigrwydd ailgylchu ac ailddefnyddio, a chynnig addysg arall i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael anawsterau o fewn ysgolion prif ffrwd gan roi sgiliau rhifedd, llythrennedd ac ymarferol iddynt.

Mae rhwydwaith o naw siop ailddefnyddio ar draws Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd gan Wastesavers, lle gall unigolion a chwmnïau gyfrannu eitemau TG a thrydanol ac eitemau o’r cartref nad oes mo’u heisiau bellach. Mae rhaglen hyfforddiant digidol yn rhedeg ochr yn ochr â hyn i sicrhau fod pawb yn gallu defnyddio TG. Gyda nifer o gysylltiadau â gwasanaethau cefnogi eraill, maen nhw’n cyfrannu eitemau’n rheolaidd i bobl mewn argyfwng.    Roedd yr elusen hefyd wedi gweithio gyda’r clwb Men’s Shed sy’n cwrdd yn ei depo i ddarparu hyfforddiant TG ar-lein ac i rymuso aelodau i deimlo’n fwy hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd.

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Wastesavers? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect