Skip to main content

Everyday Sailors

15th December 2020

Ken Newing, Rear Commodore Training & Principal of RYA Training Centre at Port Dinorwic Sailing Club - Clwb Hwylio Y Felinheli

Ken Newing

"Un peth ry’n ni wastad wedi ceisio bod yw clwb agored,” nododd Ken Newing, “Mae’n bobl gyffredin pob dydd yn hwylio.”

Fel y mwyafrif o glybiau morwrol, ffurfiwyd Clwb Hwylio Y Felinheli yn union wedi’r ail ryfel byd, gan ddechrau gyda hwylio dingi ar y Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon. Yn 1970, trawsnewidwyd hen gaban y Llu Awyr (RAF) a oedd yn gwasanaethu fel ei ganolfan yn dŷ clwb trwy grant pwyllgor addysg lleol. Ymunodd Ken Newin â’r clwb chwe blynedd yn ddiweddarach ac mae wedi bod yn hwylio yno byth ers hynny.

Mae’r gŵr 70 mlwydd oed sionc wedi helpu llywio’r clwb am y pedwar degawd diwethaf trwy eistedd ar ei bwyllgor a gweithio o fewn gwahanol rolau, gan fynd ati’n weithgar i annog pobl newydd yn yr ardal leol i ymgymryd â’r gamp: “Mae pobl yn ystyried hwylio fel camp ddrud iawn, ac fe all fod yn hynny ond does dim angen iddo fod. Am bris atgynhyrchiad o grys Lerpwl, gallwch gael aelodaeth flynyddol mewn clwb hwylio.

Gan frolio 300 o aelodau, gyda 60% ohonynt yn byw o fewn deng milltir o’r Felinheli (“pentref Cymreig iawn”), dywedodd Ken fod y clwb yn “rhan o fy nheulu”. Pan ddechreuodd y pandemig, gorfodwyd y rheolwr sicrhau ansawdd ac iechyd a diogelwch i fynd i gwarantin oherwydd llawdriniaeth ar gyfer clun newydd, ac yna bu’n diogelu ei hunan tan ganol mis Mehefin.

Ond, er gwaetha’r cyfyngiadau, bu Ken yn cynrychioli’r clwb ar bob un o Fforymau Datblygu’r Clwb a gynhelir gan RYA Cymru – y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer campau hwylio, hwylfyrddio a chychod pŵer – oedd yn gyfanswm o 30 sesiwn. Cyflwynodd adborth i’r clwb ar yr holl gyfarwyddyd a chyngor i ddarparu amgylchedd diogel. Aeth ati hefyd i drefnu rhaglenni a sgyrsiau e-hwylio ar draws cyfryngau cymdeithasol gan annog aelodau’r clwb i rannu eu storïau a helpu i ddod â’r gymuned ynghyd yn ystod amser anodd.

"Pan ddechreuodd y cyfnod clo, doedden ni methu gwneud unrhyw beth,” nododd Ken. “Oherwydd fy swydd, rwy’n gwneud asesiadau risg, felly aethom ati i dynnu’r mynydd o ddogfennau ynghyd i helpu’r clwb ddod nôl at ei gilydd a chael pobl i ddychwelyd at hwylio. O flwyddyn i flwyddyn, mae’r clwb bron yn rhedeg ar awtobeilot, ond eleni, mae wedi bod yn llawer o waith caled.

"Gwobrwywyd statws Clwb y Flwyddyn i’r clwb eleni, ond y foment fwyaf ysbrydoledig a chalonogol o fewn y flwyddyn oedd pan y rhoddwyd caniatâd i ni fynd yn ôl i hwylio unwaith eto. Mae synnwyr o gymuned yn y clwb, mae’n wirioneddol bwysig i ni - gallwch fynd i rai o’r clybiau mwy ac mae’n ymddangos fel nad oes neb yn siarad â’i gilydd. Wedi rasio un diwrnod, roedd yn braf gallu siarad gyda phobl unwaith eto a chael gwybod eu newyddion, o bellter cymdeithasol, wrth gwrs. Roedd hynny bron yn brafiach na’r rasio!”

Clwb Hwylio Y Felinheli yw un o’r nifer o sefydliadau anhygoel hynny sydd wedi derbyn cefnogaeth trwy ychydig o’r £30m a godir tuag at achosion da gan y Loteri Genedlaethol pob wythnos.

I gydnabod ei ymroddiad a’i waith gwirfoddol ar gyfer y gymuned yn ystod y pandemig a thu hwnt, roedd Ken yn un o’r ychydig a ddewiswyd gan y Loteri Genedlaethol i gael stadiwm wedi’u henwi ar eu holau. Bydd Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaernarfon yn dod yn Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Ken Newing yn fuan, sydd, yn ôl Pennaeth ac Ôl-Gomodor Hyfforddiant Canolfan Hyfforddiant RYA, yn golygu’r byd iddo.

"Dydw i dal heb ddod dros y syndod, wir yr! Roeddwn wedi’n synnu a’n syfrdanu pan gefais wybod, doedd gen i wir ddim geiriau. Mae’r clwb hwn yn ymdrech grŵp, mae llawer o bobl sy’n cymryd rhan. Mae ein comodoriaid yn gwneud gwaith gwych ac ni fyddai hyn yn bosibl hebddynt. Rydym wrth galon y gymuned ac mae’r gymuned yn rhan enfawr o’r hyn rydym yn ei wneud. Pobl gyffredin ydym ni – dim byd mwy.”