Skip to main content

Pioneering Gwent Missing Children Project Meets Minister

1st May 2014

Mae prosiect newydd arloesol yn ne-ddwyrain Cymru eisoes wedi haneru nifer y plant sy'n mynd ar goll drosodd a throsodd.

Siaradodd y bobl ifanc am sut y mae prosiect Plant Coll Gwent/Gwent Missing Children wedi eu helpu i weddnewid eu bywydau yn ystod eu cyfarfod gyda'r Dirprwy Weinidog dros Drechu Tlodi, Vaughan Gething AC yn swyddfa'r tîm ym Mhont-y-pŵl heddiw (Dydd Iau 1 Mai).

Mae prosiect Plant Coll Gwent yn cefnogi pobl ifanc bregus a'u teuluoedd trwy greu cronfa o wybodaeth rhwng gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cyrraedd gwraidd problemau pob person ifanc.

Blwyddyn ers ei lansio, mae'r prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi bron 600 o bobl ifanc bregus a'u teuluoedd i newid eu bywydau er gwell. Yn ei chwe mis cyntaf fe wnaeth y prosiect helpu 234 o bobl ifanc, ac nid yw 128 o'r rheini wedi'u hadrodd ar goll eto.

Gwelodd Vaughan Gething AC effaith cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus i ostwng nifer y digwyddiadau o blant yn rhedeg i ffwrdd ac i helpu pobl ifanc i adennill rheolaeth ar eu bywydau.

Fe wnaeth partneriaid y prosiect esbonio sut y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi'u helpu i sefydlu canolfan plant coll arloesol i rannu gwybodaeth ac asesu risg. Mae pob plentyn sy'n rhedeg i ffwrdd yn derbyn cymorth annibynnol, a allai gynnwys siarad ar eu rhan, ailadeiladu eu teulu, a derbyn cymorth gan bobl ifanc eraill, yn ôl yr angen.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wella cyfleoedd bywyd y bobl fwyaf bregus yng Nghymru, ac roeddwn yn awyddus i weld sut y mae'r prosiect hwn yn helpu pobl ifanc.

“Mae'r prosiect yn dangos sut y gall partneriaethau gynyddu effaith y maen nhw'n ei chael, fel yr amlinellir yn ein strategaeth Gwasanaethau Effeithiol i Bobl Fregus. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi chwarae ei ran wrth wella dyfodol y bobl ifanc hyn.”

Dywedodd Kerry Wade, Rheolwr Gwasanaeth y Prosiect:

“Mae plant coll wrth risg cynyddol o gam-drin corfforol neu rywiol. Gall eu bywydau droelli i beryglon megis alcohol, cyffuriau, trosedd ac ecsploetiaeth, ac mae'r prosiect yn eu hadnabod ac yn helpu i'w hamddiffyn.

“Mae llawer o'r plant a'r bobl ifanc hyn yn ceisio delio gyda sefyllfaoedd cymhleth, a gwneud synnwyr ohonynt, sy'n golygu eu bod yn fregus. Mae llawer ohonynt wedi tynnu'n ôl o gymdeithas prif ffrwd a'r gwasanaethau a'r sefydliadau a fyddai'n rhoi rywfaint o amddiffyniad iddynt. Trwy gydgyfrannu adnoddau a dod i adnabod y bobl ifanc hyn yn iawn, rydym wedi gallu eu helpu yn ôl ar y trywydd cywir.

"Fe wnaeth arian y Loteri Genedlaethol helpu i wireddu hyn, felly rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth arwyddocaol hon."

Mae'r ganolfan yn cael ei chefnogi gan Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhum awdurdod Gwent (Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy).

Derbyniodd y prosiect dros £500,000 o arian y Loteri Genedlaethol, sy'n caniatáu i weithwyr annibynnol o Llamau gynllunio pecynnau gofal ac amddiffyniad unigol, ar sail dealltwriaeth o'r rhesymau pam mae pobl yn cael eu hadrodd ar goll.

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr, Cronfa Loteri Fawr: “Mae Plant Coll Gwent yn brosiect uchelgeisiol, sy'n cefnogi rhai o'n pobl ifanc mwyaf bregus.

“Rydym yn falch bod y Gronfa Loteri Fawr wedi gallu buddsoddi arian y Loteri Genedlaethol mewn ffyrdd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Diolch i'r Loteri Genedlaethol, gall chwaraewyr y loteri deimlo'n falch o'r buddsoddiad y maen nhw'n ei wneud yn nyfodol ein pobl ifanc."

Mae Plant Coll Gwent yn un yn unig o nifer o brosiectau lleol sy'n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i wella dyfodol a gwneud gwahaniaeth mawr yn eu cymunedau.
Mae dros £71m o arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu dros 5,000 o brosiectau i weithio gyda phobl ifanc yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn unig .

Nodiadau i olygyddion

• Mae gan ddosbarthwyr y Loteri raglenni ariannu sy'n canolbwyntio ar wella bywydau ar gyfer pobl ifanc, megis rhaglenni Gwella Dyfodol ac Adeiladu Cymunedau y Gronfa Loteri Fawr, a Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
• Mae gan ddosbarthwyr y loteri strategaethau tlodi plant, megis Agenda Tlodi Plant a'r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru a Strategaeth Tlodi Plant Chwaraeon Cymru.
• Mae'r Loteri Genedlaethol yn codi £33 miliwn bob wythnos dros ystod eang o brosiectau chwaraeon, treftadaeth, elusennol a chymunedol ar draws y DU
• Mae mwy na 420,000 o ddyfarniadau unigol wedi'u gwneud ar draws y DU
• Ar gyfartaledd ceir 135 o grantiau'r loteri ar gyfer pob rhanbarth cod post
• Am wybodaeth bellach am brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gweler http://www.achosiondayloteri.org.uk/

Ystadegau Plant Coll Gwent
• Derbyniodd Plant Coll Amlasiantaeth Gwent £543,202 o arian y Loteri Genedlaethol trwy'r Gronfa Loteri Fawr yn 2013
• Mae'n ariannu gwasanaeth ôl-drafodaeth, a redir gan Llamau. Mae dau weithiwr ôl-drafodaeth llawn amser a gweithiwr cyfryngu rhan amser yn cynllunio pecynnau gofal ac amddiffyniad ar gyfer y bobl ifanc, gan ddeall y rhesymau pam eu bod yn cael eu hadrodd ar goll
• O'r 234 o asesiadau risg a gwblhawyd yn ystod y chwe mis cyntaf, roedd 163 o blant (70%) wedi'u hadrodd ar goll o'u cyfeiriad cartref (gan gynnwys byw gyda theulu biolegol, teidiau a neiniau, ffrindiau'r teulu, safleoedd teithwyr, ac un person yn 'syrffio soffa' gyda theulu a ffrindiau)
• Roedd 18 o bobl ifanc (8 y cant) wedi'u hadrodd ar goll o Ofal Preswyl
• Roedd 33 o bobl ifanc (14 y cant) wedi'u hadrodd ar goll o Ofal Maeth
• Roedd 15 o bobl ifanc wedi'u hadrodd ar goll o ddarpariaeth ddigartref 16+ megis hosteli a thai diogel. Adroddwyd am un o wely a brecwast, ac un arall o lety â chymorth.
• Benyw A, fe aseswyd ei bod yn risg uchel oherwydd pryderon mawr yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol, roedd wedi'i hadrodd ar goll 52 gwaith cyn cwrdd â'r gweithiwr ôl-drafodaeth annibynnol. Dim ond naw gwaith y mae wedi'i hadrodd ar goll ers dechrau gyda'r prosiect, gostyngiad sylweddol. Mae bellach yn trafod ei hamser cyrffyw ac yn parhau i gysylltu'n dda gyda'r gweithiwr.
• Gwryw A - adroddwyd ei fod ar goll ac yn cynnau tân tra'r oedd allan. Helpodd y gweithiwr annibynnol ôl-drafodaeth y gwryw ifanc hwn i gysylltu â gwasanaeth ataliol sy'n cael ei gynnig gan Wasanaeth Tân Gwent.