Skip to main content

Wales Celebrates 20 Years of The National Lottery

4th November 2014

Heddiw fe wnaeth enillwyr, prosiectau a Llywodraeth Cymru ddathlu'r ffordd y mae'r Loteri Genedlaethol wedi newid bywydau ers 20 mlynedd yng Nghymru.

Fe ddaethant ynghyd yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru a ariennir gan y Loteri, sydd newydd ei phleidleisio yn hoff Drysor Cenedlaethol Cymru mewn pleidlais ar y cyfryngau cymdeithasol a ddenodd 66,000 o bleidleisiau.

Dywedodd enillwyr a phrosiectau'r Loteri Genedlaethol o Gymru ddiolch o galon i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol heddiw (Dydd Mawrth 4 Tachwedd), a thynnodd y Gweinidog Diwylliant Ken Skates sylw at yr effaith y mae 20 mlynedd o ariannu'r Loteri wedi'i chael ar Gymru.

Dywedodd Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi effeithio ar bob rhan o fywyd yng Nghymru. Mae lleoliadau eiconig megis y Ganolfan hon a Stadiwm y Mileniwm wedi denu miliynau o ymwelwyr ac wedi rhoi hwb gwirioneddol i'n heconomi. Mae ein treftadaeth a thirluniau wedi'u hamddiffyn a'u hadnewyddu, o Barc Arfordirol y Mileniwm, Rheilffordd Eryri, i Ynys Skomer yn Sir Benfro. Ar lefel mwy lleol, mae cymunedau ar draws y genedl hefyd wedi gweld budd i'w cyfleusterau megis parciau, capeli a chlybiau chwaraeon. Mae prosiectau sy'n cadw ein hanes yn fyw, ac yn helpu mwy o fenywod a merched i gadw'n heini, hefyd wedi derbyn cefnogaeth.”

Roedd y Ganolfan yn lleoliad addas ar gyfer y dathliadau gan ei bod hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed y mis hwn. Fe'i hadeiladwyd gyda help dros £42 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, a bellach mae'r Ganolfan wedi gwerthu 3.3m o docynnau - mwy na phoblogaeth gyfan Gymru.

Hefyd yn bresennol yr oedd enillwyr mawr gan gynnwys Les Scadding, a enillodd £45.5 miliwn ar yr EuroMillions yn 2009, aelodau o Syndicâd y Valley Boys a gipiodd £4 miliwn yn ystod yr un flwyddyn ac un o enillwyr diweddaraf Cymru, Nigel Willets, landlord tafarn o Gaerffili, a enillodd £1 miliwn.

Roedd y cyn yrrwr lori Les Scadding wedi bod yn ddi-waith am 12 mis pan gipiodd £45.5 miliwn ar yr EuroMillions yn 2009, ac mae bellach yn Gadeirydd ar AFC Casnewydd. Fe wnaeth Lyn Sexton ac Ian Pearce o Ferthyr gipio £1m ar EuroMillions Millionaire Raffle yn 2012, a Barry ac Yvonne Bradley, ynghyd â'u mab, Chris, a'i wraig, Geraldine, o Sir Gaerfyrddin a ymunodd â chlwb miliwnyddion y Loteri Genedlaethol pan enillodd diweddar dad Barry, Bob, £3.5m yn 2006.

Enillodd Meredith Davies, o Landeilo, jacpot o £2,069,730 10 mlynedd yn ôl ac fe ymunodd â'i gyd-filiwnyddion Cymreig wrth godi gwydraid i'r chwaraewyr sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru.

Fe wnaeth yr enillwyr ddosbarthu cacen i ddathlu a thocynnau Lotto i aelodau'r cyhoedd y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru, yn y gobaith o rannu peth o'i lwc dda!

Wrth feddwl am straeon llwyddiant niferus y Loteri Genedlaethol, dywedodd Les Scadding: “Rwy'n hapus i fod yn gysylltiedig â'r Loteri Genedlaethol a phrosiectau a ariennir gan y Loteri mewn unrhyw ffordd bosibl. Byddai'r wlad hon yn lle llawer yn waeth heb gefnogaeth y Loteri Genedlaethol: mae ein hamgueddfeydd, orielau a thirnodau cenedlaethol o fudd i'r genedl gyfan.

“Mae'r gwaith y mae dosbarthwyr y Loteri yn ei wneud yn ddi-fai i helpu cynifer o gymunedau ac elusennau lleol. Dylai chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod yn falch o'r gwahaniaeth y mae eu harian wedi'i wneud yng Nghymru."

Ochr yn ochr â Chanolfan Mileniwm Cymru fel hoff le'r genedl, enwyd Syr Anthony Hopkins yn hoff wyneb y genedl. Fe gyfrannodd £1 miliwn tuag at apêl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu rhannau o Eryri. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi derbyn dros £5.8 miliwn o grantiau'r Loteri ar draws Cymru.

20 mlynedd o Newid Bywydau

Ers y sioe gyntaf ar 19 Tachwedd 1994, mae'r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi miloedd o brosiectau ac wedi creu miliynau o enillwyr, gan newid bywydau unigolion a chymunedau ar draws Cymru a'r DU.

Mae 192 o filiwnyddion wedi'u creu, ac mae 1,606 o wobrau o £50,000 neu'n fwy wedi'u talu i enillwyr o Gymru.

Mae cymunedau ar draws Cymru hefyd wedi ennill - mae ymron i 40,000 o grantiau wedi'u dyfarnu i unigolion a sefydliadau ar draws sectorau’r celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, iechyd, addysg, yr amgylchedd, elusennol a gwirfoddol, gan wneud swm anferth o £1.4 biliwn yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf.

Ochr yn ochr â'r prosiectau tirnod, mae 70% o grantiau am lai na £10,000.

Mae prosiectau a ariennir gan y Loteri yn helpu pobl i gyflawni eu potensial, beth bynnag yw eu talentau a'u diddordebau - chwaraeon, drama, diwylliant, neu gymryd rhan mewn cymunedau.

Roedd y grant mwyaf erioed gan y Loteri Genedlaethol yng Nghymru am dros £46.3 miliwn i adeiladu Stadiwm y Mileniwm yn y brifddinas ym 1997.

Rhoddwyd y grant lleiaf o £17 i Glwb Bowlio Rhymney Royal yng Nghaerffili tuag at hyfforddiant.

Fe wnaeth £961,000 o arian y Loteri Genedlaethol hefyd helpu i adfer Tramffordd y Gogarth yn Llandudno, sef unig dramffordd stryd a weithredir gan gebl sy'n parhau ym Mhrydain ac un o'r rhai olaf yn y byd.

£4,974,500 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer adfer y Pier o Oes Victoria ym Mae Colwyn ym 2013

Yn 20 oed, mae'r Loteri Genedlaethol yn dal i weddnewid bywydau - bob wythnos mae tua £33 miliwn yn cael ei godi dros brosiectau a chwe miliwn o enillwyr yn cael eu creu.

Ar draws y DU, mae swm anferth o £32 biliwn wedi'i godi a 430,000 o brosiectau wedi derbyn arian ar draws y sectorau celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, iechyd, addysg, yr amgylchedd, elusennol a gwirfoddol. Mae dros £53 biliwn wedi'i dalu mewn gwobrau a mwy na 3,600 o filiwnyddion wedi'u creu hyd yma.
-Diwedd-

Nodiadau i olygyddion

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Effective Communication, Swyddfa'r Wasg Rhanbarthol Camelot, ar: 07890 953402
E-bost: kkennedy@effcom.co.uk

Swyddfa'r Wasg Camelot: 0207 632 5711


Nodiadau i Olygyddion:
• Mae Camelot UK Lotteries Limited yn weithredwr trwyddedig ar The National Lottery® ac mae'n ymrwymedig i godi arian ar gyfer Achosion Da'r Loteri Genedlaethol a ddynodwyd gan y Senedd. Nid yw Camelot yn gyfrifol am ddosbarthu na dyfarnu'r arian hyn.
• Bob wythnos, mae Camelot yn cynhyrchu dros £33 miliwn ar gyfer prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol - mae cyfanswm o £32 biliwn bellach wedi'i godi a mwy na 430,000 o grantiau unigol wedi'u dosbarthu ar draws y DU, y rhaglen fwyaf o adfywiad sifil a chymdeithasol ers yr 19eg ganrif. Mae'r Loteri Genedlaethol hyd yma wedi dosbarthu £53 biliwn o wobrau ac wedi creu mwy na 3,600 miliwnydd neu aml-filiwnyddion ers ei lansio ym 1994.
• Am wybodaeth bellach ar Camelot, Y Loteri Genedlaethol a'i gemau, ewch i: www.camelotgroup.co.uk ac www.national-lottery.co.uk
• Rhaid i chwaraewyr holl gemau'r Loteri Genedlaethol fod yn 16 oed neu'n hŷn.

• Mae Canolfan Mileniwm Cymru newydd gael ei dewis gan y cyhoedd yng Nghymru fel eu hoff brosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf mewn pleidlais Trysorau Cenedlaethol diweddar, a ddenodd 66,000 o bleidleisiau ar y cyfryngau cymdeithasol ac fe'i cynhaliwyd fel rhan o ddathliadau Pen-blwydd yn 20 oed.

Ystadegau allweddol Canolfan Mileniwm Cymru:
• 13.5m o bobl drwy'r drysau
• 200,000 o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol
• 4,000 o berfformiadau am ddim
• 3.3m o docynnau wedi'u gwerthu - mwy na phoblogaeth gyfan Gymru
• Mae'n cyfrannu £50m i'r economi yng Nghymru bob blwyddyn