Skip to main content

Welsh community garden and wellbeing wonder wins National Lottery Award!

9th December 2021

Mae prosiect cadwraeth a threftadaeth o Gwm Cynon sy’n defnyddio garddio a natur fel ffordd o wella lles a sgiliau cyflogadwyedd pobl wedi cael ei enwi’n Brosiect Loteri Genedlaethol Cymru’r Flwyddyn 2021.

Nick Treharne / National Lottery

Mae prosiect Cadwraeth a Threftadaeth The Green Valley yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf wedi dod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda mwy na 1500 o sefydliadau yn cystadlu i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n dathlu’r bobl a phrosiectau ysbrydoledig sydd yn gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol.

Mae’r prosiect wedi dod i’r amlwg fel enillydd Cymru yn dilyn pleidlais gyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Mae prosiect Cadwraeth a Threftadaeth The Green Valley yn helpu pobl o hen bentref glofaol Cymreig, Abercynon i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a lles trwy arddio a’u cysylltu hwy gyda natur.

Nick Treharne / National Lottery

Tair blynedd yn ôl, tir diffaith oedd safle Cynon Valley Organic Adventures, cartref prosiect Cadwraeth a Threftadaeth Green Valley. Heddiw, diolch i gefnogaeth ariannol o £20,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac ymdrechion neilltuol nifer o wirfoddolwyr, mae wedi cael ei drawsnewid yn ardd gymunedol gyda mannau ar gyfer alotiadau sy’n tyfu bwyd ar gyfer eu banc bwyd, caffi, ysgol haf a hyd yn oed campfa werdd. Maen nhw hefyd yn darparu gweithgareddau a rhaglenni awyr agored ar gyfer ieuenctid sydd wedi ymddieithrio ac yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc awtistig ac unrhyw un sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

Mae’r prosiect wedi llunio amrywiaeth eang o gysylltiadau gyda grwpiau cymunedol, rhwydweithiau cefnogi awtistiaeth, canolfannau byd gwaith ac ysgolion, ac yn derbyn presgripsiynau cymdeithasol oddi wrth Feddygfeydd. Mae’r pwyslais ar harneisio buddion natur i wella lles a chyflogadwyedd.

Un o’r bobl a all dystio i natur drawsnewidiol positif y prosiect yw Elan Gwen, 15 mlwydd oed o Bontypridd. Roedd Elan wedi gadael amgylchedd ysgol ffurfiol yn 14 mlwydd oed oherwydd anawsterau gyda gorbryder. Dechreuodd fynychu’r prosiect unwaith yr wythnos ac mae hi gyda nhw tri diwrnod yr wythnos erbyn hyn, ac wedi cyflawni nifer o gymwysterau. Ers ymuno â’r prosiect, mae Elan wedi blodeuo i fod yn unigolyn hyderus iawn ac mae ganddi uchelgeisiau dechreuol i ddod yn entrepreneur llwyddiannus.

Nick Treharne / National Lottery

“Yn yr ysgol, nid oeddwn yn teimlo wedi setlo o gwbl, roedd gennyf orbryder ofnadwy ac nid oedd yr amgylchedd ysgol ffurfiol yn addas i mi,” dywedodd Elan.

“Mae’r amgylchedd dysgu yn Cynon Valley Organic Adventures yn llawer mwy addas i’m hanghenion a’m ffordd o ddysgu, ac rwyf yn teimlo fel fy mod jyst yn gweddu i’r lle i bob diben. Rwyf yn gyfforddus iawn yma a dydw i ddim yn teimlo pwysau na fy mod yn cael fy meirniadu. Mae’n amgylchedd sy’n addas i bawb ac rwyf lawer hapusach fel unigolyn ac mae fy iechyd meddwl yn llawer gwell.

Mae’n ffordd unigryw a gwahanol o ddysgu sydd wedi rhoi llawer o obaith i mi ar gyfer y dyfodol. Rwyf yn gwneud amrywiaeth o wahanol gymwysterau yma ac wrthi’n cyflawni cwrs entrepreneuriaeth lefel un a dau. Rwyf hefyd yn helpu amrywiol brosiectau sydd ar fynd ar y safle, ynghyd â chefnogi o amgylch yr ardd ei hunan.

Rydw i’n bendant yn credu fod hwn yn lleoliad lle y gall pobl dyfu. Rwyf yn adnabod llawer o bobl sydd wedi dod yma gydag amrywiol broblemau a doedd ganddyn nhw ddim llawer o hyder, ond maen nhw wedi dod yma, ac wedi tyfu i fod yn bobl wahanol. Mae’n lle gwych i bobl ifanc a phobl o bob anian mewn bywyd i dyfu.”

Gan fod wrth ei bodd i dderbyn pleidlais y cyhoedd fel Prosiect Cymru’r Flwyddyn, dywedodd Janis Werrett, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Cynon Valley Organic Adventures: “Mae’n rhoi pleser mawr i ni fod ein prosiect wedi ennill y Wobr hon oddi wrth y Loteri Genedlaethol ac wedi derbyn y gydnabyddiaeth wych hon. Mae hyd yn oed mwy boddhaol fod y cyhoedd wedi pleidleisio drosom ni. Mae’r wobr hon yn ddiolch enfawr i ymroddiad pawb sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl.

Mae’n llawer iawn mwy na gardd gymunedol – rwyf yn gweld pobl fel Elan yn tyfu trwy’r amser ac yn gwylio’r newidiadau bychain hynny ynddynt na fyddent o bosibl yn gweld eu hunain.

Pan wnaethom dderbyn y safle yn y lle cyntaf yn 2018, cawsom wybod ei fod yn beryglus gan ei fod mewn cyflwr gwael o esgeulustod. Doedd dim arian gennym ni, ac nid oedd gennym unrhyw syniad o le y byddai’n dod.

Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ariannol y Loteri Genedlaethol a chymorth ein gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi gweithio’n ddiflino i adfer a diogelu’r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer eu cymuned.”

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn mynd tuag at achosion da led led y DU pob wythnos, sydd yn ei dro yn helpu prosiectau megis prosiect Cadwraeth a Threftadaeth Green Valley i barhau i gyflawni gwaith anhygoel yn eu cymunedau. Am ragor o wybodaeth am Wobrau’r Loteri Genedlaethol, edrychwch ar www.lotterygoodcauses.org.uk

Nodiadau i olygyddion

Am wybodaeth bellach, ac i drefnu cyfleoedd cyfweld, ffotograffiaeth a ffilmio, cysylltwch â Gwobrau’r Loteri Genedlaethol: Oswyn Hughes ar 07976 324 179 neu anfonwch e-bost at oswyn.hughes@lotterygoodcauses.or