Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol (NLPU)

Cwestiynau Cyffredin Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol (NLPU)

Beth yw Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol?

Mae Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol (NLPU) yn dîm penodol sy’n codi ymwybyddiaeth am yr effaith gadarnhaol y mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ei chael ledled y DU. Rydym yn tynnu sylw at y ffordd y mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn cefnogi miloedd o achosion da bob blwyddyn. Drwy adrodd straeon, rydym yn cysylltu chwaraewyr â’r prosiectau y maent wedi helpu i’w gwireddu, diolch i’r £33 miliwn y maent yn ei godi tuag at achosion da bob wythnos, ac yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am yr hyn sydd wedi’i wneud yn bosibl dros fwy na 30 mlynedd.

Beth mae’r NLPU yn ei wneud?

Rydym yn gweithio gyda dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol, gweithredwr y Loteri Genedlaethol, Allwyn, partneriaid a sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid i hyrwyddo pobl a phrosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Rydym yn rhannu straeon am unigolion a chymunedau sy’n elwa ar gyllid, yn dathlu ein chwaraewyr, ac yn cynnal ymgyrchoedd cenedlaethol sy’n dod ag effaith cefnogaeth y Loteri Genedlaethol yn fyw.

Pwy sy’n derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol?

Mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn cefnogi ystod eang o sefydliadau a phrosiectau ledled y DU, gan gynnwys chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth, prosiectau cymunedol, ffilm, addysg a’r amgylchedd. Os yw eich sefydliad yn derbyn cyllid, mae’n bosibl y caiff eich stori ei chynnwys yn ein gwaith hyrwyddo er mwyn helpu i ddangos effaith y gefnogaeth hon. Os hoffech wneud cais am gyllid gan y Loteri Genedlaethol, ewch i’n tudalen Gyllido.

A yw’r NLPU yn dosbarthu cyllid?

Nac ydy. Nid ydym yn dyfarnu nac yn dosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Gwneir penderfyniadau ariannu’n annibynnol gan 12 dosbarthwr y Loteri Genedlaethol:

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Arts Council England
Arts Council Northern Ireland
Cyngor Celfyddydau Cymru
Sefydliad Ffilm Prydain (BFI)
Creative Scotland
Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
Sport England
Sport Northern Ireland
sportscotland
Chwaraeon Cymru
UK Sport

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r dosbarthwyr hyn i adrodd straeon prosiectau sydd wedi derbyn cyllid. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion am y cyllid sydd ar gael ar ein tudalen Gyllido.

Sut all fy sefydliad weithio gyda’r NLPU?

Os yw eich sefydliad wedi derbyn cyllid oddi wrth y Loteri Genedlaethol, efallai y bydd cyfleoedd i ymddangos mewn ymgyrchoedd, cynnwys digidol, gweithgarwch yn y cyfryngau neu straeon hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn. Gallwch gysylltu ag Achosion Da’r Loteri Genedlaethol yma, neu efallai y bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi ynghylch cyfleoedd posibl.

Sut rydych chi’n dewis pa brosiectau i’w cynnwys?

Rydym yn chwilio am straeon sy’n dangos effaith glir ac ystyrlon ac sy’n dod â’r gwahaniaeth y mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ei wneud yn fyw. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau cadarn, straeon y gall pobl uniaethu â nhw, deunydd gweledol da, a phrosiectau sy’n cyd-fynd ag ymgyrchoedd ehangach y Loteri Genedlaethol neu achlysuron cenedlaethol.

Sut all fy sefydliad gydnabod cefnogaeth y Loteri Genedlaethol?

Dylai pob sefydliad sydd wedi derbyn cyllid ddefnyddio logos swyddogol y Loteri Genedlaethol a dilyn y canllawiau cydnabyddiaeth. Mae ein hasedau brand a’n pecynnau cymorth ar gael i’ch helpu i gydnabod cyllid y Loteri Genedlaethol ac i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Pam mae cydnabod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn bwysig?

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £33 miliwn bob wythnos tuag at achosion da, ac mae cydnabod y gefnogaeth honno yn ffordd o ddiolch iddynt am eu cyfraniad ac i helpu pobl ddeall yr effaith wirioneddol y mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn ei chael ar gymunedau ledled y DU. Mae hefyd yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a thryloywder ynghylch sut y caiff y cyllid hwn tuag at achosion da ei wario.

Ble allaf ddysgu rhagor am achosion da’r Loteri Genedlaethol?

Gallwch ddod o hyd i straeon, diweddariadau am brosiectau ac enghreifftiau o waith a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ar ein gwefan ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Sut allaf gysylltu â’r NLPU?

Os ydych yn sefydliad sydd wedi derbyn cyllid neu’n bartner sydd am weithio gyda ni, gallwch gysylltu ag Achosion Da’r Loteri Genedlaethol yma.