Skip to main content

Canllaw Arbenigwyr i Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol – Dyddiau allan i’w cynnwys ar Instagram

O gestyll mawreddog i erddi o safon fyd-eang, mae digon o olygfeydd godidog ar draws y DU sy’n haeddu cael eu cynnwys ar eich ffrwd Instagram. Boed os ydych wrth eich bodd gyda hunlun da neu y byddai’n well gennych aros y tu ôl i’r lens, dyma ychydig o leoliadau ac atyniadau anhygoel sy’n cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol a ddylai fod ar eich rhestr fer yn bendant … Peidiwch ag anghofio defnyddio eich tocyn neu gerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol (digidol neu ffisegol) i ddefnyddio’r cynigion arbennig yn ystod yr Wythnos Agored hon.

1. Lleoliad: Cilgant Buxton (Buxton Crescent)

Lleoliad:
Buxton, Swydd Derby

Cynnig:
Taith Am Ddim o’r Ystafelloedd Ymgynnull gyda Phrofiad Treftadaeth y Cilgant 21 – 23 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Daeth Cilgant Buxton yn gyrchfan ffynhonnau yn oes y Rhufeiniaid, pan adeiladwyd anheddiad o amgylch ffynnon dŵr cynnes a chlir sydd yn parhau i anfon mwy nag un filiwn o litrau’r diwrnod o’r darddell wreiddiol o dan Gilgant Buxton.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Mae golygfeydd gwych gan yr holl ystafelloedd, ond am lun gwych, mae gan yr Ystafell Gardiau yng Nghornel Ddwyreiniol y Cilgant olygfeydd ysblennydd o flaen yr adeilad, ynghyd â’r Ystafell Bwmpio a’r llethrau (ac yn derbyn y golau gorau trwy gydol y dydd!)

2. Lleoliad: Yr Ardd Siapaneaidd yn Cowden (The Japanese Garden at Cowden)

Lleoliad: Clackmannanshire, Yr Alban

Cynnig:
Cystadleuaeth wrth gael mynediad i’r lleoliad am y cyfle i ennill taith breifat o’r ardd gyda thywysydd ar gyfer 5 o bobl – 19, - 20 & 23 – 27 Mawrth
Ffaith gan yr arbenigwyr: Heblaw am y ffaith fod yr ardd yn brydferth a heddychlon, dyma’r unig un o’i math yn y byd i gael ei dylunio gan wraig Siapaneaidd – Taki Handra. Disgrifiwyd yr ardd yn 1925 gan yr ymarferydd Siapaneaidd, yr Athro Jijo Suzuki fel ‘yr ardd Siapaneaidd fwyaf pwysig yn y Byd Gorllewinol’, ac mae’r ardd yn cynnwys nifer o erwau o dirwedd â dylanwad Siapaneaidd, gyda llwybr terfyn o amgylch y llyn bychan.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
O ben Glan Gogleddol yr Ardd Siapaneaidd draddodiadol, fe fyddwch yn cael golwg awyrol wych o’r pwll a’r ardd gyfagos. Ar ddyddiau clir, mae’r golygfeydd o’r ardal hon yn berffaith ar gyfer gweld y pontydd, planhigion a’r awyr yn cael eu hadlewyrchu yn y pwll, er mwyn tynnu ffotograff gwych.

3. Lleoliad: Crom

Cynnig:
Mynediad am ddim 19 – 27 Mawrth

Lleoliad: Newtownbutler, County Fermanagh

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Gellir canfod Coed Yw adnabyddus Crom yn agos at adfeilion yr Hen Gastell. Mae’r coed, mewn gwirionedd, yn goed Yw gwrywaidd a benywaidd sydd wedi’u cyfuno gyda’i gilydd, ac mae ganddynt gylchedd ar y cyd o 377 troedfedd a diamedr o 115 troedfedd. Allan o’r ddwy goeden, yr Ywen fenywaidd yw’r fwyaf a’r hynaf, gyda’r cyfeiriad cynharaf hysbys ati yn 1739, ond nid yw ei hunion oedran yn wybyddus. Plannwyd y goeden Ywen wrywaidd arall yn yr 1800au fwy na thebyg, sy’n golygu ei bod yn llawer iau.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Mentrwch oddi ar y ffordd ac i mewn i’r dŵr – llogwch gwch oddi ar y lanfa i weld y dirwedd anhygoel hon o ongl arall.

4. Lleoliad: Gerddi Dyffryn

Cynnig:
Mynediad am ddim 19 – 27 Mawrth


Lleoliad:
Bro Morgannwg, Cymru


Ffaith gan yr arbenigwyr:
Roedd Reginald Cory, yr oedd ei dad wedi adeiladu’r tŷ yn 1893, wedi comisiynu a mynychu cyrchoedd hela planhigion ar draws yr holl fyd i chwilio am rywogaethau newydd ac egsotig i ddod â hwy yn ôl. Glo oedd busnes y teulu a gludwyd ar longau i dros 180 o borthladdoedd o amgylch y byd oedd yn golygu fod gan Reginald fflyd o longau i’w defnyddio. O ganlyniad, mae casgliad planhigion y Dyffryn yn unigryw ac yn eithriadol o bwysig yn arddwriaethol.


Awgrym gan yr arbenigwyr:
Ewch heibio i’r tŷ gwydr i dynnu ffotograffau o’r casgliadau cacti a thegeirian nodedig.

All Good Causes