Skip to main content

Canllaw Arbenigwyr i Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol – Dirgelion Hanes

O gestyll a phalasau, priordai a thai hanesyddol, mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol eleni yn cynnig llu o leoliadau ac atyniadau sy’n berffaith ar gyfer archwilio’r gorffennol. Archwiliwch rhai o ddirgelion hanes i ganfod storïau o flynyddoedd yn ôl a pham mae rhai o adeiladau gwychaf y DU yn edrych fel y gwnant. Peidiwch ag anghofio defnyddio eich tocyn neu gerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol (digidol neu ffisegol) ar gyfer eich cynigion arbennig yr Wythnos Agored hon.

1. Lleoliad: Castell Caerdydd

Lleoliad:
Caerdydd, Cymru

Cynnig yr Wythnos Agored: Tocynnau hanner pris – 21 hyd at 25 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr: Adeiladwyd y tŵr cloc eiconig ar ddiwedd yr 1800au ar gyfer 3ydd Marcwis Biwt ac mae’n cynnwys rhai o’r ystafelloedd mwyaf urddasol sydd wedi’u haddurno wychaf yn yr holl Gastell. Er mai’r bwriad oedd bod yn ystafelloedd i hen lanc Fictoraidd er mwyn i’r Marcwis ifanc eu mwynhau, roedd wedi priodi cyn y cafodd y gyfres o ystafelloedd eu gorffen.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Sicrhewch eich bod yn archebu lle ar un o’r Teithiau Tŷ rheolaidd gyda Thywysydd i weld yr Ardd Do Romanésg awyr agored, oedd yn lle preifat ar gyfer 3ydd Marcwis Biwt i dreulio amser yn ymlacio a myfyrio.

2. Lleoliad: Tŵr Llundain

Lleoliad: Llundain

Cynnig yr Wythnos Agored:
Gostyngiad o 10% ar adwerthu ac arlwyo – 19 tan 27 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Yn 1483, diflannodd y ddau dywysog, Edward a Richard – meibion Edward IV ac Elizabeth Woodville – yn Nhŵr Llundain ac mae’r hyn a ddigwyddodd iddynt yn parhau’n ddirgelwch hyd heddiw. Bron 200 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1674, cafodd gweithwyr oedd yn dymchwel yr hyn oedd yn weddill o’r palas brenhinol, eu rhyfeddu i ganfod cist bren yn cynnwys dau sgerbwd dan y sylfaeni. Tybiwyd mai esgyrn y plant oedd y sgerbydau.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Cadwch lygad am 13 o gerfluniau gwifrau sydd wedi’u galfanu gan yr arlunydd, Kendra Haste sy’n gydnabyddiaeth o’r ffaith fod y Tŵr yn gartref i filodfa o anifeiliaid egsotig. Cafodd y cerfluniau eu harddangos ger y palasau lle cedwid yr anifeiliaid gwreiddiol yn Y Tŵr.

3. Lleoliad: Priordy Sant Nicolas

Lleoliad:
Caerwysg, Dyfnaint,

Cynnig yr Wythnos Agored:
Mynediad am ddim a llyfr tywys – 19 a 20 Mawrth 2022

Ffaith gan yr arbenigwyr: Yn 1536, yn dilyn diddymu’r mynachlogydd, ceisiodd Gŵyr y Brenin i symud y groes yn eglwys Priordy Sant Nicolas ond cawsant eu rhwystro gan grŵp o wragedd lleol. Arestiwyd y gwragedd a’u hanfon i’r carchar ond unwaith y cafodd y gwaith o symud y groes ei gwblhau, gofynnodd Gŵyr y Brenin iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Lawr lwythwch ap cerdded newydd Hidden Exeter i ganfod mwy am y bennod hon yn hanes y Priordy.

4. Lleoliad: Palas Falkland (Ymddiriedolaeth Genedlaethol Yr Alban)

Lleoliad:
Falkland, Fife

Cynnig yr Wythnos Agored: Mynediad am ddim – 19 tan 27 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr: Cafodd y nenfwd yn y Capel ei baentio’n arbennig ar gyfer ymweliad oddi wrth Siarl I yn 1633. Mae’n cynnwys fleur-de-lis sy’n symboleiddio Ffrainc, ynghyd ag esgyll ar gyfer Yr Alban a rhosynnau ar gyfer Lloegr. Ganrif yn gynharach, roedd y Palas yn ffefryn i Mary, Brenhines yr Albanwyr, a fyddai’n ymweld i gymryd rhan mewn hebogyddiaeth, hela ac ychydig o dennis.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â chwrt tennis y Palas – fe’i hadeiladwyd yn 1539 a dyma yw’r cwrs tennis go iawn hynaf sydd wedi goroesi yn y byd.

5. Lleoliad: Palas Cwrt Hampton (Hampton Court Palace)

Lleoliad:
Llundain

Cynnig yr Wythnos Agored:
Mynediad Am Ddim i’r Ardd – 19 – 20 Mawrth a gostyngiad o 10% ar adwerthu ac arlwyo – 19 – 27 Mawrth

Ffaith gan yr arbenigwyr:
Hyd heddiw, mae storïau yn parhau fod ysbrydion Jane Seymor a Catherine Howard, ill dwy yn wragedd i Harri VIII, yn cyniwair ym Mhalas Cwrt Hampton. Yn ychwanegol at hynny, dywedir fod nifer wedi gweld y ‘Grey Lady’, a adwaenwyd fel Sybil Penn, a oedd yn forwyn i bedwar Brenin/Brenhines Tuduraidd ac yn wlyb-nyrs i Edward IV ond yn anffodus, bu farw yn 1562 wedi dal y frech wen. Roedd y Fictoriaid yn hoff iawn o straeon ysbrydion ac yn wir, yn yr 1900au cynnar, roedd cardiau post poblogaidd iawn ym Mhalas Cwrt Hampton yn darlunio’r drychiolaethau hyn.

Awgrym gan yr arbenigwyr:
Mae Gerddi Cwrt Hampton yn cynnwys 60 erw o erddi ffurfiol godidog a 750 erw o dir parc, wedi’u gosod o fewn dolen o’r Afon Dafwys. Gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau amser ar gyfer drysfa hynaf y byd, y winwydden grawnwin sydd wedi ennill recordiau, tri o Gasgliadau Planhigion Cenedlaethol ac amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys disgynyddion gyr o geirw Harri VIII.

Explore the full list National Lottery Open Week offers at www.NationalLotteryOpenWeek.com.

All Good Causes