Skip to main content

Celebrate The National Lottery’s birthday - share your crossed fingers selfie!

Ymunwch â ni i ddweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol! #OherwyddChi, rydym wedi gallu ariannu prosiectau anhygoel ar draws y DU

Five individuals standing outside holding up their fingers to the camera.

Ar ddydd Mercher, 19 Tachwedd 2025, bydd miloedd o bobl yn postio
hunluniau bysedd wedi’u croesi i ddweud diolch yn fawri chwaraewyr y
Loteri Genedlaethol am eu cyfraniad enfawrtuag at achosion da ar draws y
wlad. Fe’ch gwahoddir chi i gymryd rhan.

Eleni,rydym wedi diweddaru ein hashnod o #DiolchIChi i #OherwyddChi –
gan ddathlu sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud eich gwaith
anhygoel yn bosibl, y cyfan oherwydd pob unigolyn sy’n chwarae’r Loteri
Genedlaethol.

Mae’r Loteri Genedlaethol yn bodoli i newid bywydau bob dydd. Ers 1994,
mae wedi bod yn cynnig gobaith – boed os yw hynny’n chwarae’r
EuroMIllions, ymgeisio am arian y Loteri Genedlaethol, neu wylio eich
prosiect ysbrydoledig yn dod yn fyw.

#OherwyddChi – oherwydd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol – caiff £30
miliwn ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da yn y DU. Fel prosiect a
ariennir gan y Loteri Genedlaethol,rydych yn rhan o rwydwaith anhygoel o
dros 250,000 o sefydliadau sy’n newid bywydau bob dydd, a’r cyfan wedi’i
wneud yn bosibl gan bobl yn credu y gallai fod yn nhw.

Gadewch i ni wneud i’r Diwrnod Hunluniau Bysedd wedi’uCroesifod yn
fwy ac yn well nac erioed!

Sut allaf gymryd rhan?

Mae ymuno yn hawdd. Gofynnwn i chi hel eich cefnogwyr at ei gilydd – gan gynnwys eich gwirfoddolwyr, staff, defnyddwyr gwasanaeth – gyda chais syml iawn:

Rhannwch eich hunlun bysedd wedi’u croesi ar ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025. Gall hyn fod ar unrhyw lwyfan cyfryngau cymdeithasol o’ch dewis.

Cofiwch gynnwys neges am sut maechwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedihelpu eich sefydliad, a dweud diolch wrthchwaraewyr y Loteri Genedlaethol ganddefnyddio’r hashnod #OherwyddChi.

PWY ALL GYMRYD RHAN?

Ar y diwrnod, buasem wrth ein boddau pe gallech bostio hunluniau bysedd wedi’u croesi i gyfrifon cymdeithasol eich sefydliad ac annog eich cefnogwyri wneud yr un peth.

Er enghraifft, fe allech estyn allan at:

- Staff a gwirfoddolwyr
- Defnyddwyr gwasanaeth a buddiolwyr
- Uwch randdeiliaid – e.e. gwleidyddion lleol
- Codwyr arian

Mae croeso i chi fod yn greadigol gyda’ch hunluniau bysedd wedi’u croesi – trwy ychwanegu brandiau neu bropiau hwyliog, mynd â’ch lluniau bysedd wedi’u croesitu allan, yn eich lleoliadau neu brosiectau, neu ar grwydr yn eich cymuned... Mae’r posibiliadau yn ddi-ben-draw!

PAM?

Bydd prosiectau a sefydliadau o bob cwr o’r DU yn postio hunluniau ar ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025 – o elusennau cenedlaethol i grwpiau llawr gwlad– a buasem wrth ein boddau pe gallech fod yn rhan o’r diwrnod o ddathlu hynod hwn.

Mae cymryd rhan yn gyfle gwych i amlygu’rffordd y mae eich elusen neu grŵp wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn eich cymuned leol.

Trwy bostio hunluniau bysedd ar y diwrnod, byddwch yn dangos eich bod yn rhan o rwydwaith anhygoel o elusennau a grwpiau cymunedol sy’n newid bywydau bob dydd, ac yn amlygu’r effaith y mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi ei chael drwy ariannu eich gwaith.

Bydd defnyddio’r hashnod #OherwyddChi hefyd yn codi proffil eich brand a chyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod ac yn rhoi cyfle i bobl glywed am eich prosiect.

DIOLCH

yda’n gilydd, gallwn sicrhau fod y cyhoedd yn gwybod sut mae chwarae’r
Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth i achosion da ar draws y DU.

Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth, ac am y cyfan rydych
wedi’i wneud i helpu eich cymuned.

Gadewch i ni weiddi amdano gyda'n gilydd!

English toolkit a Welsh toolkit.