Skip to main content

Ffurflen Ganiatâd ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2023

Ffurflen Ganiatâd ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2023

Diolch am eich enwebiad ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. Dathliad blynyddol yw Gwobrau’r Loteri Genedlaethol o hoff bobl a phrosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac fe’i cydlynir gan Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol (NLPU). Bydd enwebiadau unigol yn cael eu hadolygu gan ein panel beirniadu sy’n dewis yr enillwyr wedi hynny a fydd yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu prosiect. Bydd enwebiadau ar gyfer prosiectau yn cael eu cynnwys o fewn rhestr fer i gystadlu mewn pleidlais gyhoeddus am deitl Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn gyda gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer y prosiect buddugol.

Yr hyn yr ydym yn ei gasglu:

Fel rhan o ymgyrch Gwobrau’r Loteri Genedlaethol, rydym yn casglu eich enwebiadau a fydd yn cynnwys:

Enw’r sawl a enwebir gennych chi ar gyfer Gwobr y Loteri Genedlaethol

Disgrifiad o’r hyn y mae’r unigolyn/prosiect yn ei wneud o fewn eu prosiect

Cyswllt a enwir, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar gyfer yr enwebai

Cyfrifoldeb yr enwebwr yw cael caniatâd oddi wrth yr enwebai i’w henwebu nhw, ac os yw’r enwebai yn iau na 18 mlwydd oed, rhaid cael caniatâd oddi wrth eu rhiant neu warcheidwad.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gyflwynir gennych chi:

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwch i gyflwyno gwybodaeth tuag at y broses tynnu rhestr fer ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a ddarparwch gyda’n cydlynwyr ymgeiswyr a fydd yn defnyddio’r wybodaeth hon fel sail i dynnu rhestr fer o ymgeiswyr. Yn ychwanegol at hyn, efallai y byddwn yn defnyddio’r cyfeiriadau e-bost a ddarperir i annog ymgeiswyr yn ystod blynyddoedd sydd i ddod.

Sail gyfreithiol dros brosesu:

Rydym yn casglu a phrosesu’r wybodaeth bersonol a ddarparwch i ni dan

Erthygl 6 (1)(a) – mae testun y data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei (d)data personol am un neu ragor o ddibenion penodol;

Pa mor hir fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol:

Y dyddiad cau i gyflwyno ymgeision ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2023 yw 12:00pm ar 16 Mai ac rydym yn rhagweld rhannu manylion eich sefydliad hyd at y dyddiad hwn.

Bydd y data a ddarparwch i ni yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni ac yn cael ei gadw tan fis Mai 2024 i gyflwyno gwybodaeth ar gyfer ymgeision at ymgyrchoedd y dyfodol.

Beth yw fy hawliau?

  • Mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl er mwyn i’r Gronfa ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg.
  • Mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth.
  • Mae gennych yr hawl i ofyn am gywirio neu ddileu eich gwybodaeth.
  • Mae gennych yr hawl i ofyn am sicrhau fod eich gwybodaeth ar gael i chi mewn fformat sy’n caniatáu iddo gael ei ailddefnyddio gan sefydliadau eraill.

Gallwch wneud hynny trwy gysylltu ag Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol ar 077 6529 8899.

Gyda phwy y gallaf gysylltu â hwy am ragor o wybodaeth?

Am ragor o wybodaeth ar y rhaglen a sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, cysylltwch ag: Erin O’Neill, Rheolwr Ymgyrchoedd Digidol, erin.o’neill@lotterygoodcauses.org.uk

Beth os nad wyf yn hapus am sut mae fy nata’n cael ei ddefnyddio?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu gwynion, ac i ymarfer eich hawliau data personol, cysylltwch yn y lle cyntaf gyda’r Swyddog Diogelu Data trwy anfon neges e-bost at data.protection@tnlcommunityfund.org.uk neu’n ysgrifenedig at y Swyddog Diogelu Data yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Apex House, 3 Embassy Drive, Birmingham, B15 1TR.

Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu dros e-bost https://ico.org.uk/global/contact-us/email neu yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF.