Skip to main content

Millennium Falcon Exhibition

Rhannu

Rhannu

Sefydlwyd Arddangosfa’r Millennium Falcon yng Nghymru wledig i adrodd ‘cyfrinach oedd yn hen hysbys’ mewn pentref yn Sir Benfro – adeiladu llong ofod Star Wars o faint go iawn yn yr 1970au. Mae’n adrodd hanes sut y daeth y prop ffilm 23 tunnell eiconig i fywyd ac yn cynnwys ffilmiau, ffotograffau a thystiolaeth sydd heb eu gweld o’r blaen.

Arddangosfa’r Millennium Falcon

Sefydlwyd Arddangosfa’r Millenium Falcon yng Nghymru wledig i adrodd ‘cyfrinach oedd yn hen hysbys’ mewn pentref yn Sir Benfro – adeiladu llong ofod Star Wars o faint go iawn yn yr 1970au.

Lansiwyd y llong gyntaf gan seiri llongau Doc Penfro o’r drefn fechan hon yng ngorllewin Cymru yn 1816 gan barhau i adeiladu llongau’r llynges am fwy na 100 mlynedd. Cafodd y safle ei ddefnyddio yn y pen draw gan y Llu Awyr Brenhinol i adeiladu cychod hedfan.

Ond cyn i’r hanes hir o adeiladu llongau o bwys ddod i ben, comisiynwyd seiri llongau Doc Penfro i adeiladu llong arbennig iawn – fersiwn maint llawn o’r Millennium Falcon, llong ofod eiconig Star Wars yn 1979.

Wedi eu dewis oherwydd bod ganddynt arbenigedd a’r lle ar gyfer gorchwyl mor uchelgeisiol, roedd y gweithiwyr wedi tyngu llw i gyfrinachedd, gyda’r prosiect yn cael enw cod arbennig: ‘Magic Roundabout’.

Yn arddangosfa barhaol erbyn hyn yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro, mae’n adrodd hanes sut y cafodd y prop ffilm 23 tunnell eiconig ei adeiladu o ddur a phren haenog morol yn yr awyrendy dros dri mis. Mae’r arddangosfa yn cynnwys ffilmiau, ffotograffau a thystiolaeth oddi wrth y seiri llongau sydd heb eu gweld o’r blaen, ynghyd â model manwl yn dangos amrywiol gamau’r adeiladu.

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Millennium Falcon Exhibition? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect