Skip to main content

St Fagans National Museum of History

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, yw atyniad treftadaeth helaethaf a mwyaf poblogaidd Cymru ac un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop. Mae’r Amgueddfa yn arddangos sut yr oedd pobl Cymru yn byw - o fyd plentyn Neanderthalaidd 230,000 mlwydd oed hyd at heddiw.

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth helaethaf a mwyaf poblogaidd Cymru ac un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop. Wedi’i leoli ychydig tu allan i Gaerdydd, mae’r Amgueddfa, a agorwyd yn 1948, yn sefyll ar diroedd mawreddog Castell Sain Ffagan, tŷ bonheddig o ddiwedd yr unfed ganrif ar hugain a roddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth. Yn ystod y 70 mlynedd diwethaf, mae dros 50 o adeiladau gwreiddiol o wahanol leoliadau yng Nghymru ac o wahanol gyfnodau hanesyddol wedi cael eu hailadeiladu o fewn y parc 100 erw. Mae’r rhain yn cynnwys capel, ysgoldy, gefail pedoli, crochendy, tanerdy a chwt mochyn.

Mae’r arddangosfeydd a digwyddiadau yn arddangos bywyd Cymru o gyfnod y Celtiaid hyd at heddiw, gan ganiatáu i bobl weld sut mae pobl yng Nghymru wedi byw, gweithio a threulio eu hamser hamdden dros y blynyddoedd. Mae pob adeilad wedi rhewi mewn amser ac yn agor drws ar hanes Cymru, gan gynnig golwg rhyfeddol ar y gorffennol. Trwy gydol y flwyddyn, mae Sain Ffagan yn dod i fywyd fel y bydd gwyliau a digwyddiadau cerddoriaeth a dawns yn cael eu dathlu.

Ei grant o £11.5 miliwn oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw’r grant mwyaf erioed a wobrwywyd yng Nghymru. Roedd yn rhan o brosiect Gwneud Hanes gwerth £30 miliwn i ailddatblygu’r amgueddfa, gyda thair oriel newydd, gweithdy creadigol - Gweithdy, ail-greu dau adeilad newydd yn seiliedig ar dystiolaeth archeolegol a chyfleusterau gwell i ymwelwyr ar gyfer ysgolion a’r cyhoedd.

Yn 2011, enwyd yr amgueddfa yng nghylchgrawn Which? fel hoff atyniad y Deyrnas Unedig i ymwelwyr, ac mae wedi bod ar restr fer fel Amgueddfa’r Gronfa Gelfyddydol ar gyfer y Flwyddyn 2019. Agorwyd orielau newydd a Llys Llywelyn ym mis Hydref 2018. Mae mwy na 600,000 o bobl yn ymweld pob blwyddyn ac mae mynediad i’r Amgueddfa yn rhad ac am ddim.

"“Mae Sain Ffagan wedi bod yn atyniad treftadaeth fwyaf poblogaidd Cymru ers cryn amser ac mae lle arbennig iddi yng nghalonnau pobl Cymru. Y rheswm dros hyn yw mai dyma yw amgueddfa’r bobl, sy’n archwilio hanes trwy fywydau pob dydd. Rydym yn credu ein bod wedi diogelu popeth mae pobl yn ei garu am Sain Ffagan, ond wedi cyflwyno dimensiynau newydd.”- Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru

St Fagans has been Wales' most popular heritage attraction for quite some time and has a special place in the hearts of the people of Wales.

Director General, Museum Wales (Amgeuddfa Cyrmu)

Lleoliad

St Fagans National Museum of History
Cardiff
CF5 6XB

Map

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan St Fagans National Museum of History? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect