Skip to main content

Stephen Jones

Stephen yw’r Prif Hyfforddwr a’r cadeirydd yng Nghlwb Rygbi Cynghrair Cadair Olwyn a Chlybiau Chwaraeon Anabledd Croesgadwyr Gogledd Cymru.

Wedi dechrau fel chwaraewr ei hunan, mae'n gyn-hyfforddwr tîm cenedlaethol Cymru. Deilliodd sefydlu’r clwb ym mis Ebrill 2013 o’r awydd i wneud y gynghrair rygbi’n hygyrch i bawb yng Ngogledd Cymru a’r ardaloedd cyfagos. Gan dyfu o nerth i nerth, mae'r clwb wedi cynhyrchu 16 o chwaraewyr rhyngwladol o dan ofal Stephen ac wedi parhau i dyfu yn ystod y pandemig, yn ogystal â darparu cyfleoedd cymdeithasol hanfodol.

Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y clwb hwn, gan helpu i gynnig cadeiriau olwyn chwaraeon i’r timau. Dyma’r unig glwb rygbi cynghrair cadair olwyn yn y byd sydd â thri thîm yn chwarae yn y system gynghreiriau amrywiol, ac o’r holl glybiau sefydledig yn y DU, mae wedi gweld un o’r twf mwyaf o ran aelodau.

Un o’r rhesymau pam mae Stephen mor angerddol bod angen chwaraeon ar gyfer pobl anabl yw oherwydd ei fod yn gweld straeon fel un o’i chwaraewyr, Ted, a ddaeth i mewn i’r clwb yn 13 mlwydd oed. Daeth ei fam ag ef i’r clwb gan ei fod â pharlys yr ymennydd ac yn ofni'r anochel o orfod bod mewn cadair olwyn. Bellach mae wedi mynd ymlaen i ddod yn chwaraewr rhyngwladol i Gymru.

Stephen Jones

Dywedodd Stephen: “Syrthiais mewn cariad â’r gamp yn llwyr oherwydd ei bod mor amrywiol. Gall unrhyw un chwarae. Mae'n gwbl gynhwysol ar hyn o bryd. Mae gennym blentyn 11 mlwydd oed a rhywun 70 mlwydd oed. Mae gennym chwaraewr traws, mae gennym bobl sydd wedi colli coesau neu freichiau, ac mae gennym bobl fel fy mab, sydd ag epilepsi. Rwy'n angerddol iawn bod angen chwaraeon i bobl anabl a gyda chymorth arian y Loteri, rydym wedi gallu symud ymlaen yn arwyddocaol yn y maes hwnnw."

Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian

Wedi’i ysbrydoli gan Stephen Jones? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd

Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community

Pob prosiect