Skip to main content

Finding yourself after a loss

28th October 2020

by National Lottery Good Causes

Helo, Jay Blades ydw i. Dyma un o’r 12 mainc a ddyluniais i ddathlu’r rheini sy’n wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i gymunedau yn ystod y pandemig Covid-19.Rhian Mannings yw sylfaenydd 2 Wish Upon A Star – elusen a sefydlodd wedi i’w theulu brofi ergydion trasiedi ddwbl yn 2012.

Rhian Mannings and the bench dedicated to her at Royal Glamorgan Hospital, Wales

Helo, Jay Blades ydw i. Dyma un o’r 12 mainc a ddyluniais i ddathlu’r rheini sy’n wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i gymunedau yn ystod y pandemig Covid-19.

Rhian Mannings yw sylfaenydd 2 Wish Upon A Star – elusen a sefydlodd wedi i’w theulu brofi ergydion trasiedi ddwbl yn 2012.

Wedi colli ei mab blwydd oed, George yn sydyn, ac yn dal i brofi trawma‘r golled, cyflawnodd Paul, ei gŵr, hunanladdiad 5 diwrnod yn ddiweddarach.

Gan sylweddoli y gallai cefnogaeth gywir gyda phrofedigaeth ar yr adeg iawn fod wedi arbed bywyd Paul o bosibl, penderfynodd Rhian i fynd ati i greu’r gefnogaeth honno ei hunan.

Gyda chefnogaeth ei chymuned leol yn ne Cymru, sefydlodd gronfa i helpu’r sawl sydd wedi colli plentyn yn sydyn.

Yn fuan, dechreuodd sylweddoli ei bod wedi canfod bwlch cenedlaethol mewn gofal, wrth i swyddogion heddlu ymestyn allan yn gyntaf i ddweud fod yr hyn yr aeth hi drwyddo yn digwydd trwy’r amser a’u bod eisiau gweithio gyda hi, gyda gweithwyr iechyd proffesiynol a rhieni eraill yn ymuno â hwy wedyn.

Gan ei bod yn meddwl am George a Paul fel seren wib, penderfynodd Rhian mai enw ei helusen fyddai: 2 Wish Upon a Star.

Yn athrawes Addysg Gorfforol yn flaenorol yn Ysgol y Gadeirlan yng Nghaerdydd, gweithiodd Rhian yn ddiflino ar sail wirfoddol am dair blynedd a hanner, gan deithio ar hyd a lled Cymru i ddweud ei stori.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n Brif Swyddog Gweithredol yr elusen a sylfaenodd gydag wyth aelod o staff a swyddfa, ac mae’n cefnogi miloedd o bobl pob blwyddyn.

Mae 2 Wish Upon A Star yn un o nifer o elusennau yn unig a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol gyda chwaraewyr yn cyfrannu tua £30 miliwn yr wythnos tuag at achosion da. Mae’r gefnogaeth hon wedi caniatáu i 2 Wish Upon A Star, i gynyddu ei atgyfeiriadau bedair gwaith yng ngogledd Cymru a chyflogi mwy o staff.

Yn ddiweddar, er gwaethaf gorfod cau eu drysau oherwydd y pandemig, mae Rhian a’i chydweithwyr yn parhau i godi arian a chynnal grwpiau cefnogaeth ar-lein i deuluoedd sy’n colli plentyn hyd at 25 mlwydd oed.

Ac, er gwaethaf yr amodau heriol, maen nhw wedi llwyddo i gefnogi mwy o deuluoedd eleni nag y gwnaethant yn 2019.

Er i’r elusen ddod i fodolaeth trwy drasiedi, mae hefyd yn cynnig gobaith i Rhian. Dwy flynedd yn ôl, priododd Craig, gwirfoddolwr codi arian sydd yn ei geiriau’i hunan “yn haeddu pob gwobr sy’n bosibl ... ef yw fy therapi a’m cefnogaeth.“ Maen nhw’n byw gyda’i gilydd yn Miskin, Cymru gyda Holly, 12 ac Isaac, 11, sef y rheswm mae’n dweud y mae’n codi o’r gwely pob diwrnod.

Dywedodd: “Mae 2 Wish Upon A Star yn eiddo i’r gymuned yma’n union yn Miskin. Mae lludw George wedi’i gladdu rownd y gornel o le’r rydych yn eistedd nawr.

“Mae’r fainc hon wedi’i chyflwyno er cof amdano ef a Paul. Fe’i hadeiladwyd fel y gall pobl eistedd a sgwrsio gydag anwyliaid a dieithriaid fel ei gilydd. I beidio byth â theimlo’n unig.“