Skip to main content

Celebrating 30 years of National Lottery funding in Wales

21st Mawrth 2025

Heddiw, fe ymunodd y Prif Weinidog Eluned Morgan â llu o brosiectau sydd wedi cael eu cefnogi gan y Loteri Genedlaethol i ddathlu tri degawd o gyllid sy'n cael ei ddefnyddio i wella bywydau yng Nghymru.

cronfar loteri 30

Ers digwyddiad cyntaf y Loteri Genedlaethol ym mis Tachwedd 1994, mae mwy na £2.4 biliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn achosion da yng Nghymru, gan fod o fudd i fwy na 74,000 o brosiectau celfyddydol, cymunedol, chwaraeon a threftadaeth ledled y wlad.

Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi elwa o brosiect sydd wedi cael cyllid gan y Loteri Genedlaethol ar ryw adeg yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

O feithrin ysbryd cymunedol a balchder lleol, i hyrwyddo arwyr tawel ac annog dawn greadigol neu athrylith chwaraeon, drwy achub rhywogaethau a chadw tirnodau, mae effaith arian y loteri wedi bod yn enfawr.

cronfar loteri 30

Mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, cyfarfu'r Prif Weinidog a'i chyd-Aelodau yn y Senedd ag ystod eang o sefydliadau a grwpiau cymunedol sy'n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i wneud pethau anhygoel.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:


“Ers tri degawd, mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn trawsnewid cymunedau ac yn cyfoethogi bywydau ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys bron i £400 miliwn o gyllid y Loteri sydd wedi’i ddyfarnu i Gyngor Celfyddydau Cymru i tua 17,000 o brosiectau, gan sicrhau bod y celfyddydau a diwylliant yn ffynnu ledled ein gwlad.

“Mae’r Loteri wedi cyllido achosion da ym mhob ardal cod post yng Nghymru, sy’n adlewyrchu ehangder ac effaith yr hyn sydd wedi’i gyflwyno. Diolch yn fawr iawn i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am godi £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU.”


Cafodd y digwyddiad ei gynnal mewn partneriaeth ag Allwyn – gweithredwyr y Loteri Genedlaethol - ynghyd â phedwar dosbarthwr y Loteri Genedlaethol sy'n gweithredu yng Nghymru: Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru.

Cafodd mwy na dwsin o brosiectau eu cynrychioli yn y Senedd er mwyn trafod sut maen nhw'n defnyddio arian y loteri i wneud gwahaniaeth.

Roedd y rhain yn cynnwys:

• WeMindTheGap, sydd wedi cael £4.9m yn ddiweddar i gefnogi eu gwaith gyda phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio ledled gogledd Cymru ac sy’n aml wedi wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan arwain at lefelau uchel o unigedd.

• Cariad Pet Therapy, sefydliad sy'n defnyddio arian y loteri i ddarparu therapi anifeiliaid anwes i unigolion ynysig yn y gymuned ac mewn lleoliadau gofal, ysbytai, unedau iechyd meddwl, ysgolion a gweithleoedd ledled De Cymru.

• StreetGames, sefydliad sy'n cael ei gefnogi gan arian y loteri i ddefnyddio pŵer chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella bywydau pob plentyn a pherson ifanc difreintiedig yng Nghymru yn ogystal â'r cymunedau maen nhw’n byw ynddynt.

• Partneriaeth Natur am Byth, sydd wedi dod â 10 sefydliad cadwraeth blaenllaw at ei gilydd i warchod ac achub 67 o rywogaethau mwyaf bregus Cymru.

• Horizons / Gorwelion, menter sy'n helpu i feithrin talent newydd yn y sîn gerddoriaeth Gymreig diolch i arian y loteri.

cronfar loteri 30

Dywedodd Andrew White, Cadeirydd Fforwm Loteri Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Cymru gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: 

“Mae’r Loteri Genedlaethol wedi newid bywydau pobl Cymru. Mae ei heffaith ar y celfyddydau, ffilmiau, treftadaeth, chwaraeon a chymunedau ledled Cymru yn enfawr. Ers tri degawd, mae wedi grymuso unigolion a chymunedau, gan alluogi miloedd o brosiectau trawsnewidiol. Wrth i ni ddathlu'r cyflawniad rhyfeddol yma, rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaddol yma a chefnogi mwy fyth o brosiectau arloesol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 


Dywedodd Cadeirydd Allwyn, Justin King CBE:


“Rydyn ni’n dathlu £2.4 biliwn o gyllid i gefnogi Achosion Da ledled Cymru – a’r cyfan diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

“Y tu hwnt i newid bywydau dirifedi, trawsnewid cymunedau a chreu miliwnyddion, mae gan y Loteri Genedlaethol tua 2,600 o fanwerthwyr ymroddedig ledled Cymru sy’n gweithredu fel ei hwyneb cyhoeddus, ac mae cyfanswm anhygoel o 408 o filiwnyddion y Loteri Genedlaethol wedi cael eu creu yng Nghymru ers 1994.

“Wrth i ni edrych ymlaen, mae ein cynlluniau ni i drawsnewid y Loteri Genedlaethol ar y gweill ac rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i adeiladu ar y stori lwyddiannus yma.”


Am fwy o wybodaeth am arian y Loteri Genedlaethol yn eich ardal chi, ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk