Skip to main content

Former NME Editor Mike Williams Launches Campaign to Celebrate Wrexham and Flintshire’s National Lottery Lifechangers

1st February 2019

Mae’r Loteri Genedlaethol yn dathlu degawdau o newid bywydau trwy gyfrannu miliynau o bunnoedd i achosion da led led Wrecsam a Sir y Fflint trwy lansio ymgyrch i hyrwyddo pobl anhygoel ar draws yr ardal.

Former NME Editor Mike Williams

Dros y chwarter canrif diwethaf, mae’r Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu bron i £101m i fwy na 4,600 o achosion da yn Wrecsam a Sir y Fflint. Mae elusennau, grwpiau cymunedol, prosiectau chwaraeon ar lawr gwlad, mudiadau a phrosiectau celfyddydol a diwylliannol, athletwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, a safleoedd treftadaeth oll wedi elwa a chael budd o’r arian. Dros y ddau fis nesaf, bydd ymgyrch Newid Bywydau'r Loteri Genedlaethol yn adrodd yr hanes am sut mae’r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol bob wythnos dros achosion da wedi newid bywydau pobl gyffredin yn Wrecsam a Sir y Fflint mewn ffordd bositif.


Lansiwyd yr ymgyrch heddiw (Dydd Gwener 1 Chwefror) gan y Newyddiadurwr a aned yn Wrecsam a chyn Prif Olygydd y cylchgrawn cerddoriaeth eiconig NME, gyda ffilm fer lle mae’n ymweld â’i hen gyrchfannau gan ddysgu hefyd am sut mae prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno newidiadau a chyfleoedd yn yr ardal. -

Gan ymweld â’r cyfleusterau chwaraeon a chymunedol mwyaf diweddar yng Ngholeg Cambria ar Lannau Dyfrdwy, a wnaed yn bosibl gan y £2.8 miliwn a wobrwywyd gan y Loteri Genedlaethol ers 1994, dywedodd: “Pan oeddwn yn blentyn yn tyfu i fyny ym Mharc Caia, roeddwn arfer bod i lawr yn y clwb athletau lleol o leiaf dwywaith yr wythnos. Gall cael cyfleusterau o’r fath ar eich carreg drws fod yn gwbl drawsnewidiol i fywydau pobl ifanc. Dyna pam mae’r buddsoddiad oddi wrth y Loteri Genedlaethol yn yr arena athletau dan do yng Ngholeg Cambria ar Lannau Dyfrdwy mor bwysig.”

Dywedodd y newyddiadurwr sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi gweithio gyda sêr megis Syr Paul McCartney a Kylie Minogue, “Mae llawer o bethau wedi newid yn Wrecsam ers i mi gael fy magu yma, ond un peth sydd wedi aros yr un fath yw Moonlight Records. Roeddwn arfer mynd yno wedi’r ysgol a gwario fy holl arian poced ar albymau, ac oni bai am y lle yna, ni fyddwn, fwy na thebyg, wedi bod mor angerddol am gerddoriaeth nac wedi mynd i weithio i gylchgrawn y NME. A nawr, diolch i bron £2.5 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, mae canolfan ddiwylliannol wych gan Wrecsam hefyd sef Tŷ Pawb - man perfformio ac arddangos ym marchnad dan do'r dref. Roedd cerddoriaeth yn rhan mor anferthol o’m mywyd wrth dyfu i fyny ac mae cael rhywle fel hyn lle’r ydych yn gallu cymysgu gyda phobl o’r un anian, gweld cerddoriaeth fyw a chymryd rhan yn y sîn diwylliannol yn anhygoel o bwysig i ddatgloi'r math hwnnw o angerdd mewn pobl ifanc heddiw.”

Mae prosiect mawr arall ar fynd yn yr ardal sy’n cyd-fynd â delfrydau Mike yng Ngwaith Dur Brymbo. Hyd yn hyn, mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwobrwyo bron i £3.5 miliwn fel rhan o’r cynlluniau urddasol i drawsnewid y safle i gyrchfan cymunedol, treftadaeth a hamdden.

Dywedodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Morgan Llwyd: “Roedd fy Nad yn Farsialydd Tân yng Ngwaith Dur Brymbo. Cafodd y lle cyfan ei gau yn 1990, ond mae’r Loteri Genedlaethol erbyn hyn yn buddsoddi miloedd i’w adfywio. Mae’n wych gweld y man lle’r oedd yn gweithio yn dod yn rhywle y gall y gymuned gyfan ei fwynhau.”

Dywedodd Oswyn Hughes, Pennaeth Ymgyrchoedd (Cymru) ar ran Achosion Da'r Loteri Genedlaethol “Nid yw’r Loteri Genedlaethol yn newid bywydau’r sawl sy’n ffodus i ennill pob wythnos yn unig. Mae hefyd yn newid bywydau pobl gyffredin ar draws y wlad trwy’r miliynau y mae’n ei godi at achosion da. Fodd bynnag, ni fydd nifer o bobl yn Wrecsam a Sir y Fflint sy’n defnyddio’r amgueddfeydd, orielau celf, elusennau, canolfannau hamdden a pharciau adnabyddus yn ymwybodol o’r ffaith eu bod yn elwa o arian y Loteri Genedlaethol. Nid ydym yn gorbwysleisio wrth ddweud fod union wead y cymunedau led led Wrecsam a Sir y Fflint wedi cael ei newid er gwell gan y Loteri Genedlaethol.”

Ychwanegodd: “Nod ymgyrch Newid Bywydau'r Loteri Genedlaethol yw codi ymwybyddiaeth am sut mae’r buddsoddiad hwnnw wedi cael effaith bositif ar gymunedau yn Wrecsam a Sir y Fflint gan gynnig cyfleoedd anhygoel i newid bywydau i bobl.”


Edrychwch ar y cyfryngau lleol ac Achosion Da'r Loteri Genedlaethol ar Facebook, Trydar ac Instagram ynghyd â’r hashnodau #LotteryLovesWrexham #LotteryLovesFlintshire #Chwedlau’rLoteri dros y ddau fis nesaf am storïau am sut mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu i newid bywydau pobl yn Wrecsam a Sir y Fflint er gwell.

Nodiadau i olygyddion

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos tuag at achosion da led led y DU, gan ariannu ystod eang ac amrywiol o achosion da – maent yn cefnogi cymunedau lleol, yn adeiladu cyfleusterau a chyrchfannau ymwelwyr o safon Fyd-eang, yn grymuso timau chwaraeon, yn diogelu’r amgylchedd, yn datgloi doniau creadigol, yn gofalu am yr henoed ac yn datgloi potensial ieuenctid. Yn ychwanegol at hyn, mae cefnogaeth oddi wrth y Loteri Genedlaethol yn arwain at ennill medalau Olympaidd a gwobrau Oscars.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Ffion Rees (ffion.rees@workingword.co.uk) neu Daniel Tyte (daniel.tyte@workingword.co.uk) yn Working Word ar 029 2045 5182.