Skip to main content

Challenging Limits

28th October 2020

by National Lottery Good Causes

Herio Terfynau

Mal Emerson and the bench dedicated to him at Port Talbot, South Wales

Helo, Jay Blades ydw i. Dyma un o’r 12 mainc a ddyluniais i ddathlu’r rheini sy’n wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i gymunedau yn ystod y pandemig Covid-19.

Bu bron i Mal Emerson gael ei ladd wedi damwain yng ngweithfeydd dur Port Talbot yn 1997.

Am flynyddoedd, fe fu’n brwydro i wella ei ffitrwydd a dim ond ambell gan fedr y gallai gerdded ar yr un tro.

Yna yn 2017, sefydlodd Marauders Men’s Health, grŵp cerdded i ddynion gan ganfod hyd at 50 o ddynion eraill yn ymuno ag ef yn gyflym, a llawer ohonynt yn dioddef o anafiadau, cyflyrau gwanychol ac iechyd gwael.

Yn gyflym, daeth y grŵp yn lle i gerddwyr rannu eu pryderon am eu hiechyd a’u lles meddyliol eu hunain, oedd yn destun tabŵ i’w osgoi yn draddodiadol i nifer o ddynion hŷn.

Gyda dechrau’r cyfnod clo fodd bynnag, roedd dod â’r grŵp cyfan ynghyd wedi dod yn amhosibl.

Yn hytrach na hynny, newidiodd y grŵp i drefnu teithiau cerdded llai a gweithio o fewn timau i helpu cyflenwi banciau bwyd, gan gynnwys cefnogaeth ychwanegol i aelodau’r grŵp a effeithiwyd waethaf.

Dywedodd Mal: “Mae’n broses gostyngedig iawn i’w weld ac mae’n un hynod o ysbrydoledig.

"Daethom oll ynghyd i helpu’n gilydd – gan gynnwys sefydlu ein tîm ymateb Covid ein hunain oedd yn siopa ac yn estyn help llaw i’n gilydd.

“Wedi siarad gyda’r rhai o’r bobl hynny oedd yn y Banciau Bwyd, ymunodd chwech neu saith o ddynion eraill â’r grŵp o bobl. Nid oedd rhai ohonynt prin wedi gadael eu cartrefi yn flaenorol.“

Mae nifer y gwirfoddolwyr o fewn y grŵp wedi tyfu’n gyflym. Mae nifer ohonynt wedi ymddeol ac mae hyn wedi rhoi ystyr a diben newydd iddynt trwy eu hannog i barhau’n iach a chadw’n heini.

Mae’r elusen yn un o nifer yn unig a gefnogir gan Y Loteri Genedlaethol gyda chwaraewyr yn cyfrannu tua £30 miliwn yr wythnos tuag at achosion da. Mae’r gefnogaeth hon wedi caniatáu i rai o’r aelodau ddechrau cyrsiau hyfforddiant ffitrwydd neu Weight Watchers hyd yn oed.

Yn y cyfamser, mae’r elusen hefyd wedi cynnig cefnogaeth i ddwsin o wŷr gweddw, gan helpu i atal unigrwydd ac iselder.

Dywedodd Mal: “Mae gennym grŵp o tua 80 o ddynion ac os oes unrhyw un mewn trafferth, rydym yn rhoi neges ar grŵp WhatsApp, ac o fewn awr, gallwn gael 10 neu 12 o ddynion yno i’w helpu ar unwaith.”

“Mae hyn wedi arbed nifer o fywydau. Nid therapyddion na chynghorwyr ydym ni ac rydym yn dweud hyn wrth bawb – pobl ysbrydoledig ydym ni’n unig sydd wedi bod mewn lleoedd tywyll ein hunain.“

Uchafbwynt penodol i’r cyfnod clo ar gyfer Mal oedd dringo Ben Nevis, er ei fod yn cyfaddef ‘bod yn ei ddagrau’ am y chwarter milltir olaf.

Dywedodd: “Roedd rhaid i mi ysbrydoli eraill i ddweud y gallwn ymladd yn ôl ac y gallwn wneud pethau fel hyn. Felly dyma oedd fy uchafbwynt personol.“

Mae’r grŵp yn cynnwys dynion yn dioddef o Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD) sydd wedi ymateb yn bositif iawn hefyd i fod allan yn yr awyr agored.

Esboniodd Mal, sydd wedi sefydlu clwb pêl-droed a chlwb paffio yn flaenorol, fod nifer o ddynion yn profi iselder pan fyddant yn ymddeol.

“Maen nhw jyst yn suddo,“ dywedodd. “Maen nhw’n colli’r frawdoliaeth a‘r cyfeillgarwch – rydych yn meddwl fod gennych lawer o ffrindiau ond pan fyddwch yn ymddeol, does gennych chi ddim ffrindiau yn weddill ac mae llawer o ddynion yn eistedd adref ac yn dechrau yfed.

“Yna tra oeddem yn cerdded, fe ddechreuom sylweddoli ein bod yn siarad am iechyd corfforol a meddwl, gan helpu ac ysbrydoli ein gilydd. Mae wedi tyfu o’r cychwyn hwnnw i ddod yn fudiad pwerus iawn, iawn.

“Rydym yn hoffi herio terfynau yn hytrach na chyfyngu ar heriau, dyna yw ein ffordd ni o edrych ar bethau.