Skip to main content

Lotts to celebrate in the UK as 2021 Award’s campaign begins

26th Ebrill 2021

Ymgyrch flynyddol yw Gwobrau’r Loteri Genedlaethol i ganfod hoff bobl a phrosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac, eleni, mae'r actores a'r cyflwynydd teledu, Jacqueline Jossa, wedi ymuno â'r Loteri Genedlaethol i chwilio am unigolion a grwpiau ysbrydoledig ledled y DU.

Mae Jacqueline, sy'n adnabyddus am bortreadu Lauren Branning yn opera sebon y BBC EastEnders rhwng 2010 a 2018, ac ennill y bedwaredd gyfres ar bymtheg o'r gyfres ITV I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! yn 2019, yn annog y cyhoedd i enwebu'r bobl a'r prosiectau sy'n gwneud pethau eithriadol yn eu cymuned gyda chymorth arian Y Loteri Genedlaethol - yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Llynedd, enwyd Wasem Said, 29, dyn drws ac ymladdwr celfyddydau ymladd cymysg o Dre-biwt, Caerdydd, fel enillydd y DU gyfan o fewn y Categori Chwaraeon yn y Gwobrau am ei waith ysbrydoledig yn helpu pobl ifanc a’i gymuned yn ystod y pandemig. Agorwyd Clwb Bocsio Amatur Bae Teigr gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol yn Nhre-biwt gan Wasim ddwy flynedd yn ôl. Yn ystod y pandemig, roedd wedi arwain tîm o wirfoddolwyr ifanc sydd wedi bod yn dosbarthu hyd at 120 o flychau bwyd yr wythnos i deuluoedd sy’n agored i niwed ac yn diogelu a gwarchod eu hunain.

Yn 2020 roedd bron 5000 o enwebiadau wedi cael eu gwneud ac unwaith eto, mae’r Loteri Genedlaethol yn edrych i glywed mwy am y sawl sydd wedi mynd y filltir ychwanegol, gan wneud pethau anhygoel ac ysbrydoli eraill. Mae unrhyw un sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys am enwebiad.

Bydd enillwyr ym mhob categori yn derbyn gwobr ariannol o £3,000 i’w sefydliad a thlws Gwobrau’r Loteri Genedlaethol sy’n boblogaidd iawn.

“I hope lots of people nominate their local heroes as they deserve to be celebrated, especially during these challenging times when many need the support more than ever. So much National Lottery funding goes to great causes and allows these local heroes to continue their inspirational work within our communities and it is thanks to National Lottery players that this can continue.”

Former EastEnders actress and National Lottery Awards ambassador Jacqueline Jossa

Jacqueline Jossa

“Since 1994, The National Lottery has made a huge positive impact on life across the UK. Thanks to National Lottery players and the £30 million raised each week for good causes, thousands of organisations are making an incredible impact and difference in their local areas. “The last 12 months have been extremely tough on us all. But as we hope for better days ahead, we are constantly astounded by the way ordinary people and projects responded to adversity with heroic yet simple acts of love, kindness and selflessness that will be long remembered. The National Lottery Awards seek to honour those who have stepped up and work tirelessly on behalf of others. We want to thank them and celebrate their incredible efforts.”

Jonathan Tuchner, from The National Lottery

Julie Morrison, winner of the Community Charity category in 2020

Gan gwmpasu holl agweddau ariannol y Loteri Genedlaethol tuag at achosion da, mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn ceisio cydnabod unigolion neilltuol o fewn y sectorau canlynol:


Diwylliant, Y Celfyddydau a Ffilm

Treftadaeth

Chwaraeon

Cymunedol/Elusennol


Fe fydd Gwobr Arwr/Arwres Ifanc arbennig ar gyfer rhywun sydd dan 18 mlwydd oed a aeth y filltir ychwanegol o fewn eu sefydliad. Rhaid i’r holl enwebai weithio neu weithredu o fewn sefydliad a ariennir gan y Loteri Genedlaethol neu fod wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol.

Bydd enillwyr y categorïau yn cael eu dewis gan banel beirniadu sy’n cynnwys aelodau o deulu’r Loteri Genedlaethol a phartneriaid.

Yn ychwanegol at hyn, mae prosiectau o unrhyw sector sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys i ymgeisio o fewn categori Prosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn. Bydd un ar bymtheg o gystadleuwyr terfynol sydd ar y rhestr fer yn cystadlu am y bleidlais gyhoeddus led led y DU i hawlio’r teitl hwn.

I wneud enwebiad am Wobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, trydarwch @LottoGoodCauses gyda’ch awgrymiadau neu lenwi ffurflen ymgeisio trwy ein gwefan https://www.lotterygoodcauses.org.uk/cy/awards

Rhaid derbyn ymgeision erbyn canol nos ar 7 Mehefin 2021.